Rhun ap Iorwerth: 'Byddaf yn ddigyfaddawd wrth weithredu'

  • Cyhoeddwyd
Rhun ap IorwerthFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod diwygio Plaid Cymru ar frig ei restr o flaenoriaethau

Mae arweinydd newydd Plaid Cymru wedi dweud fod ymateb i adroddiad damniol am ddiwylliant gwenwynig o fewn y blaid ar frig ei restr o flaenoriaethau.

Cafodd Rhun ap Iorwerth ei gadarnhau fel arweinydd y blaid ddydd Gwener. Ni wnaeth unrhyw aelod arall o grŵp Senedd Cymru y blaid sefyll yn y ras am yr arweinyddiaeth.

Yr wythnos ddiwethaf dywedodd cyn-arweinydd y blaid, Leanne Wood, y dylai'r arweinydd newydd fod yn fenyw.

Ei dadl oedd y byddai'n haws i'r gwaith o adfer diwylliant y blaid "gael ei wneud gan fenyw sy'n wleidydd sydd wirioneddol yn deall materion misogyny."

Wrth siarad ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru dywedodd Rhun ap Iorwerth y bydd "yn ddigyfaddawd" wrth fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad.

"Mi fuaswn i'n licio ista' yma a dweud, 'na, welais i ddim pethe' ond mi fydda' hynny'n annheg," dywedodd.

"Mae pob un ohonom ni yn cymryd cam yn ôl rŵan a dweud, 'ie, oedd 'na bethau y dylwn i fod wedi eu gwneud', petha' 'nes i dd'eud, petha' nes i ddim dweud.

"Dyna lot o'r broblem mewn pleidiau gwleidyddol a sefydliadau eraill oedd ddim â'u llygaid ar agor i weld y pethau rydan ni'n gwybod rŵan oedd yn digwydd.

"Does 'na ddim oedi yn fan hyn."

'Problem i gymdeithas gyfan'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod rhai o'r argymhellion o'r adroddiad eisoes wedi eu rhoi ar waith.

"Y fantais sydd ganddon ni rŵan yw fod ganddon ni yr adroddiad, mae ganddon ni y map. Mae nifer o'r hyn oeddem ni angen ei wneud wedi cael eu gwneud yn barod."

Ychwanegodd fod ymddygiad gwenwynig yn broblem sy'n wynebu nifer o bleidiau a sefydliadau.

"Mae'r holl bleidiau a sefydliadau yn y sefyllfa yma, dylen nhw fod wedi gweithredu yn gynt. Mae'n rhywbeth i gymdeithas gyfan.

"Gallai ddim gwneud mwy na dweud gyda llaw ar fy nghalon y bydda i yn ddigyfaddawd wrth weithredu yr argymhellion. Mae'n rhaid i ni ac mae'n allweddol ein bod yn ei wneud."

"Dwi'n gobeithio fod pobl yn clywed ein bod o ddifri am ei fod y peth iawn i'w wneud."

Pynciau cysylltiedig