Marwolaethau tân Abertawe: 'Dim amgylchiadau amheus'
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi ei agor a'i ohirio yn achos tad a mab a fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yn Abertawe y penwythnos diwethaf.
Bu farw Naemat Lawa Esmael, 51, a'i fab tair oed, Muhammed yn y digwyddiad yn ardal West Cross y ddinas.
Clywodd y gwrandawiad yn Abertawe bod dim tystiolaeth o unrhyw amgylchiadau amheus.
Dydy achos y tân heb ei gadarnhau eto ac mae ymchwiliad yr heddlu a'r gwasanaeth tân yn parhau.
Wrth agor y cwest, fe gydymdeimlodd crwner dros dro Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Colin Phillips, â theulu Mr Esmael, oedd yn briod ac yn dad i dri o blant.
Fe gafodd y gwasanaethau brys adroddiadau bod y tŷ ar dân am 13:19 ddydd Sadwrn, ac erbyn iddyn nhw gyrraedd roedd un o'r ystafelloedd gwely yn wenfflam.
Daethpwyd o hyd i gorff Muhammed, ac fe gofnodwyd ei fod wedi marw am 14:00.
Roedd Mr Esmael yn gorwedd ar lawnt blaen y tŷ. Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty, ble y bu farw ddydd Llun.
Mae casgliadau cychwynnol archwiliadau'n awgrymu fod sawl un o'i organau wedi methu, ei fod wedi cael llosgiadau i 81% o arwynebedd ei gorff, a'i fod wedi cael anafiadau anadliad difrifol.
Fe gafodd y cwest ei ohirio tan 9 Ionawr 2024.
Ymdrechion cymunedol
Cafodd angladdau Muhammed a'i dad eu cynnal ddydd Iau ym mosg Abertawe a'r ganolfan gymunedol Islamaidd ar Heol San Helen y ddinas.
Mae apeliadau lleol eisoes wedi codi dros £40,000 i gefnogi gweddw Mr Esmael, Sharmeen, a'i ddau blentyn arall.
Fe ddarllenodd brawd Mr Esmael, Masood Lawa Esmael, ddatganiad ar ran y teulu yn dweud fod Muhammed yn "dod â heulwen ble bynnag yr aeth."
Dywedodd llefarydd ar ran cymuned Gwrdaidd Abertawe eu bod "yn unedig fel cymuned, ac yn cefnogi ei gilydd."
Yn dilyn y gwasanaeth, fe gafodd arch Mr Esmael ac arch ei fab eu cludo i faes awyr Heathrow er mwyn eu claddu yn Irac.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2023