Cyrffyw maes carafanau wedi 'ymddygiad gwrth-gymdeithasol'
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi gosod cyrffyw ar faes carfanau'r ŵyl o nos Fercher ymlaen, yn dilyn achosion o "ymddygiad gwrth-gymdeithasol" ymhlith pobl ifanc.
Dywedodd swyddogion y Brifwyl mewn datganiad y bydd cyrffyw'n cael ei osod o 23:00 bob nos, a hynny ar gyfer unrhyw un dan 16 oed.
Ychwanegodd yr Eisteddfod bod angen gwneud hynny er mwyn sicrhau "diogelwch pawb".
Fe fydd swyddogion diogelwch ar y maes carafanau i weithredu'r rheol, a dywedodd y prif weithredwr Betsan Moses fod angen i rieni fod yn "gyfrifol" am eu plant.
'Nifer o gwynion'
Dywedodd yr Eisteddfod mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mercher nad oedd y cyrffyw yn orfodaeth heddlu, ond eu bod yn parhau i fod mewn trafodaethau gyda swyddogion.
Daw hynny wedi i Heddlu'r Gogledd hefyd gadarnhau bod "swm sylweddol" o gyffuriau wedi eu cymryd ym Maes B ddydd Mawrth, yn ogystal â chyllell, gydag un person hefyd wedi eu harestio.
Mewn datganiad am gyrffyw y maes carafanau, dywedodd yr Eisteddfod eu bod wedi derbyn "nifer o gwynion" dros y dyddiau diwethaf.
"[Roedd] grwpiau o bobl ifanc wedi bod yn crwydro ac yn ymhel mewn gwahanol rannau o'r maes, gan beri pryder i breswylwyr a difrod i eiddo carafanwyr eraill a'r gwasanaethau rydyn i wedi eu darparu ar eich cyfer chi," meddai'r Eisteddfod.
Betsan Moses a Gwenllian Carr o'r Eisteddfod fu'n annerch y wasg fore Mercher
Dywedodd y Brifwyl eu bod felly wedi gorfod cymryd "camau pellach" a chyflwyno'r cyrffyw.
"Os na fydd y sefyllfa'n gwella heno, byddwn yn gweithredu ein hawl i derfynu tenantiaeth y rheiny sydd â chyfrifoldeb dros y bobl ifanc sydd yn achosi trafferthion yn ddirybudd ac ar unwaith, neu gymryd camau gweithredol yn ôl yr angen."
Ychwanegodd yr Eisteddfod eu bod yn "siomedig iawn" i orfod gwneud y penderfyniad, "os does ganddon ni ddim dewis".
Dywedodd Betsan Moses mai dyma oedd y tro cyntaf i gyrffyw o'r fath gael ei gyflwyno "tra mod i yn y swydd", ond bod angen ei gyflwyno er mwyn sicrhau eu bod yn "diogelu pawb".


Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023