Carchar am oes i ddyn a laddodd cymar ei chwaer

  • Cyhoeddwyd
Andrew SouthwoodFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Andrew Southwood yn cael ei ddedfrydu mis nesaf am ladd Carl Ball

Mae dyn a lofruddiodd pedoffilydd gyda styllen o bren mewn ymosodiad "ffyrnig" yng Nghasnewydd wedi cael dedfryd o garchar am oes.

Bydd yn rhaid i Andrew Southwood, 39, dreulio o leiaf 20 mlynedd o dan glo am guro Carl Ball i farwolaeth yn y digwyddiad yn Heron Way, yn ardal Dyffryn y ddinas, fis Awst y llynedd.

Yn ystod yr achos yn Llys y Goron Casnewydd, fe wadodd Southwood y cyhuddiadau yn ei erbyn, gan honni mai dau ddyn yn gwisgo mygydau rhag Covid oedd yr ymosodwyr.

Gwrthod ei amddiffyniad wnaeth y rheithgor wrth ei gael yn euog o lofruddiaeth ym mis Mehefin.

Clywodd y llys bod Mr Ball, 51, wedi cael anafiadau mewnol niferus a achosodd iddo waedu i farwolaeth. Cyn iddo farw, fe ddywedodd wrth y gwasanaethau brys: "Southward wnaeth e."

Roedd hi'n amhosib i griwiau ambiwlans gadarnhau pa mor ddifrifol oedd natur yr anafiadau mewnol oherwydd doedd yr un tyst yn barod i esbonio natur yr ymosodiad.

'Wedi newid fel person'

Yn 2001 fe gafwyd Mr Ball yn euog mewn llys o dreisio menyw ac o gam-drin plentyn yn rhywiol.

Roedd wedi cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl cwblhau dedfryd o 10 mlynedd o dan glo.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen i'r llys ar ei rhan, fe ddywedodd chwaer Mr Ball, Michelle Lewis, ei bod wedi dechrau adfer ei pherthynas gyda'i brawd yn y blynyddoedd diwethaf.

Dywedodd ei fod wedi cael cyfnodau "trwblus" yn y gorffennol ond ei fod "wedi newid fel person" a'i fod yn "ceisio cael ei fywyd yn ôl ar y trywydd cywir".

"Roedd wedi talu'r pris am ei droseddau," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Carl Ball tu allan i'w gartref yn Heron Way fis Awst y llynedd

Roedd yr ymosodiad ar ei brawd, meddai, wedi digwydd "yng ngolau dydd tu allan i'w gartref ei hun tra bod cymdogion ond wedi gwylio a heb helpu".

Ychwanegodd: "Wna'i byth ddeall pan na wnaeth unrhyw un geisio helpu Carl cyn i'r heddlu gyrraedd.

"Mae'r hyn a ddigwyddodd iddo yn fy llenwi â dicter. Cafodd bywyd Carl ei gymryd oddi arno."

Marwolaeth 'araf, boenus a fychanol'

Clywodd y llys bod gan Southwood record droseddol rhwng 1998 a 2015. Roedd mwyafrif o'i euogfarnau'n ymwneud â dwyn, ond roedd llysoedd hefyd wedi ei gael yn euog o ymosod a churo, ac o fod ag arf yn ei feddiant.

Wrth dedfrydu'r diffynnydd, dywedodd y Barnwr Mr Ustus Griffiths bod Carl Ball "wedi cael bywyd anodd", ei fod wedi cwblhau ei ddedfryd yn y carchar, a bod ei euogfarn ddiwethaf dros 20 mlynedd ynghynt.

"Yn yr alwad 999 a wnaeth Carl Ball mae modd ei glywed yn erfyn arnoch chi i stopio," dywedodd.

"Roedd yn ymosodiad direswm creulon a chiaidd. Roedd ei farwolaeth yn araf, yn boenus ac yn fychanol."

Fe regodd Southwood ar y barnwr wrth adael y doc, ac fe waeddodd ei deulu "Rydyn ni'n dy garu" o'r oriel gyhoeddus wrth iddo gael ei dywys i'r celloedd.

Yn ôl arweinydd ymchwiliad Heddlu Gwent i'r achos, roedd Southwood "heb ddangos unrhyw edifeirwch am ei drosedd ac wedi myd ati i geisio camarwain swyddogion wrth iddyn nhw ymchwilio i amgylchiadau Carl Ball".

Roedd y llofruddiaeth, meddai'r Ditectif Uwcharolygydd Nick Wilkie, "yn achos o gymryd y gyfraith i'ch dwylo eich hyn".

Ychwanegodd bod y teulu wedi clywed "manylion dirdynnol" yn ystod yr achos, gan obeithio bod y canlyniad "yn rhoi rhyw gysur iddyn nhw".