Maes B: 'Dim ymddiheuro' am giwio nos Fawrth
- Cyhoeddwyd

Y ciw i cael mynediad i Maes B toc cyn 14:00 ddydd Mawrth
Ni fydd yr Eisteddfod yn ymddiheuro am y ciwio sylweddol ar gyfer Maes B nos Fawrth, meddai prif weithredwr yr ŵyl Betsan Moses.
Fe wnaeth dros 2,000 o bobl gyrraedd ar noson gynta'r ardal ieuenctid, meddai - sydd ddwywaith y nifer sydd fel arfer yn cyrraedd ar y nos Fawrth.
Mae swyddogion yn chwilio bagiau wrth fynedfa'r maes ieuenctid fel rheol.
"Gwell yw cymryd amser i wneud pethau'n gywir, na phoeni a rhuthro pobl i mewn," meddai, gan ychwanegu mai "diogelwch a llesiant pobl yw'r flaenoriaeth".
"O ble y'n ni, mi oedd e'n lwyddiant."
Roedd dŵr yn cael ei gynnig i'r cannoedd yn y ciw ac mi oedd arbenigwyr llesiant yn bersennol, meddai'r prif weithredwr wrth y wasg ar faes y Brifwyl fore Mercher.
"Dyw [ciwio] ddim yn stori newydd... mae hyn yn digwydd mewn pob ŵyl."
Er bod y cae gwersylla wedi agor erbyn 13:00, bu cannoedd o bobl yn parhau i giwio am oriau i gael mynediad yno tan yn hwyr y nos.
Fe gafodd "swm sylweddol" o gyffuriau yn ogystal â chyllell eu darganfod gan swyddogion wrth y fynedfa, yn ôl Heddlu'r Gogledd, ac fe wnaeth un person gael ei arestio.


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023