Logan Mwangi: Adolygu cyswllt rhwng asiantaethau diogelu plant

  • Cyhoeddwyd
LoganFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth adroddiad i gasgliad bod "cyfle wedi ei golli" i ddiogelu'r bachgen pum mlwydd oed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo y bydd y ffordd y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng y Gwasanaeth Iechyd, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu ac ysgolion yn cael ei adolygu.

Daw'r addewid yn dilyn adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg i'r hyn ddigwyddodd yn y misoedd cyn llofruddiaeth Logan Mwangi yn 2021.

Fe ddaeth yr adroddiad i gasgliad bod "cyfle wedi ei golli i ddiogelu" y bachgen pum mlwydd oed.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, y bydd y llywodraeth yn adolygu'r cyswllt rhwng asiantaethau diogelu plant ond ni fydd adolygiad cenedlaethol yn cael ei gynnal.

Yn Llys y Goron Caerdydd ym Mehefin, cafwyd ei fam, Angharad Williamson, ei lystad, John Cole a'i lysfrawd 13 oed, Craig Mulligan, yn euog o lofruddio Logan.

Cafodd ei gorff ei adael ger Afon Ogwr ddiwedd Gorffennaf y llynedd.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Angharad Williamson, Craig Mulligan a John Cole yn euog o lofruddiaeth Logan

Ddydd Iau, cafodd adroddiad Bwrdd Diogelu Cwm Taf ei gyhoeddi i'r hyn ddigwyddodd yn y misoedd cyn ei lofruddiaeth.

Fe dynnodd yr adroddiad sylw at gyfres o anafiadau gafodd eu gweld gan bediatregydd ar gorff Logan Mwangi 10 mis cyn ei farwolaeth.

Yn ôl yr adroddiad, does dim tystiolaeth bod gwybodaeth am yr anafiadau hyn wedi ei rannu gydag asiantaethau tu allan i'r bwrdd iechyd.

'Esgeulus'

Mewn ymateb ar raglen Newyddion S4C, fe ddywedodd yr ymgynghorydd ar ofal cymdeithasol, Delyth Lloyd Griffiths, fod y meddyg dan sylw wedi esgeuluso un o'u prif ddyletswyddau.

"Mae'n amlwg i mi nad yw'r meddyg ddim wedi dilyn y safonau cenedlaethol ddaeth i rym yn 2020," meddai, "ac na wnaeth y meddyg rannu gwybodaeth gyda'r gwasanaethau cymdeithasol fel y dylian nhw fod wedi gwneud.

"Wnaeth y meddyg ddim blaenoriaethu y peth pwysig fel diogelu plant, pethau sy'n cael eu gwneud gan bobl sy'n gweithio yn y maes diogelu plant bob dydd."

Doedd gan y Bwrdd Diogelu ddim sylw i wneud ynghylch a oedd unrhyw aelod o staff y Bwrdd Iechyd wedi cael eu disgyblu.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Logan ei ganfod ger Afon Ogwr, 250 metr o'i gartef

Roedd yr adolygiad o sut y mae gwybodaeth yn cael ei rhannu rhwng y GIG, gweithwyr cymdeithasol, yr heddlu a'r ysgolion yn un o argymhellion yr adroddiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cynnal yr adolygiad hwnnw.

Fe ddywedodd Julie Morgan AS y bydd yn rhaid cydweithio gyda'r Swyddfa Gartref i sicrhau y bydd yr heddlu yn rhan ohono.

"Mae rhannu gwybodaeth yn hanfodol oherwydd mae'r asiantaethau sy'n gweithio ym maes diogelu plant yn niferus ac mae'n hanfodol eu bod nhw'n rhannu eu gwybodaeth," dywedodd.

"Fel mae'r adroddiad yma yn dangos yn glir, wnaeth hyn ddim digwydd yn yr achos hwn."

Gwrthod adolygiad cenedlaethol

Ond mae'r llywodraeth yn dal i wrthod cais am adolygiad cenedlaethol o wasanaethau plant.

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, nawr yw'r amser i "weithredu ac nid amser am adolygiad arall."

Yn ôl Julie Morgan AS, mae mwyafrif llethol plant Cymru sy'n cael derbyn gofal gan y gwasanaethau cymdeithasol yn ddiogel.

"Rwy'n credu fod gennym ni weithwyr cymdeithasol da iawn ac o safon uchel, sydd wedi bod dan bwysau aruthrol yn ystod Covid ac oherwydd prinder staff sydd gennym ar hyn o bryd yn y sector gofal cymdeithasol.

"Ond mae'n bwysig cofio bod plant y system gofal, ar y cyfan, maen nhw'n cael gwasanaeth da iawn ond mae 'na fethiannau, fel 'dan ni 'di ei weld heddiw [ddydd Iau]."

Pynciau cysylltiedig