Alan Llwyd yn ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol
- Cyhoeddwyd
Alan Llwyd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023.
Roedd gofyn i ymgeiswyr gyfansoddi awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd gyflawn ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol - hyd at 250 o linellau ar y testun 'Llif'.
Chwech o geisiadau ddaeth i law eleni, ond roedd yn "glir o'r dechrau mai Llanw a Thrai yw cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth", meddai'r beirniaid.
Alan Llwyd, sy'n byw yn Nhreforys ar gyrion Cwm Tawe, yw'r bardd cyntaf ers llacio'r rheol 'ennill dwywaith yn unig' i ennill y Gadair am y trydydd tro.
Mae wedi ennill y 'dwbl', sef y Gadair a'r Goron yr un flwyddyn ddwywaith - yn 1973 ac 1976.
Ganwyd yn Nolgellau, ac wedi cyfnod yn Llan Ffestiniog, fe'i magwyd ar fferm yn Llŷn, ble treuliodd weddill ei blentyndod.
Bu'n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog hyd at 1967, cyn astudio Cymraeg ym Mangor.
Wedi hynny bu'n gweithio yn siop lyfrau Awen Meirion yn Y Bala am ddwy flynedd, cyn symud i Abertawe yn 1976, i weithio fel golygydd i Wasg Christopher Davies.
Rhwng 1980 a 1982 bu'n gweithio i'r Cyd-bwyllgor Addysg yng Nghaerdydd, ac o 1982 ymlaen, bu'n gweithio'n llawn-amser i'r Gymdeithas Gerdd Dafod, sef Cymdeithas Barddas, y gymdeithas a sefydlwyd ganddo ef ei hun yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi yn 1976.
Cyhoeddodd dros 300 o lyfrau yn ystod ei gyfnodau fel cyhoeddwr a golygydd i wahanol sefydliadau. Alan Llwyd, ar y cyd â'r diweddar Penri Jones, a sefydlodd Llanw Llŷn, papur bro Pen Llŷn.
Fel bardd a llenor, mae wedi cyhoeddi dros 80 o lyfrau, gan gynnwys tri chasgliad cyflawn o gerddi.
Mae wedi ennill dros 50 o wobrau llenyddol, yn cynnwys categoriau Ffeithiol-Greadigol a Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn.
Yn 2018, enillodd Dlws Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru am gyfraniad arbennig i'r byd cyhoeddi, ac yn 1993, enillodd wobr BAFTA Cymru am y Sgript Ffilm Orau yn Gymraeg, sef sgript y ffilm Hedd Wyn.
Cyhoeddwyd ei gasgliad diweddaraf o gerddi, Cyfnos, ym mis Chwefror eleni.
Dyfarnwyd iddo radd Doethur mewn Llên yn 2012, ac fe'i penodwyd yn Athro yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Abertawe, yn 2013, am ei wasanaeth i lenyddiaeth Cymru.
Mae'n briod â Janice ers 1976, mae ganddo ddau fab, Ioan a Dafydd, ac erbyn hyn mae'n daid i Ffion a Tristan.
Mae'r pump, heb eu henwi, yn rhan o'r awdl fuddugol eleni.
Y feirniadaeth
Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Karen Owen, Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth - enillydd y Goron ddydd Llun.
Wrth draddodi o'r llwyfan, dywedodd Karen Owen: "Roedd y gwaith o feirniadu cystadleuaeth y Gadair eleni yn gymharol hawdd, oherwydd dim ond chwe ymgeisydd oedd yn ymgiprys am Gadair Boduan.
"A dweud y gwir, roedd yn syndod i ni'r beirniaid fod cyn lleied wedi ymgeisio, yn enwedig wedi i'r pandemig oedi'r cystadlu am bron i dair blynedd.
"Ta waeth, fe anfonodd chwe chynganeddwr eu gwaith i mewn, ac er bod safon dechnegol y cynganeddu'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol, mae lle eto i'r beirdd feddwl am elfennau eraill - fel strwythur, llais, a neges - er mwyn creu cyfanwaith cywrain ac amlhaenog.
"Fe gawsom ni awdl am y mewnlifiad sy'n bygwth ein cymunedau; awdl yn dilyn taith adroddwr sy'n gaeth i alcohol drwy ddinas Caerdydd; awdl yn dadlennu dirgelwch sy'n ymwneud â gwaed drwg; a dilyniant o gerddi am lif ddi-ddarfod y cyfryngau cymdeithasol.
"Yr oedd hi'n glir o'r dechrau mai Llanw a Thrai yw cynganeddwr gorau'r gystadleuaeth. Yn bersonol, fe dyfodd y gwaith hwn arnaf efo pob darlleniad.
"Er mai stori gyfarwydd iawn i Gymry Cymraeg ein cyfnod ni sydd yma, sef gadael bro cyn dychwelyd ddegawdau'n ddiweddarach yn llawn hiraeth euog.
"Y bardd hwn, yn fwy na neb arall, a gafodd y weledigaeth gliriaf ar gyfer ei destun.
"Dyma'r bardd hefyd a lwyddodd orau i droi'r weledigaeth honno yn farddoniaeth ddealladwy, ddarllenadwy sy'n rhoi mwynhad.
"Mae strwythur ei awdl yn syml: gŵr cymharol hen yn dychwelyd i fro'i febyd. Mae llanw'r môr a'r holl ddelweddau cysylltiedig yn rhoi'r cyfle iddo wedyn fyfyrio am ei linach a'i deulu, am olyniaeth, am yr hyn a fu a'r hyn a fydd.
"Ceir yma epigramau paradocsaidd rif y gwlith sy'n cyfleu hyn yn gofiadwy. Ac fe lynwyd yn dynn wrth y ddelwedd o 'lif' i fynegi'r cyfan oll.
"Mae cynganeddion Llanw a Thrai wedyn, er mor syml o glasurol ar un wedd, fel cyfanwaith yn orchestol.
"Hen law go iawn sydd wrthi fan hyn, ac mae rhai caniadau cwbl ysgubol yma.
"Rydan ni'n tri mewn cytundeb llwyr, yn dawel ein meddyliau, mai Llanw a Thrai ydi'r bardd sydd ar y brig, a'i fod yn gwbl deilwng o'r Gadair a phob braint ac anrhydedd a berthyn iddi."
Mae'n derbyn y Gadair, er cof am Dafydd Orwig, a £750.
Mae'r Gadair eleni wedi ei chreu gan Stephen Faherty sy'n byw ger Rhuthun ond yn hanu o ardal Porthmadog.
Roedd y Lôn Goed - y llwybr hanesyddol pwysig ger Chwilog sy'n ffinio Llŷn ac Eifionydd, ac a gafodd ei hanfarwoli yn y gerdd Eifionydd gan R. Williams Parry - yn ysbrydoliaeth i'r Gadair a'r Goron eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd9 Awst 2023
- Cyhoeddwyd10 Awst 2023