Morgan Ridler, 3 o Abertawe, wedi marw ar ôl brwydro canser
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen tair oed o Abertawe a gafodd ganser wedi marw.
Cafodd teulu Morgan Ridler, sydd o ardal Gorseinon, wybod fod ganddo fath prin o ganser yn ei stumog yn 2021.
Fe ddaeth y teulu i ddeall yn ddiweddar nad oedd triniaeth Morgan yn gweithio.
Wrth rannu neges ar dudalen yr elusen sydd wedi ei sefydlu yn ei enw - Morgan's Army - dywedon ei fod wedi marw'n "gyfforddus" yn eu cwmni fore Mercher.
'Roeddet ti wastad yn chwerthin'
Dywedodd teulu Morgan fod eu "mab hardd" wedi brwydro am amser hir ond tra'n dal i wenu.
"Er y digwyddodd yn gynt nag y gallen erioed fod wedi disgwyl, roedd Morgan â rheolaeth hyd y diwedd, gan wybod ei fod yn ddiogel a'n bod ni yno gyda fe," dywedon.
"Does dim mwy o boen nawr, fe wnes di frwydro mor galed am gymaint o amser.
"Roeddet ti wastad yn gwenu, wastad yn chwerthin, wastad yn gariadus.
"Rwyt ti wedi'n dysgu ni i fod yn fwy ac i garu mwy.
"Rwyt ti wedi ysbrydoli mwy o gariad nag oedden ni fyth yn meddwl fyddai'n bosib... ry'n ni mor ddiolchgar amdanat ti."
Daeth Morgan i sylw'r cyhoedd wedi i fyfyriwr nyrsio geisio dysgu rhywfaint o eiriau Cymraeg er mwyn ei gysuro tra'i fod yn yr ysbyty yn Birmingham.
Dros yr wythnos ddiwethaf fe gafodd sawl digwyddiad eu trefnu i Morgan ar ôl i'r teulu ddod i ddeall nad oedd ei driniaeth yn gweithio.
Daeth cannoedd o bobl i weld Morgan yn cael eistedd mewn car Formula 1 tu allan i'w gartref yng Ngorseinon, cyn cael taith mewn awyren fechan o amgylch Abertawe.
Fe gafodd elusen Morgan's Army ei sefydlu yn gynharach eleni wrth i'r teulu sylwi ar "fylchau mewn cefnogaeth".
Roedd rhieni Morgan, Natalie a Matt, yn benderfynol o helpu teuluoedd eraill sy'n wynebu sefyllfaoedd tebyg.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023
- Cyhoeddwyd30 Mai 2023