Pryder nad yw plant Cymru'n dysgu am hanes Windrush
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd rhai o genhedlaeth Windrush a symudodd i Gymru yn poeni nad yw pobl ifanc yn gwybod digon am yr hanes.
Mae hi'n 75 mlynedd ers i gwch yr Empire Windrush gyrraedd y Deyrnas Unedig o ynysoedd y Caribî ym 1948.
Windrush yw'r term sy'n cael ei ddefnyddio bellach am y genhedlaeth o bobl Garibïaidd a gyrhaeddodd y DU rhwng 1948 a 1971, pan newidiodd cyfreithiau mewnfudo Prydain.
Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru a Phrydain i nodi'r pen-blwydd a dathlu cyfraniad y genhedlaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod hi'n orfodol i ddysgu am hanes a phrofiadau pobl ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol yn y cwricwlwm newydd.
'Cyfraniad y genhedlaeth'
Mae Wayne ac Elinor Howard o Gaerdydd yn fab ac wyres i Neville Howard, a deithiodd o Jamaica yn 19 oed ym 1947.
Maen nhw'n credu nad yw hanes a chyfraniad Neville ac aelodau eraill o'r genhedlaeth Windrush yn ddigon hysbys ymhlith y genhedlaeth iau, na chwaith yn cael ei werthfawrogi'n ddigonol.
"Dwi'n credu bod y genhedlaeth hon ddim yn ymwybodol am gyfraniad y genhedlaeth Windrush," meddai Wayne.
Ychwanegodd Elinor: "Nes i ddysgu am hanes Windrush o fy nhad a fy nhaid. Dyw fy ffrindiau ddim yn gwybod beth yw Windrush yn fy nghenhedlaeth i.
"Dwi'n credu mae'n bwysig i bobl o fy nghenhedlaeth i ddysgu am Windrush. Mae'n neis i bobl yn y wlad yma wybod lle maen nhw wedi dod."
Ymgartrefu yng Nghaerdydd
Gadawodd Neville Howard Jamaica yn 1947 yn 19 oed ar ôl i'w fam farw.
Roedd yn un o 11 o blant a phenderfynodd chwilio am fywyd newydd.
Yn ôl Wayne fe guddiodd Neville ar fwrdd llong HMS Almanzore ac ar ôl cyrraedd Prydain cafodd ei arestio a'i rhoi yn y carchar am fis gan nad oedd wedi talu am ei docyn.
Wedi iddo dreulio amser yn Southampton, symudodd i Gaerdydd a dyna oedd ei gartref tan iddo farw yn 94 oed y llynedd.
Dywedodd Wayne, 69, nad oedd ei dad am siarad am y cyfnod cynnar gan ei fod wedi cael nifer o brofiadau hiliol wnaeth iddo deimlo'n "grac a chwerw".
Cafodd ei alw'n enwau gan blant a gwrthodwyd llety iddo.
Wrth sôn am brofiadau ei dad dywedodd Wayne ei fod yn credu bod hiliaeth yn parhau i fodoli ond ei fod yn "llai amlwg".
"Ti ddim yn gallu gweld e yn dy wyneb ond mae dal yma," meddai.
Ychwanegodd Wayne ei fod yn teimlo bod ei dad wedi mwynhau byw yng Nghymru ar y cyfan a'i fod wrth ei fodd yn canu ac yn perfformio ar rhai o strydoedd y brifddinas.
"Fi'n falch iawn o beth ma' cenhedlaeth Windrush wedi 'neud," dywedodd.
Dywedodd merch Wayne ac wyres Neville, Elinor, sy'n 27 oed, fod ganddi berthynas agos gyda'i thad-cu.
Mae ganddi atgofion hapus o dreulio amser yn ei gwmni, ond roedd yn sioc fawr pan glywodd hi am y profiadau hiliol gafodd ei thad-cu.
"Dwi erioed wedi cael hiliaeth yn bersonol, felly pan glywais i am brofiadau fy nhaid roedd 'na sioc," meddai.
"Roedd e'n eitha' trist i glywed."
Nid oedd Elinor wedi dysgu am hanes y genhedlaeth Windrush yn yr ysgol ac mae hi'n meddwl bod angen cyflwyno mwy o addysg am yr hanes er mwyn codi ymwybyddiaeth a chydnabod cyfraniad y genhedlaeth.
Cwympo mewn cariad â Chymru
Ar ben-blwydd glaniad cwch Windrush 75 mlynedd yn ôl, mae hi'n edrych ymlaen at y dathlu.
"Dwi'n credu bod e'n celebration i bawb ddod at ei gilydd, fy nghenhedlaeth i, yr ail genhedlaeth fel fy nhad.
"Dwi ddim yn credu bod nhw'n dod at ei gilydd yn aml ac felly, unwaith y flwyddyn, mae'n neis i bawb dod at ei gilydd a dysgu."
"O'dd huge generation o'r Windrush a phobl o Jamaica yn gweithio yn y ffatris ym Mhort Talbot," meddai Jalisa Phoenix-Roberts o'r dref.
Mae ei mam-gu yn wreiddiol o Jamaica ac roedd yn rhan o'r genhedlaeth Windrush ddaeth i Brydain.
Teithiodd ei mam-gu i Bort Talbot yn benodol i gael gwaith yn y dref ar ôl i'w chyfnither ymgartrefu yno.
Ei bwriad yn wreiddiol oedd treulio ychydig fisoedd yno a gyrru arian adre i'w theulu, ond yn ôl Jalisa mi syrthiodd mewn cariad â Phort Talbot a phenderfynu aros yno a dechrau teulu.
"O'dd hi'n rili hapus ym Mhort Talbot - roedd y gymuned mor agos a 'naethon nhw gymryd nhw o dan eu hadenydd," meddai.
"Dwi'n teimlo'n rili lwcus 'naeth hi ffeindio Port Talbot."
'Ni wedi colli mas'
Dywedodd Jalisa bod anwybodaeth am hanes cenhedlaeth Windrush, yn enwedig ymhlith pobl iau.
"Ma' na push bach blwyddyn yma bod plant yn yr ysgol yn gorfod dysgu amdano fe, ond ni wedi colli mas tipyn bach bo' ni heb glywed e wrth y bobl 'naeth ddod draw," meddai.
Mae hi'n meddwl bod y pen-blwydd yn gyfle i ddathlu a dangos gwerthfawrogiad.
"Mae Windrush yn meddwl hanes, ma' fe'n meddwl hope, ma' fe'n meddwl teulu. Heb y Windrush byddwn i ddim yma a fi'n rili gwerthfawrogi'r amser yna.
"Fi'n gwybod o'dd e'n anodd i bawb ddoth draw a dwi mor ddiolchgar i bawb wnaeth wneud y siwrnai i ddod draw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2023