Canfod 'swm sylweddol' o gyffuriau a chyllell wrth fynediad Maes B
- Cyhoeddwyd

Cafodd swm sylweddol o gyffuriau eu canfod wrth fynediad Maes B
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cadarnhau bod "swm sylweddol" o gyffuriau wedi ei feddiannu gan staff diogelwch ddydd Mawrth wrth fynediad Maes B.
Yn ogystal â chyffuriau Dosbarth A a B, dywedodd y llu bod cyllell wedi cael ei darganfod wrth archwilio person arall.
Mewn datganiad brynhawn Mercher, fe ddywedodd y Prif Uwcharolygydd Dros Dro Neil Thomas: "Cafodd arfau bygythiol eu hatafaelu hefyd a gallwn ni gadarnhau bod dyn 18 oed o ardal Bangor wedi cael ei arestio ar amheuaeth o feddu [ar gyffuriau] gyda bwriad o gyflenwi."
Rhybuddiodd y bydd yna "gamau pendant yn erbyn unrhyw un sy'n cael eu darganfod gyda chyffuriau neu arfau yn eu meddiant" yn yr Eisteddfod.
Roedd yr Arolygydd Darren Kane o Heddlu'r Gogledd eisoes wedi cadarnhau yn ystod cynhadledd newyddion ar Faes y Brifwyl fore Mercher bod staff diogelwch Maes B wedi atafaelu cyffuriau a chyllell wrth y mynediad nos Fawrth.
Roedd tîm diogelwch yr Eisteddfod yn cynnal archwiliadau llym ar bawb oedd yn dymuno mynd i mewn i Faes B.
Daw'r newyddion wrth i bryderon gynyddu am adroddiadau o ymddygiad-gwrth gymdeithasol ymysg pobl ifanc o amgylch ardal yr Eisteddfod.

Yr Arolygydd Darren Kane o Heddlu'r Gogledd yng nghynhadledd newyddion yr Eisteddfod ar y Maes fore Mercher
Rhybuddiodd yr Arolygydd Kane y bydd pawb yn cael ei archwilio cyn mynd fewn i Faes B.
Os bydd unrhyw wrthrych anghyfreithlon yn cael ei ddarganfod, yna bydd yr heddlu'n cymryd "positive action" yn erbyn yr unigolion hynny sydd â chyffuriau arnyn nhw.
Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn "parhau i gydweithio'n agos gyda'r Eisteddfod a staff diogelwch i sicrhau diogelwch pawb yn yr ŵyl".


Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023