Plaid Cymru: Pwy yw'r arweinydd newydd Rhun ap Iorwerth?
- Cyhoeddwyd
Roedd marwolaeth ei fam yn 2012 yn allweddol ym mhenderfyniad Rhun ap Iorwerth i groesi'r gamfa fawr o newyddiaduraeth i wleidyddiaeth, meddai, gan ei weld fel ffordd o gyfrannu at ei gymuned.
Bu Gwyneth Morus Jones yn llywydd Mudiad Ysgolion Meithrin, undeb athrawon UCAC a Merched y Wawr.
Roedd hi hefyd yn un o aelodau olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn ddarpar-Lywydd Undeb yr Annibynwyr pan fu farw yn 68 oed.
Dywedodd ei mab wrth WalesOnline am y golled yn ddiweddarach: "Rwy'n meddwl bod hynny, ym mywyd rhywun, yn rhoi llawer mewn persbectif.
"Nid ydym yma am amser hir a dwi'n gwybod fod fy mam wedi gwneud cyfraniad enfawr i'w chymuned ac i Gymru.
"Roedd gweld y pethau a ddywedwyd amdani a'r diolchgarwch a ddangoswyd tuag at y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn dangos yn gwbl glir i mi na allwn fynd trwy fywyd heb wneud cyfraniad os oedd hynny'n bosibl o gwbl."
Yn ei fideo ym mis Mai a gafodd ei gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn cadarnhau ei fod yn bwriadu ymgeisio i arwain Plaid Cymru, roedd Rhun ap Iorwerth yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith iddo gael ei eni yng nghymoedd y de, fel arwydd mae'n debyg ei fod yn arweinydd allai bontio Cymru.
Ganed ef yn Nhon-teg, Rhondda Cynon Taf, a chafodd ei fagu ym Meirionnydd am gyfnod byr ac yna Ynys Môn.
Astudiodd wleidyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio yn 1993.
Bu hefyd, yn y cyfnod yn pontio ysgol a choleg, yn canu a chwarae'r gitâr mewn band Cymraeg byrhoedlog o'r enw 69 - enw a ddewiswyd mae'n debyg i nodi gwrthwynebiad i goroni Charles yn dywysog Cymru.
Cyn dod yn wleidydd, ac ar ôl astudio gwleidyddion yn y coleg, treuliodd tua dau ddegawd yn adrodd arnynt.
Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, a bu'n ohebydd adnabyddus yng Nghymru gan adrodd ar ddigwyddiadau gwleidyddol yn San Steffan a Bae Caerdydd ar deledu a radio.
Bu'n gyflwynydd ar raglenni Post Cyntaf a Dau o'r Bae ar Radio Cymru, ac ar Newyddion S4C, ynghyd â rhaglenni Saesneg y BBC fel The Politics Show Wales a Dragon's Eye.
Mewn corwynt gwleidyddol cyn isetholiad Ynys Môn yn 2013, rhoddodd y gorau i weithio i'r BBC yn sydyn ac fe gafodd enwebiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd.
Roedd y sedd yn wag yn dilyn penderfyniad gan gyn-arweinydd y blaid Ieuan Wyn Jones i adael siambr y Senedd i arwain parc gwyddoniaeth newydd M-SParc.
O ystyried ei rôl ddiduedd flaenorol gyda BBC Cymru, fe wnaeth y cam dramatig ysgogi cwestiynau gan reolwyr y gorfforaeth.
Wedi ennill yr isetholiad yn argyhoeddiadol, buan iawn y dechreuodd y dyfalu a oedd wyneb newydd Bae Caerdydd â'i fryd ar arwain Plaid Cymru rhyw ddydd.
Daeth ei gyfle cyntaf bum mlynedd yn ddiweddarach, yn 2018, pan chwyrliodd sibrydion am heriau posibl i arweinyddiaeth Leanne Wood, pan oedd rhai o fewn eu rhengoedd yn teimlo bod y blaid mewn rhigol.
Mewn cyfweliad teledu, dywedodd Ms Wood y byddai'n croesawu her.
Lansiodd Adam Price a Rhun ap Iorwerth eu hymgyrchoedd ar yr un diwrnod, ac yn y pendraw cafodd Adam Price 49.7% o'r pleidleisiau, Rhun ap Iorwerth 28% a Leanne Wood 22.3%.
Ar wahân i Adam Price, Rhun ap Iorwerth fu'n wleidydd mwyaf proffil uchel y blaid yn y blynyddoedd diwethaf, fel un o'i dau ddirprwy arweinydd a llefarydd y blaid ar iechyd yn ystod y pandemig.
Bu'n feirniad cyson o record Llywodraeth Cymru ar fwrdd iechyd cythryblus Betsi Cadwaladr, gan alw am ddiswyddo'r gweinidog iechyd Eluned Morgan.
Fe wnaeth hefyd gyhuddo'r Prif Weinidog Mark Drakeford o gael ei "fychanu" pan eglurodd arweinydd Llafur Cymru mewn llythyr sylwadau yr oedd wedi'u gwneud yn y Senedd am y bwrdd iechyd.
Roedd yn ymddangos bod datganiad Rhun ap Iorwerth yn creu awyrgylch oeraidd rhwng Adam Price a Mark Drakeford yn ddiweddarach yr un diwrnod ym mis Ebrill, pan ymwelodd y ddau arweinydd ag ysgol gyda'i gilydd, fel rhan o gytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Yn haf y llynedd, cyhoeddodd ei fwriad i redeg i fod yn AS Ynys Môn yn San Steffan.
Ond pan roddodd Adam Price y gorau iddi ym mis Mai, yn dilyn adolygiad a ddaeth i'r casgliad bod yna ddiwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid, roedd llawer yn y blaid yn credu mai ef oedd yr AS amlwg i arwain.
Yn gymaint felly, doedd dim cystadleuaeth arweinyddiaeth, ac mae Rhun ap Iorwerth wedi cymryd yr awenau yn 50 oed.
Sut olwg fydd ar ei arweinyddiaeth?
Nid ydym wedi clywed llawer o ymrwymiadau polisi ganddo hyd yn hyn, ar wahân i ailadrodd yn fras safbwynt presennol y blaid ar bethau.
Nid yw wedi amlinellu ei fwriad yn y ffordd y byddai disgwyl iddo pe bai wedi wynebu her am yr arweinyddiaeth.
Does neb yn disgwyl iddo rwygo'r cytundeb cydweithredu â gweinidogion Llafur, a chyda hynny y cynllun am Senedd fwy a pholisïau eraill y bydd Plaid Cymru yn cyfeirio atynt fel cyflawniadau wrth ymgyrchu.
Gofynnwch i unrhyw gefnogwr Rhun ap Iorwerth pam y gwnaethon nhw ei gefnogi ac mae'n debyg y byddan nhw'n dweud "sgiliau cyfathrebu" - ei allu i gyfleu ei neges yn effeithiol yn y ddwy iaith.
Bydd angen iddo fod yn effro i anghenion a phryderon gwleidyddion Plaid Cymru, staff a'r aelodaeth ehangach.
Bydd mynd i'r afael â'r materion diwylliannol a ddaeth â chyfnod Adam Price wrth y llyw i ben yn brawf o'r diwrnod cyntaf ac, o bosibl, drwy gydol ei arweinyddiaeth.
Gyda chyfanswm y seddi Cymreig yn San Steffan yn gostwng o 40 i 32, a'r blaid yn y drydydd safle y tu ôl i'r Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, bydd angen uno a harneisio holl dalentau'r blaid fach os am wneud argraff fawr yn y ddau etholiad nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai 2023
- Cyhoeddwyd27 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022