Bachgen tair oed wedi marw ar ôl tân mewn tŷ yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen tair oed wedi marw a dyn 51 oed mewn cyflwr difrifol ar ôl tân mewn tŷ yn Abertawe.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal West Cross y ddinas tua 13:20 brynhawn Sadwrn.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans ar y pryd fod tri o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn Nhreforys.
Dywedodd yr heddlu fod menyw 39 oed a phlentyn arall 13 oed wedi dioddef effeithiau anadlu mwg.
Dywedodd Heddlu'r De fod ymchwiliad wedi dechrau i ganfod achos y tân.
Ychwanegon mai un tŷ gafodd ei effeithio.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Carl Price o'r llu: "Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r plentyn fu farw'n drasig mewn tân mewn tŷ yn West Cross, Abertawe."
Fe wnaeth ddiolch i aelodau'r gymuned a fu'n helpu ac i'r rhai a rannodd wybodaeth gyda'r llu.
'Cymuned glòs'
Fe ddywedodd y Cynghorydd Rebecca Fogarty ei bod yn meddwl am deulu'r plentyn fu farw.
Ychwanegodd fod cymuned West Cross yn galaru ar ôl y newyddion trist.
"Mae fy meddyliau a fe ngweddïau gyda'r teulu," dywedodd.
"Mae hon yn gymuned glòs ac mae pobl eisoes wedi dod ynghyd i helpu'r rheiny sydd wedi eu heffeithio."
Dywedodd y cyn-gynghorydd Clare-Anna Mitchell fod tudalen wedi ei sefydlu ar-lein i godi arian i'r teulu.
Mae miloedd o bunnoedd eisoes wedi cael ei godi, meddai.
Wrth gydymdeimlo â'r teulu, dywedodd arweinydd Cyngor Sir Abertawe, Rob Stewart, y bydd y Cyngor yn cynorthwyo'r gwasanaethau brys gyda'r ymchwiliad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2023