Israddio Dŵr Cymru wedi methiannau amgylcheddol

  • Cyhoeddwyd
Llygredd
Disgrifiad o’r llun,

Dŵr Cymru sy'n cyflenwi'r mwyafrif helaeth o ddŵr yfed a gwasanaethau dŵr gwastraff yng Nghymru

Mae cwmni dŵr mwyaf Cymru wedi cael ei israddio am yr ail flwyddyn yn olynol yn dilyn cynnydd yn yr achosion o lygredd.

Roedd Dŵr Cymru yn gyfrifol am 89 achos o lygredd carthion yn 2022, gyda phump ohonynt wedi'u hystyried fel rhai ag "effaith arwyddocaol".

O ganlyniad mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi israddio sgôr y cwmni o dair i ddwy seren, gan nodi'r "angen i wella".

Mewn ymateb dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn "siomedig", gan gydnabod "nad oedd y perfformiad lle rydym eisiau iddo fod".

Mae pysgotwr wedi dweud fod y sefyllfa yn "warth", gan holi pam nad ydy cwmnïau dŵr yn cael eu herlyn.

'Angen cymryd camau brys'

Llynedd cafodd Dŵr Cymru ei israddio o fod yn gwmni pedair seren (yn arwain y diwydiant) i statws tair seren (da), yn dilyn adroddiad perfformiad amgylcheddol ar gyfer 2021.

Gwnaed y penderfyniad wedi i Dŵr Cymru fod yn gyfrifol am 83 achos o lygredd yn ymwneud â charthion, o'i gymharu â 77 y flwyddyn gynt.

Fis Ebrill fe gynyddodd y darparwr y bil cyfartalog i gwsmeriaid i £499 y flwyddyn - sef yr ail uchaf yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl adolygiad blynyddol diweddaraf CNC, a gafodd ei gyhoeddi fore Mercher, roedd llygredd wedi cynyddu 7% yn 2022, a nifer y digwyddiadau a gafodd effaith sylweddol wedi codi o dri i bump.

Mae perfformiad cwmni Hafren Dyfrdwy, sef y cyflenwr gwasanaethau dŵr yfed a dŵr gwastraff i rannau o ogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru, hefyd wedi ei adolygu ond nid yw'n cael ei sgorio gan fod yn gweithredu mewn ardal cymharol fach yng Nghymru.

Serch hynny, dywedodd CNC fod Hafren Dyfrdwy wedi "parhau eu perfformiad da ar ddigwyddiadau llygredd difrifol", gan adrodd dim yn 2022, a'u bod wedi lleihau nifer y digwyddiadau llygredd o wyth yn 2021 i bedwar yn 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Clare Pillman fod CNC "wedi bod yn eglur iawn" ynglŷn â ble mae angen i Dŵr Cymru wella

Dywedodd Clare Pillman, prif weithredwr CNC, ei bod yn "siomedig iawn" bod perfformiad Dŵr Cymru wedi parhau i waethygu.

"Mae angen i gwmnïau dŵr gymryd camau brys a pharhaus i wneud y newidiadau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r achosion llygredd sylweddol yr ydym yn eu gweld yn ein dyfroedd.

"Yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur, mae'r angen i weithredu nawr yn bwysicach nag erioed, wrth i'n rhwydwaith o garthffosydd sy'n heneiddio ddod dan fwy o bwysau.

"Heb fuddsoddiad digonol a fframwaith rheoli perfformiad cryf gan gwmnïau dŵr, bydd yr amgylchedd yn parhau i dalu'r pris.

Yn ein cyfarfodydd gyda Dŵr Cymru, rydym wedi bod yn eglur iawn ynglŷn â pha welliannau y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni."

'Gwarth'

Dywedodd Hywel Morgan, sy'n bencampwr byd ar bysgota, fod y sefyllfa yn "warth" a bod Dŵr Cymru "ddim yn haeddu hyd yn oed un seren".

"Does dim un afon yng Nghymru sy'n iawn i nofio ynddi.

"Ry'n ni fel pysgotwyr yn adrodd llygredd yn wythnosol a does dim byd yn digwydd am y peth.

"Mae'r ffeithiau a'r ffigyrau i gyd yno - mae pob gollyngiad yn cael ei nodi. Pam nad yw'r cwmnïau hyn yn cael eu herlyn?"

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dŵr Cymru, a gafodd ei sefydlu yn 1989, yn cyflenwi 1.4 miliwn o gwsmeriaid

Dywedodd llefarydd ar ran Dŵr Cymru eu bod yn cymryd eu cyfrifoldeb amgylcheddol "o ddifrif", gan "gydnabod nad yw ein perfformiad lle rydym am iddo fod".

"Rydym yn gweithio'n ddiflino i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen, mewn amgylchiadau heriol, yn enwedig wrth i ni brofi mwy o dywydd garw ac amrywiadau hinsawdd eithafol.

"Mae'r newidiadau hyn yn cael effaith sylweddol a chynyddol ar ein seilwaith dŵr a dŵr gwastraff, gan brofi'n her i sut rydym yn darparu ein gwasanaethau."

Ymddiheuro am 'unrhyw niwed amgylcheddol'

Ychwanegon nhw: "Er i ni gofnodi pum digwyddiad llygredd difrifol ar gyfer 2022, o gymharu â thair yn 2021, mae gennym yr ail lefel isaf o achosion o lygredd yn y diwydiant dŵr, gyda nifer y digwyddiadau llygredd wedi haneru dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

"Mae'n ddrwg gennym, fodd bynnag, am unrhyw niwed amgylcheddol yr ydym wedi'i achosi.

"Fis Mai fe wnaethom gyhoeddi ein Maniffesto ar gyfer Afonydd yng Nghymru, yn amlinellu ein buddsoddiadau a'n hymrwymiadau i helpu i wella ansawdd dŵr afonydd."

Dywedodd y cwmni eu bod yn bwriadu buddsoddi £100m yn ychwanegol i wella ansawdd afonydd erbyn 2025, fel rhan o gynllun gwella gwerth £840m.

"Bydd y buddsoddiad hwn yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol ac mae wedi helpu i sicrhau bod 44% o'n hafonydd yn cwrdd â 'statws ecolegol da' - o gymharu â dim ond 14% yn Lloegr - a bod gennym tua thraean o draethau Baner Las y DU er mai dim ond 15% o'r arfordir sydd gennym."

Pynciau cysylltiedig