Argyfwng tai: 'Fydd neb yma o ran y to ifanc'

  • Cyhoeddwyd
Teulu LlansannanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Mari Hughes a Iolo Edwards wedi gobeithio y byddai eu plant hefyd yn cael magwraeth cefn gwlad

"Dyma lle gafon ni ein dwyn ei fyny, dyma lle o'n i isho dwyn ein plant fyny ond does na'm ffordd."

Mae teulu o Lansannan yn Sir Conwy wedi disgrifio'r penderfyniad o orfod gadael bro eu mebyd i brynu tŷ teulu fel profiad "gwbl dorcalonnus".

Wedi eu magu ym mhentref Llansannan mae Mari Hughes ac Iolo Edwards wedi bod yn chwilio ers dros dair blynedd am dŷ yn y pentref i fagu Gruff, sy'n ddwy oed, ac Elsi, sy'n saith.

Gyda phrisiau tai yn uchel a ffioedd morgeisi ar gynnydd, maen nhw'n dweud eu bod wedi cael eu prisio o'r farchnad leol.

'Doedd ganddon ni ddim gobaith'

Mae'r ddau yn gweithio - Mari yn athrawes gelf yn ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Iolo yn beiriannydd - ond maen nhw'n dweud fod eu breuddwyd o gael "tŷ teulu" ym mro eu mebyd ar chwâl.

Oherwydd na allen nhw fforddio tŷ yn y pentref maen nhw ar fin symud i fyw o dŷ rhent i gartref maen nhw wedi ei brynu yn Hen Golwyn, ychydig dros 10 milltir i ffwrdd.

Yn ôl y pâr mae'n "rhaid i'r llywodraeth wneud rhywbeth".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae'r ddau wedi bod yn rhentu tŷ yn y pentref ers 2020 ac wedi bod yn gwneud ceisiadau cyson am dai lleol, ond yn dweud ei bod yn sefyllfa amhosib.

"Nathon ni rhoi cynnig am dŷ teulu yn Llan, aethon ni dros yr asking price gan bod ni eisiau fo," medd Mari, "ond nath rhywun o bell ddod heb blant a chynnig 50,000 cash drosodd. Doedd ganddo ni ddim gobaith."

'Ddim isio symud'

Gobaith y cwpl oedd adeiladu tŷ ar dir fferm teulu Iolo, ond cafodd y cais hwnnw ei wrthod gan yr awdurdod lleol.

"Ma'n dorcalonnus," meddai Mari. "Roeddan ni eisiau magwraeth cefn gwlad i'n plant fel 'da ni wedi cael."

Yn y flwyddyn ysgol newydd, mi fydd Elsi yn gadael yr ysgol leol, Ysgol Bro Aled ac yn dechrau yn ei hysgol newydd ym Mae Colwyn, Ysgol Bod Alaw.

"Mae Elsi mor hapus yn Ysgol Bro Aled, dwi'n siŵr fydd hi'n hapus yn Bod Alaw," meddai Mari.

"Ond 'dan ni ddim eisiau symud ond does ganddon ni ddim dewis. 'Dan ni'n hollol gutted."

Disgrifiad o’r llun,

Yn Llansannan mae calonnau'r cwpl, sy'n dweud bod sawl teulu arall wedi gorfod gadael y pentref yn ddiweddar

Yn ôl Mari ac Iolo, nid nhw ydy'r unig deuluoedd ifanc sydd wedi penderfynu gadael Llansannan gan fod prisiau tai tu hwnt i'w cyrraedd.

Dywed Mari bod dau deulu arall gyda phlant wedi gadael yn ddiweddar gan effeithio ar niferoedd yr ysgol leol.

"'Dan ni'n sôn am naw o blant yn gadael - mae hynny'n ddosbarth yn yr ysgol yma.

"Mae'r ysgol mor bwysig i'r gymuned, diwylliant a'n hiaith.

"Gennai ofn fydd 'na ran o'r gymdeithas ar goll yng nghefn gwlad yn y dyfodol. Sut wyt ti'n cynnal yr iaith?

"Fydd y diwylliant yn mynd, boed yn bapur bro, eisteddfodau. Sut ti'n cynnal hyn heb bobl ifanc?"

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Mae'r teulu'n dweud bod angen newidiadau i'r system o adeiladu tai gan nad oes digon yn cael eu codi mewn ardaloedd gwledig.

Er yn deall fod rhaid cael cydbwysedd, mae Iolo'n dweud heb godi rhagor o dai y bydd mwy o bobl ifanc yn gadael cefn gwlad Cymru a methu ddychwelyd.

"Mae'n rhaid i'r llywodraeth wneud rhywbeth," meddai.

'Camau radical' ar droed

Dros y dair blynedd ddiwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sawl newid a pholisi i fynd i'r afael â'r "argyfwng tai", gan gynnwys "pecyn radical o fesurau" cynllun peilot yn Nwyfor.

Mae hynny'n cynnwys "premiymau treth cyngor uwch ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor, trothwyon gosod ar gyfer llety gwyliau a newidiadau fframwaith cynllunio".

Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n credu bod gan "bawb yr hawl i fyw mewn tai o ansawdd, fforddiadwy yn eu cymunedau".

"Rydym yn gweithredu camau radical yn defnyddio systemau cynllunio a threthi i sicrhau hyn..."

"Rydym hefyd wedi ymrwymo i gyhoeddi papur gwyn ar y potensial o sicrhau rhentu tecach."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

O ran sefyllfa Mari a Iolo y farchnad agored sydd ar fai medden nhw, gan fod y gallu i brynu tŷ teulu cymedrol erbyn hyn wedi ei rannu yn ôl faint o bres sydd gan bobl.

Ers talwm roedd tai mewn ardaloedd gwledig yng ngogledd Cymru yn rhatach nag mewn trefi, ond wrth i fwy o bobl weithio o adref, does na nunlle yn bell erbyn hyn.

I'r teulu yma, does na nunlle fel adref chwaith.

Wrth lenwi'r bocsys olaf cyn symud ddydd Iau, mae Mari a Iolo yn egluro eu bod wedi pendroni am eu penderfyniad i adael.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu newydd wagio eu tŷ rhent yn Llansannan er mwyn ymgartrefu yn Hen Golwyn

"'Dan ni wedi bod drwy lot o emosiyna', yn andros o upset," meddai Mari.

"Erbyn hyn 'da ni wedi derbyn be' sy'n digwydd ond yn teimlo dros y plant.

"'Dyn nhw ddim am gael y magwraeth nathon ni gael ac mae o allan o'n dwylo ni.

"Os does na'm byd yn newid, fydd na'm byd yma - dim teuluoedd ifanc mewn hanner canrif, dim côr, dim pub, dim Young Farmers na dim byd, achos fydd neb yma o ran y to ifanc.

"Dyma lle gafon ni ein dwyn i fyny, dyma lle o'n ni isho dwyn ein plant fyny ond does na'm ffordd."

Pynciau cysylltiedig