Carcharu giang guddiodd arian mewn cyfrifon crypto

  • Cyhoeddwyd
Amir KhanFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Amir Khan ei garcharu am dros 20 mlynedd

Mae 12 aelod o giang cyffuriau wnaeth werthu mwy na 40kg o gocên ar draws de Cymru i gyd wedi cael eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.

Clywodd y llys fod y giang wedi 'glanhau' yr arian a gafon nhw drwy ddefnyddio cyfrifon arian rhithiol.

Ond hyd yma, mae gwerth £153,520 yn parhau heb ei ganfod.

Roedd yr arweinwyr, Amir Khan, 30 oed, a Joshua Billingham, 26, wedi dweud wrth eu teuluoedd i lanhau'r enillion tra'r oedden nhw yn y carchar drwy ddefnyddio cyfnewidfa arian rhithiol Coinbase.

Cafodd Stacey Challenger, 29 oed, a Joshua Collins, 26, hefyd eu carcharu.

'Syfrdanol'

Cafodd Khan ddedfryd o 20 mlynedd a saith mis am droseddau yn cynnwys cynllwynio i gyflenwi cyffuriau gan gynnwys cocên, ecstasi a ketamine, ac am gynllwynio i gyfnewid eiddo troseddol.

Clywodd y gwrandawiad fod gwerth $2.8m (tua £2.1m) wedi pasio trwy gyfrifon arian crypto yn ystod cyfnod y gang yn gwerthu cyffuriau ar draws y de.

Yn y llys dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins wrth Khan fod ei droseddu yn "wirioneddol syfrdanol".

Ychwanegodd fod trosglwyddo'r enillion i arian rhithiol yn golygu ei bod bosibl na fyddai byth yn cael ei ddarganfod.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Joshua Billingham ddedfryd o 14 mlynedd ac wyth mis o garchar

Cafodd Billingham ddedfryd o 14 mlynedd ac wyth mis.

Dedfryd Collins oedd saith mlynedd ac wyth mis tra bod partner Billingham, Stacey Challenger wedi cael dedfryd o 12 mis am ei rôl yn glanhau mwy na £300,000 a chynllwynio i lanhau arian drwy ddefnyddio arian rhithiol.

Pan aeth yr heddlu i gartref y cwpl yng Nghaerffili fe ddaethon nhw o hyd i fwy na £10,000 ynghyd â pheiriant cyfri arian.

Dywedodd y barnwr: "Pam fod peiriant cyfri arian yn eich meddiant? Roeddech chi'n ddiwaith ac yn byw gyda dyn oedd heb waith."

Clywodd y llys fod mwy na £153,520 wedi cael ei roi mewn waled 'crypto' rhithiol ac nad oedd wedi cael ei ganfod.

Gweddill y dedfrydau

Cafodd wyth aelod arall o'r giang eu dedfrydu yn ystod y gwrandawiad a barodd am ddau ddiwrnod. Y gweddill oedd:

  • Leon Sullivan - 11 mlynedd a phedwar mis;

  • Darryl Skym - 10 mlynedd;

  • Callum Richards - Naw mlynedd a hanner;

  • Caitilin De Jager (partner Amir Khan) - Pedair blynedd a phedwar mis;

  • Matthew Dean - Pedair blynedd a thri mis;

  • Sami Rehman - 18 mis;

  • Ian Kidley - Dwy flynedd (ond bydd yn cael ei rhyddhau yn fuan gan ei fod wedi bod o dan glo in disgwyl yr achos);

  • Sidra Khan - Dedfryd o garchar wedi'i ohirio am 18 mis.

Yn achos Caitlin De Jager, clywodd y gwrandawiad iddi osod offer gwrando yn y tŷ roedd hi'n ei rannu gyda Khan gan recordio 600 o sgyrsiau ynglŷn â gwerthu a pharatoi cyffuriau.

Yn ôl ei bargyfreithiwr Andrew Taylor KC fe wnaeth hi hynny i geisio gwarchod ei hun, ac fe brofodd y weithred honno i fod yn help mawr i ymchwiliad yr heddlu.

Gyda dau blentyn ifanc ac yn bartner i un o ddelwyr cyffuriau mwyaf Cymru roedd hi'n "anodd os nad yn amhosibl iddi ddianc o'r bywyd hwnnw", meddai.

Wrth gydnabod y ffaith iddi bledio'n euog yn gynnar dywedodd y Barnwr Jeremy Jenkins bod y ffaith iddi drosglwyddo $170,000 o gyfri crypto pan oedd y rhwyd yn cau am y gang, yn cyfrif yn ei herbyn. Mae'r arian hwnnw yn dal ar goll.

Clywodd y llys fod Sidra Khan yn chwaer fach i Amir Khan a'i bod wedi bod o dan bwysau i gynorthwyo'r giang am resymau teuluol a diwylliannol.

Fe wnaeth y barnwr dderbyn bod ei brawd yn gwneud trosglwyddiadau crypto yn ei henw hi, ac fe gafodd gwerth $2.8m o drafodion eu gwneud drwy ei chyfrif hi.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron fod y dystiolaeth gref a gafodd ei gyflwyno wedi sicrhau bod giang troseddol wedi eu dwyn i gyfri'.

Pynciau cysylltiedig