'Rhai anghysondebau' gyda'r broses o ddiogelu plant

  • Cyhoeddwyd
MerchFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r broses o ddiogelu plant yng Nghymru yn gweithio'n dda yn gyffredinol ond mae rhai anghysondebau, yn ôl yr arolygiaeth gofal.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn adolygu trefniadau amddiffyn plant yn dilyn nifer o farwolaethau trasig yng Nghymru a Lloegr.

Fis diwethaf nododd ymchwiliad gan BBC Cymru fod 32 adolygiad ar y gweill ar ôl i blant farw neu ddioddef anaf difrifol oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod wedi ymrwymo i wneud "gwelliannau parhaus", gan weithio gyda'r arolygiaeth i fynd i'r afael â'r materion sydd wedi codi.

Nod yr adolygiad yw edrych ar sut mae'r strwythurau presennol yn sicrhau bod plant yn cael eu gosod ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn briodol, a'u tynnu oddi arni.

Bellach mae'r arolygiaeth gofal wedi cyhoeddi adolygiad interim gyda saith o ganfyddiadau.

Yn ôl Gillian Baranski, prif arolygydd AGC, mae'r canfyddiadau wedi eu ffurfio ar sail adborth o faes addysg, yr heddlu, iechyd a'r byrddau diogelu rhanbarthol, yn ogystal â phobl ifanc sydd wedi bod ar y gofrestr amddiffyn plant.

"Mae'r canfyddiadau cychwynnol wedi dangos bod arferion da yn bodoli, fodd bynnag mae angen eu cymhwyso'n gyson yn lleol ac yn genedlaethol," meddai Ms Baranski.

"Mae angen i ni sicrhau bod llais y plentyn yn ganolog i wneud penderfyniadau."

Rhannu gwybodaeth yn effeithiol ond yn amrywio

Yn ôl yr adolygiad interim mae'r ddealltwriaeth o blant sydd mewn perygl o brofi niwed sylweddol, yn dda ar y cyfan, er nad yw'r ddealltwriaeth yn "gyson" ymhlith cynghorau ac asiantaethau eraill fel yr heddlu a byrddau iechyd.

Mae'n dweud hefyd fod rhannu gwybodaeth yn effeithiol yn sgil y prosesau diogelu presennol, ond yn ymarferol mae'n amrywio ar draws y wlad.

Mae meysydd eraill lle mae arferion yn amrywio, gan gynnwys sut mae profiadau bywyd plentyn yn cael ei ystyried wrth wneud penderfyniadau ac wrth asesu'r risg o niwed sylweddol.

Yn ogystal, mae cydweithio yn amlwg medd yr adolygiad, ond nid yw bob amser yn arwain at oruchwyliaeth gyson o arfer rheng flaen.

Yn gyffredinol, mae'n nodi bod y broses o gofrestru a dadgofrestru plant yn cael ei dilyn yn briodol.

Ychwanegodd Ms Baranski bod y gwaith ymgynghori'n parhau a'u bod nhw'n awyddus iawn i glywed mwy gan blant a phobl ifanc.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rocio Cifuentes fod angen gweithredu er mwyn gwneud y system yn fwy effeithiol

Ond mae Comisiynydd Plant Cymru yn dweud er bod rhai elfennau cadarnhaol wedi'u nodi yn yr adroddiad mae angen cymryd "mwy o gamau i sicrhau bod y systemau hyn yn gweithio'n ddi-dor ac yn effeithiol i blant a'u teuluoedd".

Ychwanegodd Rocio Cifuentes ei bod yn "teimlo'n rhwystredig o weld adroddiad arall sy'n amlygu bod amddiffyn plant effeithiol yn cael ei rwystro gan rannu gwybodaeth aneffeithiol a diffyg ymgysylltu â phlant eu hunain i ddeall eu profiad bywyd".

Nododd Ms Cifuentes ei bod yn parhau i godi ei phryderon gyda Llywodraeth Cymru a'i bod yn gwneud darn o waith yn pwyso am ffocws cryfach ar wella'r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd sy'n ymwneud â system amddiffyn plant Cymru.

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Estyn hefyd yn ymwneud â'r gwaith ymchwil ac mae disgwyl i'r adolygiad terfynol gael ei gyhoeddi fis Medi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n ni'n croesawu'r adroddiad interim hwn, sy'n dangos bod sylfeini'r system yn gadarn a bod trefniadau aml-asiantaeth yn gweithio'n dda mewn sawl ardal.

"Ond rydym wedi ymrwymo i wneud gwelliannau parhaus ac yn gweithio gyda'r arolygiaeth i fynd i'r afael â'r materion a godwyd."