Gwrthdrawiad ysbyty Llwynhelyg: Plentyn yn ddifrifol wael
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn bach yn parhau mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ger ysbyty yn Hwlffordd, Sir Benfro ddydd Mercher.
Yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng car a phobl ger Ysbyty Llwynhelyg, cafodd y plentyn ei gludo mewn ambiwlans awyr i ysbyty yng Nghaerdydd.
Cadarnhaodd yr heddlu bod y plentyn yn ddifrifol wael.
Mae gyrrwr y car yn parhau i dderbyn triniaeth am anafiadau difrifol, ac mae dau berson arall a gafodd eu cludo i'r ysbyty wedi eu rhyddhau.
Mae rhieni'r plentyn yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw toc cyn 12:00 ddydd Mercher, a dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.
Fe wnaeth swyddogion barhau ar y safle am rai oriau.
Dywedodd yr heddlu eu bod yn deall effaith "frawychus" digwyddiadau o'r fath ar y gymuned, gan ychwanegu y bydd timau lleol yn cynnig cefnogaeth dros y dyddiau ac wythnosau nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2023