Perygl i filoedd golli eu golwg tra'n disgwyl triniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n wynebu "trychineb" lle gallai degau o filoedd o bobl golli eu golwg yn ddiangen, oni bai fod gwelliannau brys i'r modd y mae gofal llygaid arbenigol yn cael ei ddarparu.
Dyna rybudd meddyg blaenllaw wrth i'r ffigyrau diweddaraf ddangos fod dros 75,000 o bobl, sydd â'r risg mwyaf o ddallineb, yn aros yn rhy hir am driniaeth - ffigwr sydd wedi bron dyblu mewn pedair blynedd.
Mae'r prinder arbenigwyr yn gwaethygu'r "argyfwng" yn ôl elusen RNIB Cymru, tra bo Plaid Cymru yn rhybuddio bod angen i fyrddau iechyd flaenoriaethu'r cleifion mwyaf anghenus, er gwaetha'r pwysau cyffredinol ar restrau aros.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n "gwella'r mynediad i wasanaethau gofal llygad" gan gynnwys cyflwyno theatrau symudol ac agor clinigau cymunedol newydd.
Beth mae'r ystadegau'n dangos?
Yn 2019 Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno targedau gofal llygaid newydd, i geisio sicrhau fod unigolion â'r risg mwyaf o ddallineb yn cael triniaeth wedi'i flaenoriaethu.
Mae cleifion yn cael dyddiad penodol i gael eu gweld yn seiliedig ar lefel y risg i'w golwg.
Fe ddylai 95% ohonyn nhw gael eu gweld erbyn y dyddiad hwn, neu ddim hwyrach na 25% y tu hwnt iddo.
Felly dylai bron pob claf sy'n cael targed o wyth wythnos, er enghraifft, ddim orfod aros yn hirach na 10 wythnos am eu triniaeth.
Mae hyn yn cynnwys apwyntiadau cychwynnol a dilynol.
Yn Ebrill 2019 roedd 39,072 o gleifion yng Nghymru yn aros yn hirach na hyn - 37% o'r bobl yn y categori brys mwyaf.
Erbyn Mai 2023 roedd y ffigwr hwnnw wedi bron dyblu i 75,339 - sef 53% sy'n wynebu'r risg uchaf o golli eu golwg.
Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos amrywiaeth ym mherfformiad byrddau iechyd.
Ym mis Mai roedd 41.6% o gleifion â'r risg mwyaf yn aros yn hirach nag y dylen nhw ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, o'i gymharu â 56.4% yng Nghwm Taf Morgannwg, a 61.9% yng ngogledd Cymru yn ardal Betsi Cadwaldr.
Ond mae pob bwrdd iechyd wedi gweld dirywiad sylweddol ers 2019, yn rhannol o ganlyniad i effaith y pandemig.
Mae arbenigwyr y llygaid yn dadlau ei bod yn hanfodol blaenoriaethu cleifion ar sail y brys sydd ei angen am driniaeth, oherwydd bod cyflyrau fel glawcoma a dirywiad macwlaidd cysylltiedig ag oedran yn gallu arwain at ddallineb parhaol yn llawer cynt na rhai cyflyrau eraill sy'n effeithio ar y llygaid.
'Llygaid yn mynd yn waeth bob dydd'
Mae gan Llynda Lloyd, 83, sy'n byw yn Sir Benfro, gyflwr o'r enw Dirywiad Macwlaidd Gwlyb.
Mae'n golygu y gallai golli golwg mewn cyfnod byr iawn oni bai ei bod hi'n cael pigiad llygad rheolaidd.
"Fe wedodd y specialist wrtha'i bod rhaid i fi gael un bob chwech wythnos," meddai.
"Wedodd e y tro diwethaf y bydde fe'n gallu safio'r lygad hon ag efalle y gallen i fynd nôl i ddreifo. Ond wedodd e mae'n rhaid i fi ddod bob chwech wythnos. Ond 'so 'na'n digwydd.
"Wy 'di bod yn aros 12 wythnos, weithiau 15 wythnos i gael apwyntiad. Ffonies i lan bythefnos yn ôl, wedon nhw dydw i ddim ar y list eto er bo' fi 'di cael yr apwyntiad diwethaf 'nôl ym mis Mai."
Yr hiraf mae'n aros, y mwyaf mae Llynda yn sylwi ar y dirywiad yn ei golwg.
"Mae'n ofnadw'," meddai. "Bob dydd 'wy'n teimlo bod y llygaid yn mynd yn waeth. Mae'r television 'da fi mas yng nghanol yr ystafell a 'wy ffili gweld yr amser. Pan fi'n mynd â'r ci bach mas am wac 'wy ddim yn nabod wynebau pobl."
Mae Llynda yn pryderu y bydd hi'n colli'i golwg yn gyfan gwbl cyn bo hir.
"Wy'n gwbod fyddai'n colli'n llyged i os na byddai'n cael fy ngweld yn fwy aml. A fi'n credu bod hwnna'n waeth i'r NHS, achos ar hyn o bryd 'wy'n byw ar ben fy hunan, 'wy'n gallu glanhau, mynd mas 'da'r ci, siopa - fydda i ddim yn gallu gwneud y pethe hynny."
Ma Llynda yn cael rhywfaint o gysur o fynychu grŵp cymorth sy'n cael ei drefnu gan y Gymdeithas Facwlaidd yn Ninbych-y-Pysgod.
Ond o'r tua 12 sy'n dod i'r cyfarfodydd misol, mae'r mwyafrif wedi profi oedi tebyg.
Un broblem benodol yng ngorllewin Cymru yw prinder offthalmolegwyr ymgynghorol, gydag ond dau yn gweithio yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n gwasanaethu poblogaeth o tua 380,000.
Ym Mae Abertawe mae 14 o ymgynghorwyr gofal llygaid yn gweithio mewn bwrdd iechyd gyda phoblogaeth o oddeutu'r un maint.
Dywedodd Keith Jones, Cyfarwyddwr Gofal Eilaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, eu bod nhw'n siomedig fod rhai cleifion yn aros yn "hirach nag y bydden ni'n ei hoffi" oherwydd y pwysau ar y gwasanaeth.
"Rydym yn cymryd nifer o gamau i wella'r sefyllfa, gan gynnwys gweithio gyda byrddau iechyd cyfagos i wella'r gwasanaethau sydd ar gael i gleifion ar draws ardal Hywel Dda."
Ychwanegodd fod y bwrdd iechyd wedi wynebu heriau staffio a recriwtio, ond eu bod nhw wedi bod yn ceisio cynyddu eu capasiti clinigol er mwyn delio gyda'r nifer cynyddol o achosion ers y pandemig.
'Mae'n drychinebus'
Mae Gwyn Williams yn offthalmolegydd ymgynghorol yn Ysbyty Singleton Abertawe ac yn Llywydd Cymru gyda Choleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr.
"Mae pethe'n annioddefol ac yn waeth nawr nag y'n nhw wedi bod erioed - mae'n drychinebus," meddai.
"Mae problemau 'da'u llygaid a cholli golwg ymhlith y pethau mae pobl yn fwyaf ofnus ohonyn nhw."
Mae Mr WIlliams yn galw am sefydlu canolfannau mawr rhanbarthol ar gyfer gofal llygaid lle gall meddygon weithio gyda'i gilydd ar draws ffiniau byrddau iechyd.
Mae'n dweud y byddai canolfannau o'r fath hefyd yn helpu i recriwtio staff newydd i ddod i weithio yng Nghymru.
"Yma'n Abertawe ni'n ffodus, ma' gyda ni dîm mawr. Ond dyw e ddim yn deg, os y'ch chi wedi'ch geni mewn un rhan o Gymru, bo' chi'n mynd yn ddall a rhan arall y gallwch chi gael ei gweld mewn rhai wythnosau."
Mae'n dweud fod Llywodraeth Cymru'n ymwybodol o'r angen am newid, ar ôl cyhoeddi adolygiad allanol o wasanaethau llygaid yng Nghymru yn 2021.
Ond mae'n mynnu bod angen gweithredu ar yr argymhellion a chyhoeddi strategaeth gofal llygaid newydd sydd yn cael ei ariannu'n ddigonol.
"Ma' pobl yn colli'u golwg oherwydd bod y system ddim yn gweithio," meddai. "Ni'n rhedeg a rhedeg jyst i aros yn yr unfan. Nawr y'n ni angen newid gêr i gyrraedd lle ni mo'yn bod."
'Pryder aruthrol'
Yn ôl elusen RNIB Cymru mae bywydau miloedd yng Nghymru'n cael eu heffeithio oherwydd bod y sefyllfa cynddrwg.
"Mae dros hanner y bobl sydd â'r risg mwyaf o golli eu golwg yn aros yn hirach nag y dylen nhw. Mae hwn yn argyfwng," medd Liz Williams Rheolwr Polisi RNIB Cymru.
"Mae angen i'r llywodraeth ddeall bod hon yn sefyllfa ddifrifol iawn, ac mae safonau byw pobl yn cael eu heffeithio tra eu bod nhw yn eistedd yn y tŷ yn aros i golli'u golwg.
"Rhaid blaenoriaethu'r mwyaf anghenus."
Mae'r elusen yn awgrymu hefyd fod rhai byrddau iechyd yn dewis ailgyfeirio adnoddau, oherwydd y pwysau arnyn nhw i leihau'r nifer sydd wedi bod yn aros am y cyfnodau hiraf ar bob math o restrau aros.
Ar ôl methu â chyrraedd targed blaenorol, mae'r Gweinidog Iechyd bellach yn dweud bod rhaid i fyrddau iechyd, erbyn mis Mawrth 2024, wneud yn siŵr fod 99% o gleifion ddim yn aros dros ddwy flynedd am unrhyw driniaeth.
Ond yr ofn yw, o ganolbwyntio ar y rhai sydd wedi aros y cyfnodau hiraf, gallai hynny roi'r rhai sydd angen y gofal brys dan anfantais.
Mae gan Blaid Cymru bryderon tebyg.
"Mae'n bryder aruthrol clywed fod dros hanner y bobl yng Nghymru yn aros yn rhy hir am ofal llygaid," medd Mabon ap Gwynfor, llefarydd iechyd Plaid Cymru.
"Ni'n rhedeg allan o ansoddeiriau nawr i ddisgrifio'r argyfyngau cyson yn iechyd.
"Ond rhaid i'r llywodraeth sicrhau mai'r achosion brys, y rhai sydd angen cael eu gweld yn gyflym, sy'n cael blaenoriaeth.
"Dyw e ddim yn 'neud lles i neb bod rhywun yn mynd trwy'r rhestrau aros heb dargedu'r mwyaf anghenus yn gyntaf. Mae'n rhaid i'r llywodraeth sicrhau fod byrddau iechyd yn blaenoriaethu'n gywir."
Buddsoddi pellach
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n gwella mynediad i wasanaethau gofal llygaid gan gynnwys agor theatrau symudol a chlinigau cymunedol newydd ar draws Cymru, sy'n helpu i gynyddu nifer y triniaethau cataract a lleihau'r angen i bobl fynd i'r ysbyty."
Ychwanegodd y llywodraeth eu bod nhw'n buddsoddi mewn gwella hyfforddiant i offthalmolegwyr, gan gynnwys cyfleoedd i optometryddion drin rhai achosion yn ymwneud â'r llygaid tu allan i'r ysbyty.
"Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau bod optometryddion ar y stryd fawr yn gallu rheoli, monitro a thrin mwy o gyflyrau llygaid, fel bod pobl yn gallu cael gofal llygaid yn y gymuned yn gynt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2018