Cymru ar frig y byd cneifio
- Cyhoeddwyd
Rhwng 22-25 o Fehefin cafodd Pencampwriaethau Cneifio'r Byd eu cynnal yn Yr Alban, ac roedd hi'n benwythnos eithriadol o lwyddiannus i dîm Cymru.
Nid yn unig yr enillodd Gwion Lloyd Evans o Lansannan bencampwriaeth y byd, ond daeth Richard Jones (cyn-bencampwr ei hun) yn ail. Enillodd Gwion a Richard bencampwriaeth parau'r byd hefyd, a daeth Elfed Jackson a Gareth Owen yn ail yn y parau gyda gwellau.
Roedd hi'n bencampwriaeth byd ar gyfer lapio gwlân hefyd, ac fe enillodd Cymru unwaith eto gyda Ffion Jones, Glyndyfrdwy a Sarah-Jane Rees o Aberhonddu'n fuddugol.
Alwyn Manzini, sy'n ffermio ger Corwen ond yn wreiddiol o Lanuwchllyn, yw rheolwr tîm cneifio Cymru.
"Y gystadleuaeth yma 'di'r pinacl, does 'na ddim posib ennill ddim byd gwell.
"Fel rheolwr y tîm mi ro'n i isio Richard ennill, ac hefyd isio Gwion ennill, ond dim ond lle i un sydd 'na ar y podiwm top, a Gwion oedd o y diwrnod hwnnw. Ond ar y nos Wener yn yr Open All Nations, Richard 'nath ennill, a Gwion yn ail. Do, mi 'nathon ni reoli'r holl bencampwriaeth i ddweud gwir."
Datblygu cneifwyr ifanc
Mae Alwyn yn dweud bod hi'n cymryd blynyddoedd o ddysgu ac ymarfer i gyrraedd uchelfannau cneifwyr fel rhai tîm Cymru: "Yn y Sioe Frenhinol mae posib cael lle ar dîm datblygu, sy'n mynd allan i Seland Newydd i gael profiad o gneifio yno.
"Mae rhywun fel Gwion wedi bod allan i Seland Newydd i gneifio am flynyddoedd, fel mae nhw i gyd yn dueddol o 'neud. Ond mae ganddo deulu ifanc bellach ac felly mae'n ffermio drwy'r flwyddyn a chneifio yn yr haf."
Sut gyfleoedd mae'r diwydiant cneifio yn ei roi i bobl ifanc heddiw?
"Mae'r diwydiant mewn lle da," meddai Alwyn. "Fel dwi'n deud wrth yr hogia' ifanc, os ydyn nhw'n dilyn y tymhorau a chneifio fel o'n i'n gwneud, byw allan o gês am dros 10 mlynedd, Seland Newydd, Awstralia, Norwy, Cymru... mi fysan nhw'n ennill mwy na chyflog athro.
"Mewn blwyddyn mi fysa nhw'n cneifio 70,000-80,000 o ddefaid, ac os 'sa nhw'n cael dros £1 yr un am ddafad dydi hi ddim yn anodd gwneud y syms. Does 'na ddim llawer o ddefaid yn cael eu cneifio am bris llai na £1.10 dyddiau 'ma - dyla bod nhw ddim beth bynnag.
"Mae'r pris ar yr offer ac ati wedi codi, ac dydi prisia' gwlân ddim ar ei orau o bell ffordd, ond mae'n ddiawl o job galed. Cneifio 'di'r unig ddiwydiant ble ti'n mynd â tywel efo chdi i'r gwaith, ac mae pob diwrnod caled o gneifio fel rhedeg tri marathon syth ar ôl ei gilydd."
Yr her gorfforol
Mae Alwyn yn dweud bod y blynyddoedd o waith caled o gneifio'n dweud ar y corff rhywfaint erbyn heddiw.
"Dwi'n 53 bellach ac mi rois hi i fyny rhyw bedair blynedd yn ôl. 'Nes i dipyn 'leni achos bod o'n rhyw byg sydd gen ti isio gwneud - ond dwi'n meddwl mod i'n gallu gwneud fel o'n i, gyda'r corff yn dweud fel arall. Dwi 'rioed di cael problem efo'r cefn - fel ddwedodd ffarmwr yn Seland Newydd wrtha i rywdro, 'pain is only in the mind'. Mae cefn pawb yn mynd i frifo wrth gneifio, ond unwaith ti drwy'r barrier o'r poen 'na mi rwyt ti awê."
Mae'r oriau'n gallu bod yn hir ac mae'r cneifwyr yn mesur y dydd gwaith fesul cant o ddefaid maen nhw'n eu cneifio, fel esboniai Alwyn:
"Mae'r rhan fwya' o gneifwyr y wlad yma'n dechrau am saith y bore, cneifio am ddwy awr a gwneud tua 100 o ddefaid, ac yna cael hanner awr o brêc. Wedyn ma' nhw'n gwneud rhyw ddwy awr arall cyn cael awr o ginio, ond does 'na neb yn cymryd yr awr, ac yna cario 'mlaen wedyn.
"Tua 25 mlynedd yn ôl 'nes i gneifio tua 600 mewn diwrnod yn Seland Newydd efo Gareth, sef brawd Richard sy'n nhîm Cymru heddiw. Mi roedd hwnna'n ddiawl o ddiwrnod caled, ond mae'r rhai gorau dyddiau 'ma'n gallu gwneud 700, 800 neu 900. Mae lot o'r goreuon yn gallu gwneud 700 dyddia' 'ma, ac mae'r rhan fwya' yn y wlad yma'n gwneud rhwng 300 a 400 mewn diwrnod."
Ydy niferoedd a safon y cneifwyr yng Nghymru heddiw cystal â beth oeddent yn yn y gorffennol?
"Mae 'na andros o gneifiwrs da ar eu ffordd fyny yma'n Nghymru - lot o fechgyn sydd ar fin dod drwodd i'r seniors ac mae hi'n edrych yn addawol iawn i ni. Mae 'na fwy o gyrsiau cneifio bellach, ac mae'r ffordd o gneifio defaid 'di newid 'chydig.
"Weithiau cei di gneifiwr da yn mynd i Seland Newydd a disgwyl gwneud yn dda, ond y ddwy flynedd gynta' pan ti yna 'di'r anodda. Ti'sio bod yna bum neu chwe mlynedd; ma' fel chwarae golff, y mwya' ti'n gwneud y gora' ti'n mynd. A gan fod 'na gymaint o gneifiwrs da yn Seland Newydd ma' 'na gyfle i ofyn cwestiynau a dysgu tra ti yno."
Beth sy'n gnweud cneifiwr da?
Felly, o ystyried yr ymroddiad y mae'n rhaid i gneifwyr ei roi i'w gwaith, beth ym marn Alwyn sy'n gwneud cneifiwr o safon?
"Mae'n rhaid iddo fod isio cneifio i gychwyn, ac yn keen i wneud fel petai. Mae angen iddo edrych ar ôl ei gorff, a dysgu a gwrando a chymryd y wybodaeth i mewn.
"Mae 'na filoedd o gneifiwrs o gwmpas, a lot wedi'u dysgu gan eu tadau. Ond mae'n bwysig i fynd ar y cyrsia' 'ma er mwyn stopio datblygu arferion drwg. Er enghraifft ma 'na fechgyn fferm sy'n gallu gyrru yn 12-14 oed, ond fel arfer mae nhw'n methu eu prawf gyrru. Ond wedyn cei di fachgen sydd 'di byw ar stad o dai a 'di cael gwersi iawn yn pasio tro cyntaf, achos ma'n gyrru'r ffordd iawrn."
Un peth ydi bod yn gyflym yn cneifio, ond peth arall ydi bod yn daclus, fel esboniai Alwyn;
"Dyna 'di'r peth efo'r defaid mae Gwion a Richard yn eu gwneud - waeth i ti siafio'r ddafad bron iawn, maen nhw mor lân. Maen nhw'n anhygoel i ddweud y gwir, y cyflyma' a'r glana'. O'dd Gwion yn Yr Alban yn y ffeinal yn gwneud 20 o ddefaid gyda'r amser yn 43 eiliad i 'neud un ddafad.
"Mae'r Royal Welsh yn dod fyny ac yn gystadleuaeth ofnadwy o bwysig - bydd 'na dipyn o build-up at y dydd Mercher 'na, Pencampwriaeth Cymru mae pawb isio'i ennill, ac mi fydd Gwion a Richard yno'n cystadlu."
Hefyd o ddiddordeb: