'Rhaid sicrhau bod treth dwristiaeth o fudd i gymunedau'

  • Cyhoeddwyd
Portmeirion
Disgrifiad o’r llun,

Mae pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog yn denu tua 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw 'mlaen â chynlluniau i godi treth twristiaeth, mae perchennog pentref Portmeirion wedi galw am sicrwydd y bydd yr arian yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i gymunedau.

Dywedodd Robin Llywelyn wrth Newyddion S4C fod angen edrych dramor tuag at Ewrop i weld sut mae gwledydd yno yn gweithredu polisïau tebyg i wella twristiaeth, ac sy'n hwb i'r sector.

Daw hynny wrth i Brifysgol Bangor lansio cwrs newydd fydd yn "hyfforddi arweinwyr y dyfodol" mewn rheoli twristiaeth gynaliadwy.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai'r bwriad yw cyflwyno deddfwriaeth fydd "o fudd i gymunedau" o fewn tymor y Senedd hon.

'Gwneud y diwydiant yn gynaliadwy'

Mae pentref Eidalaidd Portmeirion ger Porthmadog yn denu tua 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, gyda'r sector twristiaeth gyfan yng Nghymru â gwariant o dros £6bn.

Ond mewn mannau poblogaidd fel Eryri, Bannau Brycheiniog a Phen Llŷn mae sawl trafferth wedi codi, gyda gor-dwristiaeth yn arwain at broblemau parcio mewn sawl man.

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn dweud y bydd y dreth twristiaeth yn fodd o ail-fuddsoddi arian yn ôl i gymunedau, tra bo'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y gallai arwain at lai yn ymweld â Chymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Robin Llywelyn ei bod yn allweddol fod y dreth yn helpu cymunedau a'r diwydiant twristiaeth

Ond gyda'r syniad o dreth ar y gweill, mae Robin Llywelyn - sy'n cyflogi oddeutu 120 o staff ym Mhortmeirion - yn galw am sicrwydd y bydd busnesau fel ei un o, a chymunedau'n ehangach, yn gweld budd o'r cynllun.

"'Dan ni fel cwmni yn bleidiol dros dreth ar dwristiaeth os ydy hynny yn helpu i wneud y diwydiant yn gynaliadwy ac os ydy'r dreth yn cael ei rhannu yn y cymunedau, lle mae'n cael ei hybu, yn lle mewn rhywle sydd â phwll diwaelod," meddai.

"Mae Venice yn cyfyngu ar y nifer o bobl... dwi ddim yn dweud bod ni'n cael yr un nifer â Venice, ond mae 'na lawer o wledydd sydd eisiau cyfyngu er mwyn mwynhad pawb."

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru byddai'r dreth yn effeithio ar unigolion sy'n aros dros nos mewn llety, a byddai'r ffi yn amrywio rhwng 50c i £5 y noson yn dibynnu ar y math o lety.

"Mae ardollau ymwelwyr yn gyffredin ar draws y byd, gyda refeniw yn cael ei ddefnyddio er budd cymunedau, twristiaid a busnesau lleol," meddai llefarydd.

"Byddai ein cynlluniau'n caniatáu i awdurdodau lleol benderfynu a ydynt am gyflwyno'r ardoll, yn seiliedig ar eu hanghenion."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Lee o Wolverhampton yn dweud y byddai'n hapus talu treth twristiaid pan yn ymweld â Chymru

Ond faint o ymwelwyr fyddai'n fodlon talu mwy?

Ar ei wyliau o Wolverhampton, mae Jeremy Lee yn dweud y byddai'n hapus rhoi mwy.

"Mae lot o lefydd yn gwneud hyn, gan fod cymaint o dwristiaid - mae mwy a mwy bob blwyddyn," meddai.

"Gobeithio y byddai'n rhyw £2, £3 efallai?

"Byddai'n dda gwybod fod y pres hefyd yn dod 'nôl i'r gymuned, a gweld o ar y newyddion a chlywed bod y pres yn cael ei roi i wella pethau'n lleol."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Rhys ap Gwilym fod potensial i dwristiaeth "gyfrannu yn fwy i economi Cymru ac i gyflogadwyedd"

Wedi pryderon am gor-dwristiaeth yn ardal Eryri, mae Prifysgol Bangor bellach wedi cyhoeddi cwrs newydd mewn Rheolaeth Twristiaeth Gynaliadwy, a hynny yn rhan o uchelgais yr ardal i wella profiad pawb.

"Mae'n sector bwysig ond falle fod 'na botensial iddo gyfrannu yn fwy i economi Cymru ac i gyflogadwyedd," meddai Dr Rhys ap Gwilym o Ysgol Fusnes Prifysgol Bangor.

"Beth 'da ni eisiau gweld ydy diwydiant sy'n gynaliadwy, a 'dan ni angen pobl sydd efo sgiliau i gymryd mantais o'r cyfleoedd sydd yna."

Dysgu o dramor

Yng Ngwynedd mae'r cyngor eisoes wedi cyflwyno mwy o reolau, ar y cyd â Pharc Cenedlaethol Eryri, sydd â'r nod o wella profiad ymwelwyr a rhai sy'n byw yn lleol.

Mae'r rhain yn cynnwys bysus gwennol i droed Yr Wyddfa, a chaniatâd cynllunio sydd newydd ei gymeradwyo i godi meysydd parcio penodol i garafanau sy'n aros dros nos.

Mae'r cyngor hefyd yn dweud mai edrych dramor am atebion yw'r ateb i sawl problem.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cyngor Gwynedd edrych ar enghreifftiau yn Ewrop a thu hwnt, medd Rowland Wyn Evans

"Neges gyson i ni gan ein cymunedau a busnesau yw bod nhw angen gweld gwell rheolaeth," medd Rowland Wyn Evans o Adran Economi Cyngor Gwynedd.

"Mi 'naethon ni edrych ar enghreifftiau yn Slofenia, Denmarc ac hefyd America... a dysgu ganddyn nhw am y ffordd oedden nhw'n ymgysylltu efo cymunedau, a'r hyn oedden nhw'n ei wneud i sicrhau bod perchnogaeth o'r economi ymweld o fewn cymunedau, a bod cydweithio."

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n edrych ar amserlen er mwyn cyflwyno'r ddeddf, ond mae disgwyl hynny erbyn diwedd tymor y Senedd, medd llefarydd.