Cyhoeddi tîm newydd Plaid Cymru yn y Senedd

  • Cyhoeddwyd
Plaid CymruFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Tîm Plaid Cymru yn y Senedd

Mae arweinydd newydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi ei dîm yn Senedd Cymru.

Mae Delyth Jewell wedi'i phenodi'n Ddirprwy'r Senedd, a bydd yn dirprwyo dros faterion seneddol gan gynnwys Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn absenoldeb yr arweinydd.

Mae'r cyn-ddirpwy arweinydd Sian Gwenllian yn "aelod dynodedig arweiniol" o ran y cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru.

Mabon ap Gwynfor fydd y llefarydd ar iechyd a gofal, tra bydd Luke Fletcher yn llefarydd yr economi.

Dywedodd Mr ap Iorwerth y byddai ffocws y blaid yn y Senedd yn "gadarn" ar faterion allweddol gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, tai a chostau byw.

Mae'r cyn-arweinydd Adam Price yn llefarydd ar gyfiawnder a materion Ewropeaidd.

Dyma'r tîm a benodwyd yn llawn:

  • Rhun ap Iorwerth - Aelod Dynodedig, cyfansoddiad

  • Delyth Jewell - Dirprwy Senedd, newid hinsawdd

  • Llyr Gruffydd - Cadeirydd y Grŵp, materion gwledig

  • Heledd Fychan - Rheolwr Busnes, addysg, y Gymraeg a diwylliant

  • Mabon ap Gwynfor - Prif chwip, iechyd, gofal cymdeithasol a thai

  • Adam Price - Cyfiawnder a materion Ewropeaidd

  • Peredur Owen Griffiths - Cyllid a llywodraeth leol

  • Sioned Williams - Cyfiawnder cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol

  • Luke Fletcher - Economi

  • Sian Gwenllian - Aelod Dynodedig Arweiniol

  • Cefin Campbell - Aelod Dynodedig