Cynllun peilot incwm sylfaenol: 'Addewid yn cael ei wireddu'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford yn dweud ei fod yn obeithiol y bydd cynllun peilot incwm sylfaenol Cymru yn parhau, wrth i'r cynllun gau i ymgeiswyr newydd yr wythnos hon.
Mae disgwyl i tua 500 o bobl ymuno â'r cynllun £20m, sy'n cynnig £1,600 y mis i bobl ifanc 18 oed sy'n gadael gofal.
Dywedodd Mr Drakeford wrth y BBC fod "addewid y cynllun yn cael ei wireddu".
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw'r peilot yn "arbrawf sosialaidd" gan ddweud y dylai'r arian gael ei wario ar wasanaethau gofal yn lle hynny.
Beth ydy'r cynllun?
Lansiodd Llywodraeth Cymru y cynllun peilot flwyddyn yn ôl i brofi sut y gallai'r taliadau helpu'r rhai sy'n gadael gofal wrth iddynt bontio i fyd oedolion.
Mae'r cynllun yn cynnig taliadau misol diamod am ddwy flynedd i rai 18 oed sydd wedi gadael gofal hirdymor yng Nghymru ers 1 Gorffennaf y llynedd. Mae'r peilot wedi denu sylw rhyngwladol am osod y taliad misol ar lefel uwch nag unrhyw raglen incwm sylfaenol arall yn fyd-eang.
Ond mae hefyd wedi bod yn ddadleuol am ganiatáu i rai plant sy'n ceisio lloches gymryd rhan, tra bod pryderon wedi'u mynegi am y ffordd y mae'r derbynwyr wedi bod yn defnyddio'r arian.
Dechreuodd gwerthusiad o'r cynllun - dan arweiniad ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd - ym mis Tachwedd 2022, ond nid oes disgwyl iddynt adrodd ar eu canfyddiadau llawn tan 2026.
'Gwahaniaeth enfawr'
Flwyddyn i mewn i'r peilot, mae un o'r derbynwyr yng Nghymru wedi dweud wrth y BBC am y sefydlogrwydd ariannol y mae'r cynllun wedi'i roi iddo.
Mae Brandon wedi bod yn derbyn yr incwm sylfaenol ers iddo droi'n 18 oed a gadael gofal maeth ym mis Medi y llynedd.
Roedd wedi bod mewn gofal ers yn bedair oed, ac mae wedi bod yn byw gyda'i riant maeth, Sally, yn ne Cymru ers tua 10 mlynedd. Dywedodd fod yr arian wedi rhoi mwy o gyfleoedd iddo gael pethau braf, fel gwyliau tramor, tra'n cynilo ar gyfer blaendal ar dŷ.
"Mae wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn fy mywyd," meddai Brandon. "Fyddwn i ddim yn gallu gwneud y pethau rydw i'n eu gwneud nawr hebddo."
Clywodd Brandon, sy'n astudio i fod yn blymwr yn y coleg, am y cynllun incwm sylfaenol ar y newyddion, cyn i weithwyr cymdeithasol ddweud wrtho ei fod yn gymwys i wneud cais.
Ddydd Mawrth, bu Brandon yn cyfarfod â gweinidogion i drafod sut yr oedd wedi bod yn defnyddio'r incwm sylfaenol.
Cyn y cyfarfod, dywedodd yr hoffai weld y cynllun yn parhau y tu hwnt i'r peilot, er mwyn ei frawd iau, sydd mewn gofal ar hyn o bryd.
"Rwy'n credu ei fod yn ffordd dda o gael rhywbeth yn eich bywyd a fydd bob amser yno i'ch helpu," meddai.
"Hoffwn hefyd iddynt gael y cyfle i gynilo fel rydw i wedi gwneud ac yn y dyfodol i gael yr hyn yr hoffent ei gael."
Tra bod derbynwyr yn cael cynnig mynediad i gyngor ariannol gan Lywodraeth Cymru, dywedodd Brandon nad oedd ei angen arno oherwydd bod ei riant maeth wedi bod yn ei helpu.
Dywedodd ei riant maeth, Sally, er bod Brandon wedi cyllidebu'n ddoeth gyda'i chefnogaeth, bod "rhai misoedd pan nad yw wedi bod eisiau arbed cymaint".
"Ac yna mae wedi ailgydio yn yr awydd i gynilo ar gyfer ei ddyfodol," meddai.
UDA wedi 'dysgu gan Gymru'
Mae tystiolaeth wedi ei chasglu erbyn hyn o gynlluniau incwm sylfaenol eraill, gan gynnwys o'r cynllun cyntaf o'i fath yn y byd sy'n canolbwyntio ar y rhai sy'n gadael gofal yn yr Unol Daleithiau.
Mae incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal wedi'i brofi yn Santa Clara, California, lle derbyniodd 72 o oedolion ifanc $1,000 (£739) am ddwy flynedd o fis Gorffennaf 2020.
Mewn canfyddiadau cychwynnol, nododd y cynllun welliannau mewn cyflogaeth, iechyd a lles ymhlith y derbynwyr. Dangosodd arolygon fod perchnogaeth tai wedi cynyddu o 0% i 3%, tra bod cyflogaeth amser llawn wedi codi o 44% i 58%.
Nawr mae'r sir yn cynllunio ail gynllun incwm sylfaenol, gyda grŵp newydd o ymadawyr gofal yn derbyn taliad misol uwch o $1,200 am ddwy flynedd, ar ôl "mabwysiadu rhai o'r gwersi rydyn ni wedi'u dysgu gan Gymru".
I ddechrau, roedd Llywodraeth Cymru wedi ei ddisgrifio fel cynllun peilot o incwm sylfaenol cyffredinol (UBI), sy'n golygu talu swm penodol i bawb, waeth beth fo'u modd.
Pan gyhoeddwyd y cynllun peilot, cyfaddefodd Llywodraeth Cymru nad oedd cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol yn realistig, o ystyried y cyfyngiadau ar gyllid.
Gyda derbynwyr i fod i dderbyn arian hyd at fis Mehefin 2025, nid yw Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eto a ddylid gwneud yr incwm sylfaenol yn barhaol.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod am weld y gwerthusiad llawn "i wneud yn siŵr mai dyma'r defnydd mwyaf effeithiol o fuddsoddiad cyhoeddus".
Pan ofynnwyd iddo a allai weld y cynllun yn parhau, dywedodd: "Rwy'n obeithiol, oherwydd mae'r pethau yr ydym yn eu clywed hyd yn hyn yn dweud wrthym fod addewid y cynllun yn cael ei wireddu."
'Arbrawf sosialaidd'
Wrth i weinidogion aros am y gwerthusiad, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn parhau i fod yn amheus o'r cynllun peilot a'r ffordd y mae arian yn cael ei wario gan dderbynwyr.
Dywedodd Joel James, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar bartneriaeth gymdeithasol, y dylai'r £20m sydd wedi'i glustnodi ar gyfer y cynllun fod wedi cael ei wario ar wasanaethau iechyd meddwl gwell i'r rhai sy'n gadael gofal.
"Mae treialon incwm sylfaenol cyffredinol wedi dangos yn gyson nad ydyn nhw'n gweithio," meddai Mr James.
"Rwy'n pryderu bod hon yn garfan fregus o gymdeithas yn cael ei defnyddio fel dysgl petri ar gyfer arbrawf sosialaidd, heb unrhyw gynllun tymor hir ar gyfer beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw ar ôl hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd15 Mai 2021
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021