Betsan Moses: 'Ydy Steddfod wyth diwrnod yn rhy hir?'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Betsan Moses: 'Yr Eisteddfod fwyaf poblogaidd mewn blynyddoedd niferus'

Mae prif weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol wedi awgrymu y gallai'r ŵyl fod yn un fyrrach yn y dyfodol, mewn sgwrs ar y maes ym Moduan.

Fe ddywedodd Betsan Moses fod lle i ofyn a yw wyth diwrnod "yn rhy hir", gan ddweud bod costau'n rhywbeth y bydd yn rhaid iddyn nhw ystyried.

Roedd yn siarad fel rhan o sgwrs banel ym Maes D yn trafod strategaeth yr Eisteddfod yn y dyfodol.

Mae'r Brifwyl bellach wedi agor 'Y Sgwrs', fydd yn cynnig cyfle i bobl a sefydliadau leisio'u barn ar sut mae pethau "nawr, ond hefyd edrych i'r dyfodol".

Yn siarad ar Newyddion S4C ychwanegodd Ms Moses mae dyma'r Eisteddfod fwyaf poblogaidd mewn "blynyddoedd niferus".

Sefyllfa ariannol 'heriol'

Dywedodd Ms Moses fodd bynnag y bydd yn rhaid i'r Eisteddfod gael sgwrs ddwys am eu sefyllfa ariannol yn nes ymlaen yn y flwyddyn, yn sgil cynnydd yng nghostau cynnal gwyliau.

"Ydy wyth diwrnod yn rhy hir?" meddai. "Mae hwnna'n rhywbeth fydd y bwrdd yn gorfod edrych arno."

Un o'r ffactorau, meddai, yw bod rhaid llogi offer ar gyfer cynnal yr Eisteddfod am wythnos ar y tro - felly i'r Brifwyl, mae hynny'n aml yn golygu pythefnos.

"Mae 'na reswm pam bod lot o wyliau yn bump diwrnod," meddai - gan ychwanegu fodd bynnag na fyddai newid ar gyfer Eisteddfod Pontypridd yn 2024.

Wrth siarad ar Newyddion S4C ychwanegodd Ms Moses y gallai fod modd cydweithio gyda gwyliau eraill.

"Mae 'na gydweithio wedi bod yn digwydd yn ad hoc ond galle fe fod yn fwy strategol felly gweithio gyda'r Sioe Frenhinol, gyda'r Urdd, gyda Llangollen o ran tendrau ac yn y blaen," meddai.

"Mae 'na fodd i ni edrych ar beth yw'r deunyddiau sydd gyda ni... mae 'na fodd i ni gydweithio... i sicrhau ein bod ni'n gallu gwario ar y digwydd a'r cynnyrch yn hytrach na'r is adeiladaeth."

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd sgwrs banel am strategaeth yr Eisteddfod ddydd Gwener yng nghwmni Michael Strain, Helen Prosser, Jeremy Miles, Mel Owen a Betsan Moses

Wrth gael ei holi am y gefnogaeth ariannol i'r Eisteddfod dywedodd un arall o'r panelwyr, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles, fod y cyd-destun ariannol yn "heriol".

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r swm craidd roedden nhw'n ei roi eleni, meddai, yn ogystal â chyfrannu grantiau pellach, ac maen nhw mewn "trafodaethau parhaus gyda'r Eisteddfod" am sut fydd hynny'n digwydd yn y dyfodol.

Ychwanegodd ei fod yn "llongyfarch Betsan a'r tîm ar Eisteddfod arbennig iawn eleni".

Mwy croesawgar i ddysgwyr

Wrth edrych ymlaen at yr Eisteddfod yn Rhondda Cynon Taf y flwyddyn nesaf, dywedodd cadeirydd y pwyllgor gwaith hwnnw Helen Prosser y bydd angen sicrhau bod cyfathrebu cryf fod "croeso i bawb" yno.

"Wrth gwrs bod ni am i bobl roi cynnig ar eu Cymraeg, ond mae'n bwysig hefyd bod yn oddefgar [i'r rheiny sydd ddim yn medru]," meddai.

"Ond dy'n ni ddim am gyfaddawdu ar y rheol Gymraeg. Bydd e'n her cyfathrebu'r neges yna."

Ychwanegodd fodd bynnag bod 'na gyfnod pan oedd hi'n "poeni am anfon rhai o'n dysgwyr ni i'r Eisteddfod", ond nad oedd hynny'n wir bellach.

Mae 'na "lefydd priodol" iddyn nhw bellach ymarfer eu hiaith, meddai, heb orfod teimlo fel eu bod nhw'n cael eu cau allan o sgyrsiau.

"Rhowch gynnig ar eich Cymraeg chi," meddai, mewn neges i'r rheiny fydd yn dod.