Graffiti yn 'amharchu harddwch naturiol' Yr Wyddfa

  • Cyhoeddwyd
graffiti Wyddfa

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn dweud na ddylai pobl adael graffiti ar y mynyddoedd, wedi i lun o garreg gydag ysgrifen drosti gael ei rannu ar-lein.

Cafodd y ddelwedd ei thynnu gan gerddwr yn ardal Bwlch Glas ar lethrau'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru.

Aeth y person ati i bostio'r llun ar Twitter, gyda sylw'n gofyn "pam fod pobl yn dinistrio popeth?".

Mae sawl enw'n rhan o'r graffiti, a dyddiad ymweliad yr unigolion yma â'r ardal.

Dywedodd llefarydd ar ran y Parc bod "ein tirweddau yn weithiau celf yn ei hunain" a bod graffiti yn "amharchu [yr] harddwch naturiol" sy'n denu pobl o bedwar ban byd.

"Mae 'na amryw o resymau pam na ddylai bobl ddarlunio graffiti yn amgylchedd naturiol Eryri, gan ei fod yn niweidio cynefinoedd bywyd gwyllt a phlanhigion, gan amharu ar y rhywogaethau sy'n ffynnu yn yr ardaloedd hyn," meddai.

"Yn ogystal â hyn mae tynnu graffiti yn cymryd amser, ymdrech ac adnoddau i ffwrdd o warchod a gwella ein Parc Cenedlaethol, adnoddau all gael eu defnyddio yn well ar gyfer prosiectau cadwraeth a gwella profiad ymwelwyr."

Problemau diweddar

Mae'r twf yn nifer y bobl sy'n ymweld gyda Pharc Cenedlaethol Eryri - tua 50,000 o bobl yn ychwanegol bob blwyddyn - wedi bod yn achosi trafferthion eraill yn ddiweddar.

Yn ddiweddar fe lansiwyd ymgyrch i gael yr ardal yn ddi-blastig er mwyn ceisio atal sbwriel rhag cael ei adael yn y Parc.

Ym mis Medi y llynedd bu galwadau i newid y ffordd y mae holl barciau cenedlaethol Cymru'n cael eu rhedeg i geisio taclo problemau megis pobl yn cael barbeciws ar fynyddoedd, gwersylla gwyllt a'r problemau oedd yn cydfynd â hynny a thrafferthion parcio ger yr holl safleoedd.