Cynnydd sylweddol mewn adolygiadau diogelu plant
- Cyhoeddwyd
Mae 32 adolygiad ar y gweill i farwolaethau plant, neu blant sydd wedi eu hanafu'n ddifrifol, o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod yng Nghymru.
Pan fydd plentyn yn marw neu'n cael anaf gwael mae adolygiad ymarfer plant yn cael ei gomisiynu i weld pa wersi y mae modd eu dysgu.
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn galw am newid y system diogelu plant er mwyn atal rhagor o achosion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddi "raglen uchelgeisiol i drawsnewid gwasanaethau plant", fydd yn cynnwys cyfathrebu gwell ar draws y wlad.
Cynnydd sylweddol
Mae sawl achos wedi bod yn ddiweddar o farwolaethau plant a gafodd eu cam-drin neu eu hesgeuluso.
Bu farw Lola James, Kaylea Titford a Logan Mwangi mewn amgylchiadau trychinebus.
Mae'r adolygiadau ymarfer plant yn cael eu comisiynu gan y chwe bwrdd diogelu rhanbarthol yng Nghymru, ac mae argymhellion yn cael eu cyhoeddi ar gyfer pob sefydliad fyddai wedi chwarae rhan ym mywyd y plentyn - ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu.
Mae BBC Cymru wedi gofyn i bob bwrdd faint o adolygiadau sydd wedi eu cyhoeddi dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Y nifer fwyaf sydd wedi eu cyhoeddi mewn unrhyw flwyddyn ers 2017 yw 10, ond eleni mae 32 adolygiad ar y gweill.
Nid oes modd cymharu'r 32 adolygiad eleni yn uniongyrchol â'r blynyddoedd blaenorol gan fod y gwaith arnynt yn parhau, tra bod y ffigyrau ers 2017 wedi eu cyhoeddi.
Ond mae'r cyfanswm presennol wedi'i ddisgrifio fel "brawychus".
"Mae pob marwolaeth neu achos difrifol sy'n golygu adolygiad o'r math yn achos erchyll ac yn achos difrïol," meddai Lewis Lloyd o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.
"Beth sy'n hollbwysig yw bod system gyda ni sy'n dysgu gwersi o bob un o'r adolygiadau hynny yn effeithiol, ac yn gwneud yn siŵr bod yr argymhellion ar ôl pob adolygiad yn cael eu gweithredu'n effeithiol ar lefel cenedlaethol ac ar lefel lleol.
"Ar hyn o bryd mae gyda ni gwestiynau am effeithiolrwydd y system hynny."
Mae swyddfa'r comisiynydd hefyd yn dweud eu bod wedi codi pryderon am y system diogelu plant am flynyddoedd, a bod nifer o adolygiadau ymarfer plant yn amlygu themâu sy'n codi dro ar ôl tro.
Mae gan Dr Dewi Evans, sy'n ymgynghorydd meddygaeth plant, brofiad helaeth o gyflwyno tystiolaeth mewn achosion llys.
Mae hefyd yn darparu cyngor meddygol arbenigol ar faterion clinigol lle mae amheuaeth o gam-drin plant neu esgeulustod clinigol, ac mae'n ofni nad yw'r sefyllfa yn mynd i wella.
"Maen nhw i gyd yn drychineb. Fydd rhywbeth fel hyn yn digwydd yn rhywle flwyddyn nesa' heb os, a'r flwyddyn ar ôl hynny, oherwydd 'da ni'n 'neud dim i leihau ar y teuluoedd sy'n dlawd, sydd mewn sefyllfa fregus.
"Mae 'na doriadau wedi digwydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yn yr adnoddau sydd ar gael i lywodraethau lleol."
Ychwanegodd, heb os, fod y pandemig wedi cyfrannu at nifer uchel yr adolygiadau ymarfer plant, ond bod cynnydd yn yr hyder i adnabod camdriniaeth a'i gofnodi yn ffactor hefyd.
Dywedodd Dr Evans hefyd fod angen "un gofrestr" dros Gymru gyfan ar gyfer plant lle mae pryder am eu lles.
"Byddai'r heddlu a llywodraeth leol, a'r gwasanaethau iechyd yn gallu mynd mewn i'r un gofrestr," meddai.
Ar hyn o bryd mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i newid y system adolygiad ymarfer plant i greu Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.
Byddai'r system hon yn cyfuno adolygiadau ymarfer plant ac oedolion, ac adolygiadau o ddynladdiad.
Er bod y cynlluniau'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, mae swyddfa'r Comisiynydd Plant yn dweud nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell a bod bylchau yn y ddarpariaeth o'i gymharu â Lloegr.
'Rhaglen uchelgeisiol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae gennym raglen uchelgeisiol i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru, yn adeiladu ar ymchwil annibynnol, adolygiadau a gwerthuso, ac ry'n ni'n ymgynghori ar yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl, fydd yn cryfhau ymhellach y trefniadau atebolrwydd ry'n ni'n eu rhoi mewn lle trwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
"Bydd y broses newydd yn adnabod beth sydd angen ei ddysgu yn gynt, adeiladu gwell dealltwriaeth o beth ddigwyddodd yn ystod digwyddiad a pham, a darparu cynllun gweithredu eglur er mwyn gwella gwasanaethau.
"Yn bwysig, bydd yn sicrhau fod unrhyw beth sy'n cael ei ddysgu yn cael ei fabwysiadu ledled Cymru.
"Yn ddiweddar fe wnaethon ni gyhoeddi pecyn cymorth £10m i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol fel rhan o'n gwaith i recriwtio mwy o weithwyr cymdeithasol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2022