Covid: Cyhuddo Gething 'o geisio ailysgrifennu hanes'
- Cyhoeddwyd
Mae gweinidog Llafur Cymru wedi'i gyhuddo o geisio ailysgrifennu hanes ynghylch pam na ddarllenodd adroddiad ar ymarfer pandemig y cymerodd ran ynddo.
Dywedodd Vaughan Gething wrth yr Ymchwiliad Covid yr wythnos ddiwethaf nad oedd wedi darllen yr adroddiad a ddilynodd ymarfer Cygnus yn 2016.
Dywedodd wrth y BBC ei fod yn adroddiad a wnaed ar gyfer Public Health England.
Ymatebodd Plaid Cymru fod y sylwadau yn "anniffuant" ar y gorau ac yn "gamarweiniol" ar y gwaethaf.
Gofynnodd y Ceidwadwyr Cymreig a oedd Mr Gething yn teimlo bod cyfrifoldeb am gynllunio pandemig "i feidrolion llai ddelio ag ef".
Roedd Ymarfer Cygnus yn ymarfer trawslywodraethol - dan arweiniad Llywodraeth y DU ond a oedd yn cynnwys yr awdurdodau datganoledig, ynghylch sut y gallai ffliw pandemig ddatblygu - a gynhaliwyd yn 2016 pan oedd Mr Gething yn weinidog iechyd.
Yn yr ymchwiliad yr wythnos ddiwethaf gofynnodd cwnsler i Mr Gething a oedd wedi darllen yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.
"Na, wnes i ddim. Ni ddarllenais yr adroddiad hwn," meddai, dan lw.
Pan ofynnwyd iddo am baragraff yn rhybuddio nad oedd gan y DU ddigon o allu i ymdopi â phandemig difrifol, dywedodd Mr Gething pe bai wedi ei ddarllen "byddwn bron yn sicr wedi gofyn cwestiynau ychwanegol am yr hyn oedd yn digwydd ar y pryd".
Dywedodd wrth y gwrandawiad ei fod wedi cymryd rhan uniongyrchol yn yr ymarfer ei hun, ym mis Hydref 2016.
"Es i gyfarfodydd gweinidogol ar y ddau ddiwrnod yn ôl y gofyn. Roedd fy nirprwy ar y pryd hefyd yn bresennol yn rhai o'r ymarferion hynny yn ôl y gofyn."
Roedd Cygnus ymhlith y dogfennau y dywedodd Mr Gething, sydd bellach yn weinidog yr economi, nad oedd wedi eu darllen pan oedd yn weinidog iechyd.
Dywedodd wrth y BBC: "Roedd adroddiad Operation Cygnus yn adroddiad Public Health England, ac roedd yn adroddiad a gyflwynwyd o fewn y system iechyd a gofal a chynllunio brys.
"Roedd ar gyfer swyddogion i siarad â swyddogion.
"Pob sesiwn friffio a gefais, gan gynnwys y sesiwn friffio am wersi a ddysgwyd ar ôl Cygnus a'r gwaith sy'n cael ei wneud - darllenais, ac fe wnes i ystyried a gwneud penderfyniadau."
'Annidwyll neu gamarweiniol'
Dywedodd Mabon ap Gwynfor, llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, fod y sylwadau "ar y gorau, yn anniffuant ac, ar y gwaethaf, yn gamarweiniol".
"Roedd Cygnus yn ymarfer ar y cyd y cymerodd Llywodraeth Cymru ran weithredol ynddo i baratoi ar gyfer pandemig posib," meddai.
"Roedd gan y gweinidog iechyd ar y pryd ddyletswydd i ddarllen y papurau'n drylwyr a deall ei oblygiadau."
Ychwanegodd: "Mae ceisio ailysgrifennu hanes neu addasu y semanteg er mwyn tynnu sylw oddi wrth ddiffygion y llywodraeth yn rheswm arall eto pam mae angen ymchwiliad cyhoeddus cynhwysfawr ar frys i'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â'r pandemig Covid."
'Siawns na fyddai ganddo ddiddordeb'
Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd: "Roedd Vaughan Gething yn yr ymarfer y cymerodd Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ran ynddo, felly siawns na fyddai ganddo ddiddordeb?
"Neu a yw'n meddwl bod y math hwn o gyfrifoldeb oddi tano ac i feidrolion llai ddelio ag ef?
"Gobeithio y bydd ganddo fwy o afael ar adran yr economi - rhywbeth nad yw wedi'i ddangos hyd yn hyn - o ystyried y cymylau economaidd tywyll uwchben."
Gwrthododd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wneud sylw, gan ddweud na fyddai'n "rhoi sylwebaeth barhaus ar y dystiolaeth a gymerwyd".
"Rydym hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda phwyllgor y Senedd a fydd yn craffu ymhellach ar gasgliadau ymchwiliad y DU ar ddiwedd pob modiwl i weld a oes cwestiynau sylweddol yn dal heb eu hateb," ychwanegodd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023