Covid: 'Oedi yn y paratoadau a diystyru mesurau'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi gwadu nad oedd digon o sylw wedi bod ar baratoi ar gyfer pandemig posib cyn i Covid daro ond fe ychwanegodd bod rhai mesurau paratoi wedi cael eu diystyru yn rhy gynnar.
Wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad i Covid-19 y Deyrnas Unedig, dywedodd Dr Frank Atherton ar "lefel swyddogol bod llawer o waith wedi' wneud o ran paratoi".
Pan ofynnwyd ymhellach iddo a allai Cymru fod wedi gwneud rhagor, dywedodd bod hynny'n gwestiwn dilys ond bod yna gryn baratoi wedi digwydd.
"Yn sicr ar lefel swyddogol roedd yna lawer yn digwydd... paratoi i ymateb ar frys," meddai.
Ond wrth gael ei holi am fframwaith Hydref 2014 i ddelio gydag achosion mawr o glefydau heintus, cadarnhaodd Mr Atherton nad oedd fawr o drafodaeth wedi bod ar ddelio gyda chlefydau heintus a allai fod â chanlyniadau difrifol - heintiau ar wahân i'r ffliw.
"Fe gafodd y mater hyn ei drafod, wrth gwrs, ond ei ddiystyru am nifer o resymau," meddai.
"O edrych yn ôl a gweld be' ddigwyddodd fe allen fod wedi, a dylen fod wedi, rhoi mwy o sylw i gwestiynau 'beth petai... beth petai'r feirws yn wahanol?'
"Ar y pryd, rwy'n credu ei fod yn deg dweud bod mesurau wedi cael eu hystyried ond wedi cael eu diystyru yn rhy gynnar."
'Oedi yn sgil Brexit'
Mynnodd Syr Frank ymhellach nad oedd y grŵp a sefydlwyd yng Nghymru i baratoi at y pandemig yn aros i Lywodraeth y DU weithredu gyntaf, er ei fod yn grŵp cysgodol.
Wrth gael ei holi gan Hugo Keith, cwnsel yr ymchwiliad, dywedodd: "Nid oedd y grŵp yn aros i'r DU weithredu. Roedd e'n yn edrych ar sut y gallen ni yma yng Nghymru baratoi at bandemig".
Dywedodd hefyd bod y gwaith o baratoi at y pandemig yng Nghymru wedi'i oedi, a hynny oherwydd y gwaith paratoi at Brexit heb gytundeb.
Yn ystod y cyfnod hwnnw cafodd adnoddau eu symud i ddelio â materion eraill.
"Roedd yna oedi i'r gwaith," meddai.
'Dim digon o adnoddau'
Ar ddiwedd ei dystiolaeth dywedodd y Prif Swyddog Meddygol bod ei "swyddfa yn boddi gan wybodaeth" ar ddechrau'r pandemig a "doedd gennym ddim digon o adnoddau," meddai.
"Wrth i bethau symud yn gyflym iawn doedden ni ddim yn gallu rheoli e-byst.
"Roedd hynny yn golygu bod yn rhaid i ni gael mwy o adnoddau," ychwanegodd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol, Andrew Goodall, wrth yr ymchwiliad na weithredwyd pob un o argymhellion y grwpiau a oedd yn canolbwyntio ar bandemig ffliw.
Yn ystod y pandemig, Dr Goodall oedd pennaeth y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Wrth gael ei holi dywedodd ei fod yn derbyn bod gwaith wedi'i ddyblygu a weithiau "bod gormod o drefniannau" - problem a gafodd ei hamlygu mewn adroddiad yn 2012 pryd y rhybuddiwyd am "ddryswch" a methiannau fyddai'n gadael Cymru yn "llai gwydn".
Oherwydd prinder amser doedd dim mwy o gwestiynau i Dr Goodall ddydd Llun - bydd yn cael ei holi eto ddydd Mawrth.
Ddydd Mawrth hefyd bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r cyn-weinidog iechyd, Vaughan Gething yn ymddangos o flaen yr ymgynghoriad.
Mae'r gwrandawiadau, sy'n cael eu cadeirio gan y Farwnes Hallett, eisioes wedi clywed cyhuddiadau gan grŵp o deuluoedd o Gymru a gollodd eu hanwyliaid - maen nhw'n honni bod "methiant trychinebus" wedi bod i gynllunio ar gyfer y math hwn o argyfwng.
Wrth roi tystiolaeth ar ddiwrnod cyntaf yr ymchwiliad fis diwethaf, dywedodd y grŵp ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru ddim wedi cymryd camau digonol i ddeall a pharatoi ar gyfer risgiau pandemig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2023