Tad wedi marw yn dilyn tân laddodd ei fab yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae ail berson wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe dros y penwythnos.
Cadarnhaodd yr heddlu bod dyn 51 oed oedd yn yr ysbyty bellach wedi marw.
Bu farw bachgen tair oed yn dilyn y digwyddiad yn ardal West Cross y ddinas.
Fe gadarnhaodd Heddlu'r De mai Naemat Lawa Esmael oedd y dyn fu farw fore Llun o ganlyniad i'r digwyddiad.
Ei fab, Muhammad Esmael, oedd y bachgen tair oed fu farw.
Cafodd menyw 39 oed a phlentyn arall 13 oed eu cludo i'r ysbyty am effeithiau anadlu mwg.
"Mae ein meddyliau gyda'r teulu, ffrindiau a'r gymuned leol yn dilyn y digwyddiad trasig hwn," meddai'r Ditectif Arolygydd Carl Price.
"Rydym yn gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaeth tân i ddod o hyd i achos y tân."
'Bachgen bach poblogaidd'
Dywedodd Ysgol Gynradd y Garreg Wen, lle roedd Muhammad yn ddisgybl yn y feithrinfa, ei fod yn "fachgen bach poblogaidd" a oedd yn "setlo'n dda i'w fywyd ysgol ac yn gwneud llawer o ffrindiau".
"Rydym yn gymuned ysgol agos a gofalgar a bydd hyn yn adeg anodd i ni oll, felly mae cefnogaeth yn cael ei roi mewn lle i unrhyw ddisgybl neu staff sydd ei angen," meddai'r ysgol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2023