Teyrnged teulu i fachgen 15 oed fu farw yn Aberafan

  • Cyhoeddwyd
David EjimoforFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu David Ejimofor bod ganddo "wên heintus, natur ofalgar a brwdfrydedd diddiwedd"

Mae teulu bachgen 15 oed fu farw ar ôl mynd i drafferthion ger traeth Aberafan wedi rhoi teyrnged iddo, gan ei ddisgrifio fel "bachgen bywiog ac addawol" a gafodd ei "ddyfodol disglair" wedi'i dorri'n fyr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw nos Lun wedi adroddiadau fod bachgen wedi mynd i drafferthion yn y dŵr.

Fe gafodd David Ejimofor ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru, ond er gwaethaf ymdrechion, dywedodd Heddlu'r De nad oedd modd ei achub.

Mae ei deulu'n dweud y cafodd ei annog gan ei ffrindiau i neidio oddi ar y pier tra bo'r llanw'n uchel, fel rhan o ddathliadau diwedd arholiadau TGAU a Safon Uwch, cyn iddo farw.

Mae'r teulu wedi dechrau deiseb yn galw am welliannau i ddiogelwch y traeth, ac mae bron i £10,000 wedi cael ei godi er cof amdano.

Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu David wedi dechrau deiseb yn galw am welliannau i ddiogelwch y traeth

Dywedodd teulu David: "Gyda chalon drom a galar rydym yn cyhoeddi marwolaeth sydyn ein hannwyl David Ejimofor, a oedd yn fab, brawd, cefnder, nai a ffrind.

"Mi wnaeth ein hannwyl David, bachgen bywiog ac addawol 15 mlwydd oed, golli ei fywyd mewn damwain boddi ar draeth Aberafan ar 19 Mehefin 2023.

"Roedd ganddo angerdd diwyro am chwaraeon ac iechyd. Roedd o hyd yn ymdrechu i fod y fersiwn gorau o'i hun.

"Roedd ganddo wên heintus, natur ofalgar a brwdfrydedd diddiwedd. Fe gyffyrddodd â bywydau llawer o bobl.

"Mae'r digwyddiad torcalonnus yma wedi ein llorio.

"Cafodd breuddwydion David o ddyfodol disglair eu torri'n fyr, ond bydd yr atgof ohono o hyd yn byw yng nghalonnau'r bobl oedd yn ei adnabod ac yn ei garu."

Disgrifiad o’r llun,

Mae blodau wedi eu gadael ger y traeth yn Aberafan

Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol dywed Ysgol Uwchradd Gatholig Joseff Sant fod David yn ddisgybl talentog, disglair a oedd yn weithiwr caled.

"Roedd e'n gyfeillgar ac yn boblogaidd gyda'i wên yn goleuo'r ystafell ddosbarth.

"Roedd e'n gwrtais ac yn cael ei edmygu gan gyd-ddisgyblion ac athawon fel ei gilydd ac yn hynod o ffit."

Ychwanegodd y pennaeth Eugene Scourfield bod ei farwolaeth yn sioc i'r gymuned gyfan a bod yr ysgol yn cydymdeimlo gyda'i deulu.

Cyngor i ystyried y digwyddiad

Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Rydym yn ymwybodol bod dwy ddeiseb yn cael eu trefnu gan drigolion lleol ac mi fyddwn yn gwneud yn siŵr bod y rhain yn derbyn sylw o fewn y grŵp aml-asiantaeth sy'n cydlynu'r ymateb i'r digwyddiad trist iawn yma.

"Yn dilyn y digwyddiad trasig ar Draeth Aberafan rydym eisiau sicrhau trigolion bod diogelwch yn hollbwysig i ni a'n partneriaid. Mae amryw o wasanaethau brys yn gweithredu ar y traeth ar hyn o bryd ac rydym wedi'n hymroi i sicrhau diogelwch pawb sy'n ei ddefnyddio.

"Os bydd rhywun yn dyst i ddigwyddiad neu'n credu bod risg bosibl i unigolion yn y dŵr, rydym yn eu hannog yn gryf i weithredu ar unwaith drwy ffonio 999."

Dywedodd perchnogion y pier - Cymdeithas Porthladdoedd Prydain - y byddan nhw'n darparu unrhyw gymorth sydd ei angen ar yr awdurdodau wrth iddyn nhw ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig