Galw am bleidleisio gorfodol yn etholiadau'r dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai pleidleisio ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau lleol fod yn orfodol, yn ôl cyn-arweinydd Plaid Cymru.

Dywedodd Adam Price y byddai hynny'n golygu bod mwy o bobl Cymru'n cael eu "cynrychioli'n iawn" yn y system etholiadol.

Ond mae eraill yn dadlau bod gan bobl yr hawl i beidio bwrw eu pleidlais.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod yna "werth" i ystyried y syniad.

'Dyletswydd ddinesig i bleidleisio'

Dydy'r nifer a bleidleisiodd mewn etholiad i Senedd Cymru erioed wedi bod yn uwch na'r 47% yn 2021, a ddwy flynedd yn ôl roedd y ffigwr yn is na 50% mewn 26 o'r 40 etholaeth.

Yn ystod dadl yr wythnos diwethaf galwodd Mr Price, yr aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ar i'r Senedd gefnogi ei alwadau am fesur 'dyletswydd ddinesig i bleidleisio'.

Disgrifiad o’r llun,

Mynnodd Mr Price, be bai pleidleisio gorfodol yn cael ei gyflwyno, y dylai fod gan etholwyr o hyd y cyfle i ymatal

Mewn cyfweliad â rhaglen Politics Wales dywedodd y byddai pleidleisio gorfodol a nifer uwch o bleidleisiau yn golygu "am y tro cyntaf" y byddai'r "mwyafrif helaeth o etholwyr" wedi eu "cynrychioli'n iawn yn y system etholiadol ar gyfer y Senedd genedlaethol yma".

"Byddai hynny'n golygu bod eu lleisiau, eu blaenoriaethau, eu pryderon yn cael eu hadlewyrchu yma mewn modd nad sydd wedi bod yn bosib hyd yma.

"Os oes gennych chi system ble mae pawb, fwy neu lai, yn sicr o bleidleisio yna mae'n newid natur y sgwrs wleidyddol.

"Bydd hynny'n annog pleidiau gwleidyddol i guro ar bob drws, i siarad â phob etholwr ac mae gwleidyddiaeth yn troi'n gystadleuaeth o fath gwahanol - nid sut mae cael eich cefnogwyr allan ar ddiwrnod yr etholiad, ond pa mor gryf ydy'r neges a'r weledigaeth rydych chi'n eu rhoi gerbron yr etholwyr i gyd."

Mynnodd Mr Price, pe bai pleidleisio gorfodol yn cael ei gyflwyno, y dylai fod gan etholwyr o hyd y cyfle i ymatal, o bosib drwy ddewis opsiwn 'dim un o'r uchod' ar y papur pleidleisio.

Pan ofynnwyd iddo sut y byddai'r polisi'n cael ei blismona, dywedodd bod "ystod o opsiynau" gan gynnwys "dirwy fechan", ac y dylai fod "eithriadau dilys" hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r Ceidwadwr, Darren Millar, yn cytuno gyda Adam Price

Ond dywedodd yr Aelod o'r Senedd Darren Millar o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Dydw i ddim yn credu ei fod yn iawn i bobl wynebu erlyniad a dirwy achos eu bod nhw wedi dewis peidio pleidleisio".

"Ac rydyn ni'n gwybod o lefydd eraill ar draws y byd, tra bod pleidleisio gorfodol yn gallu arwain at fwy o bleidleisiau dydy hynny ddim o reidrwydd yn arwain at etholwyr sy'n gwybod mwy am bwy i'w hethol yn y Senedd."

Beth mae etholwyr yn ei feddwl?

Ym Merthyr Tudful a Rhymni yr oedd y canran isaf o bleidleisiwr a darodd eu pleidlais yn 2021, gydag ond 34.8% o bobl yn pleidleisio.

Mewn dosbarth meithrin yn y Ganolfan Derwi Sant yn Rhymni roedd y farn ymhlith y rhieni yn ranedig ar y syniad o gyflwyno pleidleisio gorfodol.

Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Grace Kearney yn cytuno â'r syniad

"Dwi'n meddwl bod hynny'n wirion," meddai Grace Kearney.

"Mae gan bawb yr hawl i wneud be maen nhw eisiau a ddylen nhw ddim colli'r rhyddid yna."

Ond dywedodd Danielle Llewellyn y byddai pleidleisio gorfodol yn "syniad da iawn".

"Dwi'n dwlu ar gael y cerdyn bach drwy'r drws a mynd i bleidleisio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Danielle Llewellyn y byddai pleidleisio gorfod yn "syniad da iawn".

"Mae'n braf gwybod eich bod chi'n gallu gwneud gwahaniaeth," ychwanegodd.

Pleidleisio gorfodol mewn gwledydd eraill

Mae Awstralia yn un o dros 20 gwlad ble mae pleidleisio gorfodol yn digwydd yn barod.

Yno mae etholwyr yn wynebu dirwy o $20 - tua £10.50 - os nad ydyn nhw'n bwrw'u pleidlais.

Yn yr etholiad yno'r llynedd fe bleidleisiodd 89.8% o etholwyr.

Dyna oedd y tro cyntaf i'r canran fod yn îs na 90% ers i bleidleisio gorfodol gael ei gyflwyno'n Awstralia ym 1924.

Ym 1893 Gwlad Belg oedd y wald gyntaf i gyflwyno pleidleisio gorfodol, ac yn ôl y sylwebydd gwleidyddol o Gymru sy'n byw ym Mrwsel Mared Gwyn, mae pobl Belg yn ymfalchïo'n y nifer uchel o bobl yno sy'n pleidleisio.

"Maen nhw'n falch o'r traddodiad yma, yn falch o fod ar y brig pan ddaw hi at etholiadau yn Ewrop fel y wlad sy'n pleidleisio fwyaf, ac maen nhw eisiau parhau gyda hynna."

Ffynhonnell y llun, Mared Gwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mared Gwyn yn byw ym Mrwsel

Cafodd cynnig Mr Price ei basio'n y Senedd ar ôl iddo sicrhau cefnogaeth nifer o aelodau meinciau cefn Llafur ac ambell i Geidwadwr, ac er nad ydy hynny'n gorfodi'r Llywodraeth i fwrw mlaen â'r syniad, mae'n ymddangos y bydd y drafodaeth yn parhau.

Ymatal eu pleidlais wnaeth aelodau'r cabinet, ond dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw - oedd yn siarad ar ran y llywodraeth - bod yr awgrym o wneud gwaith ymchwil pellach, gan gynnwys y posibilrwydd o gynllun peilot, yn rhywbeth oedd yn "werth" ystyried.

"Rwy'n gobeithio taw dyma ddechrau trafodaeth bwysig ar ddiwygiad posib yr wyf yn gwybod bod nifer ohonom ar draws y pleidiau gwleidyddol wedi meddwl amdano dros sawl blwyddyn," ychwanegodd.

Politics Wales, BBC One Wales, 10:00 o'r gloch ar 2Gorffennaf ac ar BBC iPlayer