Torri'r cylch: Galw am help i rieni fu drwy'r system gofal
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod dros chwarter y plant sy'n cael eu mabwysiadu yng Nghymru wedi cael eu geni i fam sydd wedi bod drwy'r system gofal.
Nawr, mae un o bwyllgorau'r Senedd yn galw am fwy o gymorth i bobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal pan maen nhw'n dod yn rhieni eu hunain.
Yn ôl aelod o'r pwyllgor, mae angen i'r system ddangos mwy o ofal a pharch at y rheiny sy'n ei chael hi'n anodd dygymod â phlentyndod gafodd ei dreulio gyda theuluoedd maeth neu mewn cartrefi plant.
Dau sydd â phrofiad uniongyrchol o'r system gofal yng Nghymru yw Gemma a Shaun - profiadau sydd wedi gadael eu hôl.
'Dydy o ddim yn deg'
Mae Gemma yn credu'n gryf iddi gael ei thrin yn wahanol i famau eraill.
"Pan gafodd fy mhlant eu rhoi mewn gofal roedd yn brofiad scary," meddai.
Bu dau o'i phlant mewn gofal am 18 mis, ond maen nhw bellach yn ôl gyda hi a'i phartner Shaun.
"Mae o wedi cael ei brofi bod ni heb wneud dim byd o'i le," meddai. "Ond roedd o'n brofiad emosiynol, gofidus iawn a dwi'n meddwl ein bod wedi cael ein trin yn annheg.
"'Dach chi'n cael eich barnu, a dydy o ddim yn deg, a taswn i'n fam arferol fydden nhw ddim wedi edrych lawr arnom ni."
Mae Shaun a Gemma, sy'n byw gyda'u plant yn Nhremadog yng Ngwynedd, yn cefnogi galwad gan adroddiad Pwyllgor Deisebau'r Senedd am fwy o help i bobl ifanc fel nhw.
Rhan ganolog o hynny yw'r angen i dorri'r cylch, lle mae plant rhieni fu mewn gofal yn mynd i ofal hefyd.
"Roedden ni'n drist iawn," meddai Shaun wrth gofio am yr adeg pan gafodd eu plant eu cymryd i ffwrdd, ar amheuaeth iddyn nhw gael eu hanafu gan eu rhieni.
"Roedd o'n emotional iawn, 'naeth y social services dd'eud 'do you want to say goodbye to your kids?' a do'n i ddim isio deud ta-ra. O'n i'm yn coelio fod o yn digwydd.
"Ond maen nhw 'nôl efo ni rŵan felly mae popeth yn iawn, ond ddylen nhw ddim disgwyl i Gemma fod fel ei mam."
'Cael eu trin yn wahanol'
Mae neges y Pwyllgor Deisebau yn rhan o waith ehangach y Senedd ar y pwnc eleni, gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn bwriadu cyhoeddi adroddiad cynhwysfawr ym mis Mai.
Fe glywodd y pwyllgor gan 25 o rieni sydd â phrofiad o ofal.
Roedd plant nifer o'r rhieni wedi cael eu cymryd o'u gofal a'u rhoi mewn gofal maeth neu wedi cael eu mabwysiadu.
Bu'n trafod gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd sy'n dangos, o blith y rhai yr oedd eu plant wedi eu cymryd i'w mabwysiadu, fod 27% o famau geni a 19% o dadau geni wedi bod mewn gofal eu hunain.
Neges glir glywodd y pwyllgor hefyd yn gyson oedd bod y rhieni ifanc oedd wedi bod yn rhan o'r system gofal wedi blino ar gael eu trin yn wahanol, ac nad oedd y system yn rhoi'r gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt - yn enwedig pan roedden nhw'n cael plant.
Yn ôl Nia Gwynfor o wasanaeth eiriolaeth (advocacy) NYAS, mae rhieni sydd wedi bod mewn gofal yn cael eu trin yn wahanol i rieni sydd ddim.
"Dwi 'di bod yn gweithio efo Shaun a Gemma am dros flwyddyn, a be' dwi 'di ffeindio ydy bod lot o famau a thadau sy' 'di bod mewn gofal eu hunain, maen nhw jest isio 'chydig o gymorth - cymorth emosiynol a practical, er enghraifft efo cael tai sy'n addas.
"Mae'n rhaid iddyn nhw gael cymuned sydd tu ôl iddyn nhw."
'Rhieni'n cael eu stigmateiddio'
Er mwyn torri'r cylch, mae Ms Gwynfor yn galw am gael gwared ar y stigma sy'n aml yn gysylltiedig â threulio plentyndod mewn gofal.
"Allwn ni ddim stopio pob plentyn fynd mewn i ofal - wrth gwrs fod rhaid i rai fynd," meddai.
"Ond be' 'dan ni am weld ydy fod lot o rieni yn cael eu stigmateiddio a'u beirniadu, a be' maen nhw'n teimlo ydy fod nhw'n teimlo'n euog cyn bo' nhw'n medru profi bo' nhw'n ddieuog, a dydy hynny ddim yn deg."
Ar ôl clywed profiadau pobl fel Shaun a Gemma fe aeth Pwyllgor Deisebau'r Senedd ati i gynhyrchu adroddiad sy'n gwneud chwe argymhelliad.
Yn eu plith mae casglu data rheolaidd i wella'r ddarpariaeth bresennol, sicrhau tai addas i bob rhiant â phrofiad o ofal, a deddfu i fynnu hawl i eiriolaeth.
Mae cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, Jack Sargeant AS, yn dweud iddyn nhw glywed tystiolaeth dorcalonnus gan rieni yn brwydro i greu bywydau gwell i'w hunain.
"Maen nhw yn aml yn mynd drwy sefyllfaoedd sydd yn annheg, ac ry'n ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o degwch yn ôl i'w bywydau," meddai.
'Cadw teuluoedd gyda'i gilydd'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw uchelgais i drawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru.
"Rydyn ni am weld llai o blant a phobl ifanc yn mynd mewn i'r system gofal, a gwneud hynny drwy gynnig y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir i deuluoedd sydd yn mynd drwy amser caled," meddai llefarydd.
"Ac i'r plant hynny sydd mewn gofal, rydyn ni am i'r rheiny aros yn agos i adref fel y gallan nhw barhau i fod yn rhan o'u cymunedau.
"Ein ffocws yw cadw teuluoedd gyda'i gilydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2022