'Camgymeriad' gweinidog yn pleidleisio'r ffordd anghywir
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog Llywodraeth Cymru wedi ymddiheuro ar ôl pleidleisio'r ffordd anghywir, ac yn erbyn ei lywodraeth ei hun, dair gwaith yn ddiweddar.
Dywedodd y dirprwy weinidog newid hinsawdd Lee Waters fod y "camgymeriadau" yn "embaras a rhwystredig", gan roi'r bai ar "ddiffyg canolbwyntio".
Fe wnaeth y camgymeriad cyntaf ar 16 Mai yn ystod pleidlais ar y Bil Amaeth.
Roedd y Ceidwadwyr wedi cynnig newid, a Llafur wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig hwnnw, ond fe wnaeth Mr Waters bleidleisio o'i blaid, ac felly fe gafodd ei basio.
Roedd hynny'n golygu y bu'n rhaid i'r gyfraith ddychwelyd i'r Senedd fel y gallai'r llywodraeth ddadwneud newid y Ceidwadwyr.
'Does dim esgus'
Er mwyn i hynny ddigwydd bu pleidlais arall ar 24 Mai, a'r tro hwn Mr Waters oedd yr unig Aelod o'r Senedd i bleidleisio yn ei erbyn.
Yna ar 6 Mehefin, fe bleidleisiodd gyda'r Ceidwadwyr unwaith eto, y tro hwn o blaid rhoi cymeradwyaeth y Senedd i Lywodraeth y DU ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn rhoi cymeradwyaeth.
Dywedodd Mr Waters: "Mae'n achosi embaras ac yn rhwystredig gwneud camgymeriadau tra'n pleidleisio, ond does dim esgus am y diffyg canolbwyntio.
"Rydw i wedi ymddiheuro i'r prif chwip."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2021