Cyhoeddi enw beiciwr fu farw ger Dinbych

  • Cyhoeddwyd
a525 RhuthunFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ar yr A525 yn Rhewl ddydd Sul

Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd Paul George Spinks, 48 oed o Milton Keynes, ei ladd pan fu ei feic Yamaha mewn gwrthdrawiad gyda char Audi ar yr A525 rhwng Rhuthun a Dinbych ddydd Sul, 9 Gorffennaf.

Wrth agor cwest i'w farwolaeth, dywedodd crwner Dwyrain a Chanol Gogledd Cymru, John Gittins, ei fod wedi cael gwybod bod Mr Spinks wedi methu â chymryd troead ar y ffordd i gyfeiriad Dinbych ac wedi croesi i'r lôn tua'r cyfeiriad arall.

Cafodd anafiadau difrifol iawn, a bu farw yn y fan a'r lle.

Mewn adroddiad i'r gwrthdrawiad, dywedwyd fod Mr Spinks yn teithio mewn rhan o gonfoi gydag eraill.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad arall.

Pynciau cysylltiedig