Ymchwiliad Covid y DU: 'Poen ychwanegol i deuluoedd mewn profedigaeth'
- Cyhoeddwyd
Roedd diffyg paratoi i ddelio â marwolaethau ychwanegol wedi arwain at boen ychwanegol i deuluoedd mewn profedigaeth, meddai'r cyn-weinidog iechyd Vaughan Gething.
Roedd yn cael ei holi yn ymchwiliad cyhoeddus y DU am ba mor dda oedd Cymru wedi paratoi ar gyfer Covid-19.
Gan ymddangos yn emosiynol wrth siarad, dywedodd: "Un o'r pethau a gefais fwyaf anodd oedd urddas mewn marwolaeth a gwybod beth yw marwolaeth wael, a deall bod hynny yn cael effaith wirioneddol ar bobl sy'n cael eu gadael ar ôl."
Ychwanegodd, "pan ddaeth Covid nid oedden ni mor barod ag y gallen ni ac y dylen ni fod, ac mae hynny'n arwain at boen ychwanegol i deuluoedd mewn profedigaeth," meddai, gan ddweud ei fod yn derbyn cyfrifoldeb.
Perthynas rhwng llywodraethau
Dywedodd hefyd yr oedd y berthynas rhwng llywodraethau Cymru a'r DU yn rhwystr i gynllunio am bandemig.
Honnodd y byddai'r paratoadau "wedi bod yn well pe baen ni wedi cael rhyw fath o ymgysylltiad gweinidogol y tu hwnt i ymarfer Cygnus," meddai, gan gyfeirio at ymarfer yn 2016 i brofi'r ymateb i bandemig ffliw.
"Byddem yn gofyn am gyfarfodydd. Fe wnaethon ni ysgrifennu ar nifer o faterion," meddai.
"Ni chawsom ymateb."
Dywedodd y dylai "bob amser fod rhywfaint o le i bragmatiaeth".
"Does dim rhaid i chi hoffi'r person yr ochr arall i'r ddesg. Dylem gyfarfod o bryd i'w gilydd."
Heb ddarllen adroddiad
Dywedodd y cyn-weinidog iechyd y gallai fod wedi "cyflymu" parodrwydd ar gyfer pandemig pe bai wedi rhoi mwy o amser i'r dasg.
Cyfaddefodd Mr Gething hefyd nad oedd wedi darllen yr adroddiad a ddeilliodd o ymarfer Cygnus i baratoi ar gyfer pandemig ffliw.
Darllenodd cwnsler yr ymchwiliad, Kate Blackwell, ran o'r casgliadau a ganfu nad oedd cynlluniau, polisïau a galluoedd y DU yn ddigon i ymdopi â gofynion datblygiad eithafol.
Dywedodd Mr Gething pe bai wedi ei ddarllen y byddai "wedi gofyn cwestiynau ychwanegol am yr hyn oedd yn digwydd".
Roedd Mr Gething yn weinidog iechyd am bum mlynedd tan Mai 2021.
'Perygl Brexit heb gytundeb'
Brynhawn Mawrth, tro'r Prif Weinidog Mark Drakeford ydoedd i roi tystiolaeth yn Llundain.
Dywedodd Mr Drakeford bod adnoddau ar draws Llywodraeth Cymru wedi cael eu dargyfeirio o baratoi ar gyfer pandemig "i ddelio â'r peryglon sydd o'n blaenau ni o adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb".
Dywedodd: "Mae nifer y bobl sydd gennym ni yn Llywodraeth Cymru sydd ag arbenigedd gwirioneddol mewn materion sifil wrth gefn yn gymharol fach, ac mae eu sgiliau yn arbennig o berthnasol i baratoi ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb."
Mae'r cam yma o'r ymchwiliad yn canolbwyntio'n benodol ar gynllunio ar gyfer y pandemig.
Y nod ydy cwestiynu penderfyniadau a gafodd eu gwneud ar bob lefel o'r llywodraeth yn ymwneud â chynllunio, gan edrych ar ba wersi all gael eu dysgu.
Roedd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, a chyn-bennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, Dr Andrew Goodall yn wynebu'r ymchwiliad ddydd Llun.
Ni fydd yr ymchwiliad yn edrych ar sut wnaeth Cymru ymateb i'r pandemig tan i sesiynau cael eu cynnal yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf, gyda disgwyl i'r gwrandawiadau bara hyd at haf 2026.
Beth yw'r ystadegau?
Yn ystod ton gyntaf y pandemig yn Ebrill 2020 roedd 70 o farwolaethau dyddiol â Covid fel y prif achos;
Roedd dros 2,200 o farwolaethau o ganlyniad i Covid yng Nghymru yn nhri mis cyntaf y pandemig (15 Mawrth i 15 Mehefin 2020);
Roedd marwolaethau'n ymwneud â Covid mewn cartrefi gofal ar eu huchaf yn wythnos 24 Ebrill, gyda 125 marwolaeth;
Mae cyfradd marwolaethau Covid yn ystod y pandemig yn debyg iawn yng Nghymru a Lloegr, ond mae'r gyfradd hynny'n uwch na'r Alban a Gogledd Iwerddon.
Galw am ymchwiliad i Gymru
Mae'r ddwy brif wrthblaid yng Nghymru wedi ailadrodd galwadau am ymchwiliad annibynnol yn benodol i Gymru.
Dyma'r alwad hefyd gan grŵp Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru.
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, ei fod yn gobeithio y bydd Mr Drakeford a Mr Gething yn ateb cwestiynau ymchwiliad y DU yn llawn, ond mai ymchwiliad Cymreig yn unig allai ddarparu "craffu priodol" o benderfyniadau Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig.
"Mae Llafur wedi chwalu GIG Cymru am 25 mlynedd ac wedi bod yn gyfrifol am ein parodrwydd ar gyfer pandemig, ac mae'n amser i deuluoedd sy'n galaru dderbyn yr atebion maen nhw'n eu haeddu," meddai.
Dywedodd llefarydd iechyd newydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor, na fyddai'r ymholiad yn craffu'n ddigonol i benderfyniadau a gafodd eu gwneud yng Nghymru, ac y byddai cwestiynau'n parhau heb eu hateb.
"Gall llywodraeth Lafur Cymru dal newid eu meddwl a rhoi i'r teuluoedd sy'n galaru yr hyn maen nhw'n ei haeddu - ymchwiliad Covid Cymreig llawn, fel ein bod yn gallu dysgu sut i baratoi ar gyfer y pandemig nesaf," dywedodd.
'Effaith enfawr ar fywydau'
Un o'r rheiny sy'n cadw llygad ar y datblygiadau yw Gareth Evans o Gwmbrân, sydd wedi dioddef o effeithiau Covid hir ers cael yr afiechyd yn ystod ton gyntaf y pandemig ym mis Ebrill 2020.
Dyw dal ddim "wedi adfer 100%", meddai, gan ddweud bod yr effaith ar ei fywyd "yn enfawr".
"Ar y pryd do'n i ddim yn gallu gweithio, ddim yn gallu gwneud ymarfer corff," meddai wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.
"Hyd yn oed pethau syml fel golchi llestri neu mynd i'r gawod - roedd rhaid i fi orwedd lawr wedyn. Roedd e'n ofnadwy."
Daeth Mr Evans o hyd i grwpiau cymorth ar-lein gyda phobl eraill oedd yn mynd drwy sefyllfa debyg, ond mae'n teimlo nad oes digon o gymorth ar y GIG i'r rheiny sy'n dioddef o Covid hir.
"Hoffwn i weld clinig arbenigol yma yng Nghymru, fel yn Lloegr," meddai.
"Byddai'n help mawr i bobl, dwi'n meddwl, i gael yr holl brofion i helpu pobl gyda'u peace of mind."
Mae Mr Evans yn awyddus i weld a fydd yr ymchwiliad Covid felly'n tynnu sylw at unrhyw wersi sydd angen eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
"Yn fy marn i roedd rhaid paratoi ar gyfer sefyllfaoedd fel hyn - roedd yr effaith ar ein bywydau yn enfawr," meddai.
"Dwi'n gobeithio bod pethau'n well yn y dyfodol yn bendant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023