Cymru'n 'colli allan' ar ymwelwyr o dramor, medd ASau

  • Cyhoeddwyd
EryriFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr ASau fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth am gryfderau Cymru fel lleoliad ar gyfer ymwelwyr tramor

Mae marchnata anhrefnus, cysylltiadau teithio sâl a diffyg pecynnau gwyliau gan gwmnïau teithio yn cael effaith negyddol ar obeithion Cymru i fod yn gyrchfan twristiaeth sy'n cael ei adnabod ar draws y byd.

Dyna mae Aelodau Seneddol sydd ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan wedi'i rybuddio mewn adroddiad.

Maen nhw'n bryderus fod gan Gymru "broffil cymharol fach dramor" a'i fod ond yn denu "cyfran fach" o'r ymwelwyr o dramor sy'n dod i'r DU.

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Stephen Crabb fod busnesau wedi "colli cyfleoedd" am nad yw Cymru'n denu mwy o dwristiaid, a bod angen gwneud mwy i hyrwyddo Cymru dramor.

Dywedodd Croeso Cymru - y corff o fewn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo twristiaeth - y bydd yn cydweithio â VisitBritain ynglŷn â sut y mae Cymru yn cael ei farchnata mewn ymgyrchoedd rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae beirniadaeth nad oes pecynnau gwyliau'n cael eu cynnig i leoliadau fel Zip World

Yn 2019 fe wnaeth 41 miliwn o deithwyr o dramor ymweld â'r DU, gan wario cyfanswm o dros £28bn, yn ôl yr adroddiad.

Ychydig dros filiwn o'r rheiny wnaeth ymweld â Chymru, gan wario £514.6m - tua 2% o gyfanswm y gwariant ar draws y DU.

Dywedodd yr ASau fod yna ddiffyg ymwybyddiaeth am gryfderau Cymru fel lleoliad ar gyfer ymwelwyr.

'Dim brand trefnus'

"Does gan Gymru ddim brand trefnus ar gyfer y farchnad dramor," meddai'r adroddiad.

"Mae angen i Gymru gael ei farchnata yn gryfach, gyda thema amlwg i ddenu twristiaid rhyngwladol ar sail cryfderau ac atyniadau unigryw Cymru."

Mae'r ASau yn awgrymu y dylai Croeso Cymru a VisitBritain gydweithio er mwyn datblygu strategaeth newydd i farchnata Cymru o fewn y chwe mis nesaf.

Ychwanegodd y pwyllgor nad ydyn nhw'n "argyhoeddedig fod VisitBritain yn cyflawni popeth y gallai wneud ar ran Cymru", gan ei annog i wneud mwy i farchnata Cymru fel "lleoliad ynddo'i hun".

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan y pwyllgor bryderon am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth dwristiaeth

Dywedodd hefyd y dylai cwmnïau teithio gynnwys Cymru mewn pecynnau gwyliau i'r DU.

"Mae modd cyrraedd Cymru o Lundain mewn ychydig oriau. Ond anaml mae'n cael ei gynnwys mewn pecynnau gwyliau i'r DU gan gwmnïau teithio," meddai'r adroddiad.

Cyswllt uniongyrchol â Heathrow?

Fe wnaeth yr ASau hefyd fynegi pryder bod "isadeiledd trafnidiaeth gwael" yn cael effaith negyddol ar allu Cymru i ddenu mwy o'r ymwelwyr sy'n dod i'r DU.

"Mae isadeiledd trafnidiaeth wedi cael ei danariannu gan lywodraethau'r DU a Chymru am nifer o flynyddoedd," meddai eu hadroddiad.

Maen nhw'n galw ar y ddwy lywodraeth i "edrych yn greadigol ar ffyrdd i ariannu cynlluniau isadeiledd trafnidiaeth yn well".

Yn benodol, maen nhw eisiau i'r llywodraethau ystyried "cyswllt rheilffordd newydd, uniongyrchol â Maes Awyr Heathrow o'r gorllewin".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Conwy wedi gefeillio â dinas yn Japan er mwyn ceisio denu mwy o ymwelwyr

Mae'r ASau hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y cynlluniau i fwrw 'mlaen â chyflwyno treth dwristiaeth.

"Ry'n ni'n teimlo y gallai'r cynnig, fel ag y mae, gael effaith negyddol ar ba mor atyniadol ydy Cymru i dwristiaid rhyngwladol," meddai'r adroddiad.

'Busnesau'n colli cyfle'

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, AS Ceidwadol Preseli Penfro Stephen Crabb y gallai Cymru wneud yn llawer gwell o ran denu ymwelwyr o dramor.

"Roedd y dystiolaeth a dderbyniwyd gan ein pwyllgor yn glir: does gan Gymru ddim brand unigryw all gael ei farchnata'n rhyngwladol," meddai.

"Mae sefydliadu'r DU a ddylai fod yn gyfrifol am hyrwyddo ymweliadau â Chymru, fel VisitBritain, yn aml yn esgeuluso hynny yn ei ddeunydd marchnata.

"Nid yn unig mae ymwelwyr yn colli'r cyfle i brofi'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig, ond hefyd busnesau ac economïau lleol fyddai'n ffynnu gyda mwy o ymwelwyr."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Huw Tudur, sy'n rhedeg gwesty gwely a brecwast, nad yw wedi cael cyswllt â Croeso Cymru ers 13 mlynedd

Yn ymateb i adroddiad y pwyllgor, dywedodd Huw Tudur, sy'n rhedeg gwesty gwely a brecwast Mair's ym Mhen-y-bont ar Ogwr, bod "dim byd wedi newid" a bod brandio Croeso Cymru yn anfon "ias lawr fy nghefn".

"Dwi ddim wedi cael dim cysylltiad efo Croeso Cymru, neu be' oedd y Bwrdd Croeso, ers 13 mlynedd.

"Does dim byd marchnata, dogfennau, mapiau a phamffledi wedi cael eu hanfon ata i drwy'r post."

'Brandio hen-ffasiwn'

Ychwanegodd ar Dros Frecwast fod "y brandio yn hen-ffasiwn - defaid, rygbi a phethau sydd ddim yn cynrychioli'r byd modern sydd ohoni" a bod hynny yn gwneud ei gwaith y busnes "yn anoddach."

"Ma'r brandio a dweud y gwir yn anfon ias lawr fy nghefn i," meddai.

"Mae angen i ni ddatblygu'r holl beth, gwerthu ein gwlad a chael mwy o gymorth.

"Mae angen rhywbeth mewnol, cadarn, ifanc, i bob man o Gymru i wella brandio a [rhoi] gwell golwg ar Gymru i bobl eraill."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Jim Jones o Twristiaeth Gogledd Cymru gyda maer dinas Beppu yn Japan

Yn ôl Jim Jones o gorff Twristiaeth Gogledd Cymru, nid isadeiledd yw'r broblem, ond yn hytrach diffyg marchnata a chysylltiadau gyda gwledydd tramor.

"Yn anffodus, trwy'r byd, dydi Cymru'n dal ddim yn adnabyddus iawn," meddai.

"Pan 'da chi'n mynd ar wyliau ac yn dweud o lle 'da chi'n dod, mae pawb wastad yn gofyn 'lle mae Cymru?' ac mae hi wedi bod fel yna ers amser hir iawn.

"Felly mae angen lot fawr iawn o waith ar gynyddu ein proffil."

Ychwanegodd ei fod yn awyddus gweld mwy o gysylltiadau gyda gwledydd tramor, fel y mae Conwy wedi'i wneud yn gefeillio gyda dinas Himeshi yn Japan.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Suzy Davies y gallai fod yn anodd denu mwy o ymwelwyr tramor "efo'r strwythur presennol trafnidiaeth sydd yma"

Yn ôl cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, Suzy Davies, mae'n bosib fod y ffaith bod Croeso Cymru yn rhan o Lywodraeth Cymru yn ychwanegu at y broblem.

"Gan fod Croeso Cymru yn rhan o'r llywodraeth, mae'n cyfyngu faint o arian all gael ei wario ar farchnata mewnol a tramor, a dwi'n gwybod bod yr adroddiad wedi tynnu sylw at hyn," meddai ar Dros Frecwast.

"Dydi economi ymwelwyr ddim wedi bod ar frig blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yn ddiweddar, ond gobeithio bydd hyn yn newid, gan ei fod yn glir bod economi ymwelwyr ar draws y byd yn allweddol."

Ychwanegodd y gallai fod yn anodd denu mwy o ymwelwyr tramor "efo'r strwythur presennol trafnidiaeth sydd yma".

Dywedodd llefarydd ar ran Croeso Cymru: "Ry'n ni'n falch gweld bod yr adroddiad yn tynnu sylw at waith positif Croeso Cymru o ran ein marchnata, faint ry'n ni'n ymwneud â'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru, a chyd-weithio yn yr Unol Daleithiau.

"Ry'n ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda VisitBritain ynglŷn â sut mae Cymru'n cael ei farchnata yn eu hymgyrchoedd rhyngwladol, i gwmnïau teithio, a rhannu data gyda'r diwydiant - cydrannau allweddol os am lwyddo yn y diwydiant cystadleuol hwn."

'Record gadarn o hybu economi Cymru'

Mae VisitBritain, yn ôl prif weithredwr y corff, Patricia Yates, "yn gweithio'n agos iawn gyda Croeso Cymru i hybu Cymru yn rhyngwladol fel cyrchfan ar gyfer ymwelwyr trwy ymgyrch GREAT Llywodraeth y DU".

Dywedodd eu bod "â record gadarn o ran hybu economi Cymru" a arweiniodd at £34m yn fwy o wariant gan ymwelwyr tramor yng Nghymru "yn 2019-20 yn unig o ganlyniad i'n gwaith, sy'n gyfystyr â £21 am bob £1 a fuddsoddir ynddom".

Mae'r gwaith eleni, meddai, yn cynnwys gwahodd busnesau Cymreig i fod yn rhan o ymweliadau masnach â China, India ac UDA, ac ailwampio'r cynnwys ar-lein er mwyn "ysgogi ymweliadau".

Ychwanegodd Ms Yates: "Byddwn yn craffu'n fanwl ar gasgliadau'r Pwyllgor Materion Cymreig ac yn parhau i weithio gyda Croeso Cymru i adeiladu ar ein partneriaeth."