'Angen manteisio ar gyfle euraidd i gadw pobl yng nghefn gwlad'
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i fanteisio ar gyfleoedd i atal pobl ifanc rhag gadael cefn gwlad Cymru, medd Plaid Cymru.
Yn ôl y blaid mae mwy o gyfleoedd nag erioed o'r blaen i gadw pobl yn eu bröydd ac adfywio ardaloedd gwledig wrth i weithio hybrid a thechnoleg newydd ddod yn fwy cyfarwydd.
Ond maen nhw wedi dweud wrth raglen Newyddion S4C bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru greu strategaeth newydd er mwyn atal diboblogi.
Wrth ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod helpu pobl ifanc aros yn eu bröydd yn flaenoriaeth.
'Technoleg yn gyfle euraidd'
Dros y 10 mlynedd ddiwethaf mae sawl sir wedi gweld eu poblogaeth yn gostwng.
Yng Ngwynedd mae ystadegau'n dangos fod y boblogaeth wedi gostwng 3.7% o gymharu â 2011, gyda mwy o bobl ifanc wedi gadael y sir a mwy o bobl dros 65 wedi symud i'r ardal.
Mae'n sefyllfa debyg mewn sawl man arall; mae'r boblogaeth yng Ngheredigion wedi gostwng 5.8%, ac 1.2% yn Ynys Môn.
Ond mynnu mae Plaid Cymru fod cyfle euraidd i adfywio cefn gwlad Cymru drwy fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf.
"Mae 'na gyfle o'n blaenau ni rŵan," meddai arweinydd Cyngor Môn, Llinos Medi.
"Mae gynno ni weithio'n hybrid, cynlluniau fel Arfor a Llwyddo'n Lleol, cynlluniau i bobl ifanc i feddwl am entrepreneuriaid a chychwyn busnesau a mwy o gyfleoedd nag erioed i fod yn gweithio o'r ardaloedd hynny."
Yn ôl y Cynghorydd Medi mae angen strategaeth glir gan Lywodraeth Cymru.
"Be' sydd ei angen ydi cryfhau hyn - y cyfleoedd - a sicrhau bod ein pobl ifanc yn gweld bod 'na gyfle i fynd i'r ddinas ond mae 'na bob tro le i ddod 'nôl i weithio."
'Ystrydeb bod rhaid gadael i lwyddo'
Dod yn ôl i gefn gwlad Cymru mae Owain ap Myrddin wedi'i wneud wrth iddo adael Caerdydd a dychwelyd i Lwyndyrys yn Llŷn.
"Ddes i i benderfyniad rhyw flwyddyn yn ôl bo' fi eisiau dod nôl i fyw adra ac eisiau cadw'r un swydd," meddai Owain, sy'n gweithio i'r Urdd.
"Dwi'n hynod ddiolchgar i'r Urdd bo' fi'n medru gwneud hynny, a dwi'n meddwl bod nhw'n arwain y ffordd yn caniatáu i bobl symud a gweithio o ardaloedd gwahanol o Gymru."
Cadw pobl ifanc yn eu bröydd ydi bwriad un o brif brosiectau Menter Môn dan faner 'Llwyddo'n Lleol'.
Maen nhw'n cynnig hyfforddiant a grantiau ariannol i bobl ifanc sydd am ddechrau busnesau newydd yn lleol.
Fe wnaeth Tomos Owen weld budd y cynllun yn 2020, gan dderbyn cymorth wrth sefydlu ei fusnes Swig Smoothies.
"Mi oedd o'n broblem i ddechra'. O'n i'n meddwl, 'ydw i angen symud i sefydlu busnes?' ond drwy Llwyddo'n Lleol a Menter Môn, maen nhw wedi dangos i fi fod 'na fyd gwahanol.
"Mae bron iawn yn well defnyddio ein USP o fod yn Gymraeg, a'r gefnogaeth wedyn wedi bod yn amazing."
Yn ôl Jade Owen o Llwyddo'n Lleol, mae'r prosiect yn hanfodol yn y frwydr o geisio denu pobl yn ôl i ardaloedd gwledig Cymru.
"Dwi'n teimlo fod hi'n holl bwysig newid yr ystrydeb 'ma fod pobl ifanc yn teimlo fod yn rhaid gadael eu bro er mwyn llwyddo," dywedodd.
"Mae cyfleoedd cyffrous o ran swyddi ac o ran bywyd cymdeithasol hefyd."
Hybu buddion gweithio o bell
Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru am strategaeth genedlaethol wrth fynd i'r afael â diboblogi gwledig.
Wrth ymateb, cydnabod pwysigrwydd dyfodol pobl ifanc wnaeth Llywodraeth Cymru.
"Mae gweithio o bell un ai adref neu yn agos at adref yn helpu'n fawr at hynny," dywedodd llefarydd.
"Dyna pam rydym yn hybu buddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol gweithio o bell."
Ychwanegodd eu bod hefyd yn buddsoddi mewn swyddi mewn mannau gwledig i helpu pobl un ai i aros neu symud yn ôl i'w bröydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd27 Medi 2019