Diwedd cyfnod yn Rhydaman wrth i Gapel Bethani gau

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Capel Bethani

Bydd capel enwog Bethani yn Rhydaman yn cau fis Hydref a hynny am fod nifer yr aelodau wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Ers codi'r adeilad gwreiddiol ym 1881 - gyda'r enw Bethany ar yr adeg honno - mae'r capel wedi ennyn cryn sylw wrth i nifer o unigolion dylanwadol fod yn weinidogion yno - yn eu plith yr emynydd W Nantlais Williams.

Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif roedd yn gapel hynod boblogaidd - gyda nifer yr aelodau yn treblu wedi i Nantlais gael ei ddylanwadu'n fawr gan Ddiwygiad 1904.

'Bethani o'dd y lle i fynd'

"Roedd dylanwad Nantlais yn enfawr ac mae'r capel â rhan bwysig iawn yn hanes crefydd yng Nghymru - mae e wedi bod yn gapel hynod o ddylanwadol," meddai Huw Jones a fagwyd yn y capel.

"Roedd e'n gapel anhygoel a Nantlais hefyd. Roedd ein teulu ni yn mynd i Bethani sawl gwaith ar y Sul.

"Fe gafodd fy nhad dröedigaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mametz Wood a phan dda'th e adre' fe benderfynodd e fynd i Bethani - achos Bethani o'dd y lle i fynd.

"Ges i fy medyddio gan Nantlais - ro' ni blant yn ei addoli fe. Wi'n drist iawn bod y capel yn mynd i gau."

Disgrifiad o’r llun,

Gaynor Jones, ysgrifennydd y capel, a'i mab Steffan a fagwyd yn y capel

Un arall sy'n rhannu'r tristwch am gau'r capel yw Gaynor Jones, yr ysgrifennydd presennol.

Wrth siarad â Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru dywedodd nad oedd dewis ond cau'r capel a'i fod yn benderfyniad unfrydol gan yr aelodau.

"Ydi mae wedi bod yn gapel dylanwadol iawn. Nantlais wrth gwrs wedi'i ddylanwadu yn drwm gan Ddiwygiad 1904 a hynna wedyn yn ddylanwad mawr arnom ni.

"O'dd e'n annwyl iawn, llais annwyl 'dag e. O'dd e'n amser hyfryd ond mae'n rhaid cofio ein bod wedi cael ein bendithio â sawl gweinidog dylanwadol ar ôl Nantlais.

"Ni'n anhapus bo' ni'n gorfod cau ond ni'n gwybod bo' ni methu cario 'mlaen. Sa'i wedi bod yn aelod mewn capel arall."

Bu W Nantlais Williams yn weinidog ar y capel am dros 40 mlynedd ac ymhlith y rhai a'i olynodd roedd y Parchedigion J D Williams a Gareth Davies.

Canu 'Suai'r Gwynt' am y tro cyntaf

Fe briododd Mari Llwyd, merch y Parchedig Gareth Davies, yn y capel ac ar hyd y blynyddoedd mae hi wedi clywed nifer o hanesion am yr hyn oedd yn digwydd yno gan fod ei mam, Eunice, wedi'i magu yng nghapel Bethani.

"Claim to fame Mam oedd ei bod hi'n nosbarth derbyn olaf Nantlais.

"Ro'dd ganddi hefyd stori hyfryd am fod yn yr Ysgol Sul wythnosau cyn y Nadolig a'i hathrawes yn gofyn i Nantlais oes gennych chi rywbeth i'r plant 'ma ganu yn y gwasanaeth Nadolig.

"'Gadewch e gyda fi,' medde fe a'r Sul canlynol dyma fe'n dod nôl atyn nhw â'r garol 'Suai'r Gwynt' - felly o'dd Mam wastad yn dweud bod hi a'i ffrindiau ymhlith y criw cyntaf i ganu y gerdd hyfryd honno."

Ffynhonnell y llun, Mari Llwyd
Disgrifiad o’r llun,

Band of Hope Capel Bethani 1941/2, ac yn y canol mae Nantlais

"O'dd ddylanwad y Diwygiad yn gryf iawn ar y gweinidog ac ar yr aelodau - ro'n nhw'n bobl oedd wedi profi symudiadau nerthol yr Ysbryd Glân a chofiai mam am un gŵr oedd â dagrau yn powlio lawr ei ruddiau tra bod e'n gweddïo. Ro'dd yr efengyl mor real i'r criw yna - criw y Diwygiad.

"Fe briodes i, fy mrawd a'm chwaer ieuengaf yn Bethani. Felly mae'n drist bod e'n cau ond bydd gwaith Duw yn parhau yn Rhydaman ac yng Nghymru - yr adeilad yn unig sy'n cau," ychwanegodd Mari Llwyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mari a'i thad, Y Parchedig Gareth Davies, ar ddiwrnod ei phriodas yng Nghapel Bethani

Fe godwyd adeilad presennol y capel ym 1929 ac yn ddiweddarach Cymreigiwyd yr enw gwreiddiol i Bethani.

'Yr efengyl yn parhau'

Dywed Steffan Jones, sydd bellach yn weinidog ei hun, bod "yr Ysbryd Glân wedi gweithio mewn ffordd anarferol fan hyn" gan ychwanegu bod nifer o'r rhai a fu'n aelodau yn y capel wedi dewis bod yn bregethwyr neu'n genhadon.

"Ges i'm magu 'ma o dan arweiniad Gareth Davies a des i'n Gristion fan hyn," meddai.

"Mae yna dri chyfnod nodedig o fendith wedi bod yn y capel - Diwygiad 04-05, roedd yna gyfnod wedyn yn y 40au ac un arall yn y 60au.

"Mae'n anodd gweld y capel yn cau oherwydd yr atgofion a'i ddylanwad ar nifer o bobl - mae nifer o weinidogion wedi'u meithrin yma ac mae eraill wedi mynd yn genhadon i lefydd fel India, Ariannin a Chongo.

"Dwi'n teimlo am bobl fel Mam [Gaynor Jones] sydd wedi'i magu yma. Mae 'na atgofion a hiraeth am y dyddiau a fu ond mae'r efengyl yn dal i gael ei phregethu yn Rhydaman.

"Nid mewn adeilad mae'n gobaith ni - er mor hardd yw'r adeilad yma - ond yn ein Duw sydd ar waith."

Bydd y gwasanaeth olaf - y gwasanaeth datgysegru - yn cael ei gynnal yn y capel ar 15 Hydref.

Mae modd clywed mwy am y stori hon yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.