Sut mae lleihau cost priodi er gwaethaf chwyddiant?

  • Cyhoeddwyd
Martin a LauraFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Laura Prosser a'i dyweddi Martin yn benderfynol o wario llai na £5,000 ar eu priodas

Coginio picau ar y maen yn lle cacen traddodiadol a phrynu ffrog ar-lein am £150 - dyna sut mae Laura Prosser yn cadw at gyllideb lem ei phriodas.

Roedd cadw costau i lawr wastad yn un o'i phrif amcanion, wrth i gostau bwyd a nwyddau barhau i fod yn uchel.

Ddydd Mercher cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) fod chwyddiant yn y DU wedi cwympo i 6.8% ym mis Gorffennaf, o gymharu â 7.9% ym mis Mehefin.

Dywedodd Matthew Corder o'r ONS fod chwyddiant wedi arafu o ganlyniad i ostyngiad mewn prisiau nwy a thrydan.

Disgrifiad,

Mewn 90 eiliad: Beth ydy 'cyfraddau llog', 'Banc Lloegr' a 'chwyddiant'?

"Er ei fod yn parhau'n uchel, mae chwyddiant prisiau bwyd hefyd wedi lleddfu, yn enwedig ar gyfer llaeth, bara a grawnfwyd," meddai.

Ddydd Gwener bydd Laura, o Benarth, yn priodi â'i phartner, Martin, yng Nghaerdydd ar ôl bod mewn perthynas am 13 o flynyddoedd.

"£5,000 oedd y mwyaf roedden ni eisiau gwario, ac i fod yn deg dwi ddim yn credu byddwn ni'n agos at hwnna," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Laura a Martin yn awyddus i gadw pethau'n syml ar eu diwrnod mawr

"Mae lot o bethau traddodiadol 'dan ni jyst ddim yn 'neud o gwbl. Dwi yn cael blodau ond doedden i ddim eisiau lot o flodau.

"Dwi'n gw'bod bod merched yn talu miloedd o bunnoedd am un ffrog, ond es i ar-lein yn syth ac am £150 nes i gael ffrog dwi'n lico.

"I fod yn deg, 'dan ni wastad wedi eisiau cadw pethau'n syml... roedden ni yn bwriadu mynd i ffwrdd a chymryd pawb i ffwrdd, ond wedyn roedd hwnna'n edrych yn fwy ac yn fwy drud. Felly rydyn ni am gael un parti syml gartref a mynd i ffwrdd fel teulu ar ôl."

Pecynnau 'pris llai'

Ffynhonnell y llun, Oldwalls

Ers cychwyn yr argyfwng costau byw mae'r diwydiant priodasau wedi gweld newid yn y ffordd y mae pobl yn cynllunio'u diwrnod mawr.

Mae cwmni Oldwalls ar Benrhyn Gŵyr yn cynnal priodasau gydol y flwyddyn.

Er bod rhai cyplau'n parhau i dalu faint bynnag maen nhw eisiau wrth drefnu eu priodas, mae nifer cynyddol wedi bod yn edrych am gyfle i wneud arbedion ble bynnag y gallen nhw, yn ôl rheolwr lleoliad y cwmni, Debbie Durham.

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ffyrdd o leihau cost priodi, medd Debbie Durham o gwmni Oldwalls

"Mae pobl yn dweud, 'ni eisiau priodi fan hyn ond mae'n ddrud, mae rhaid aros cwpl o flynyddoedd i arbed yr arian'," eglurodd. "Felly, rydyn ni wedi rhoi pecynnau at ei gilydd fel bod nhw'n gallu priodi flwyddyn nesaf.

"Ond yn lle priodi yn yr haf ar ddydd Sadwrn, maen nhw'n gallu priodi yn y gaeaf, naill ai ar ddydd Mawrth neu ddydd Mercher. Wedyn rydyn ni'n rhoi pris llai iddyn nhw fel rhan o'r pecyn. Rydyn ni'n rili prysur ar y funud."

Mae'r cynnig i gynnal priodas am lai o arian na'r arfer wedi profi'n boblogaidd meddai'r cwmni, sydd wedi gweld cynnydd o 25% yn nifer yr ymholiadau.

'Cynllunio, cynllunio, cynllunio'

Ar ôl holi 4,000 o gyplau mewn arolwg ar gyfer yr ap trefnu priodasau, Bridebook, dydd Sadwrn 19 Awst yw'r diwrnod mwyaf poblogaidd i briodi eleni.

Cadw costau i lawr oedd y prif reswm dros gynnal priodas yng nghanol yr wythnos.

Ffynhonnell y llun, Nesta Lloyd
Disgrifiad o’r llun,

Edrych ar y gyllideb o'r dechrau yw cyngor y cynllunydd priodasau Alaw Griffiths

Dywedodd cynlluniwr priodasau'r cwmni Calon Events, Alaw Griffiths: "Yn hytrach na dilyn trends priodasau - fel 'mae rhaid i fi gael car smart, mae rhaid i fi gael tri chwrs o fwyd, mae rhaid i fi gael hwn a'r llall' - mae [pobl] yn meddwl beth sy'n iawn i fi? A falle wedyn mae hwnna yn torri ar y costau yn naturiol."

Ychwanegodd: "Mae rhaid edrych ar y gyllideb reit o'r dechrau, nid hanner ffordd drwy'r trefnu. Os yw rhywun yn edrych ar ôl y ceiniogau ar y dechrau, mi fydden nhw mewn sefyllfa lot gwell fisoedd i lawr y lein.

"Beth byswn i'n gwneud yw cynllunio, cynllunio, cynllunio a dim cyffroi gormod yn syth ar ôl dyweddïo."

Disgrifiad o’r llun,

Mae costau wedi codi i fusnesau ceir priodas hefyd, medd Euryd Jones o gwmni Ceir y Cardi

Nid yn unig y rhai sy'n priodi sydd wedi'u heffeithio gan y cynnydd yng nghostau byw. Mae busnesau o fewn y sector hefyd yn cyfaddef eu bod yn teimlo'r esgid yn gwasgu.

Dywedodd perchennog cwmni Ceir y Cardi, Euryd Jones: "Yn hanesyddol, mae priodasau wedi bod yn rhywbeth drud i bawb, ond yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae pethau wedi gwaethygu fel pob sector arall.

"Beth sydd wedi effeithio arnon ni fwyaf yw'r tanwydd, sydd wedi mynd lan, ac yswiriant - mae hwnna wedi mynd lan hefyd."

Ychwanegodd: "Beth ni wedi ffeindio yn fwy eleni yw bod lot o ddiddordeb yn dod yn hwyrach yn y dydd, lle mae cwpl yn meddwl 'mae bach o arian gyda ni ar ôl a byddai'n eithaf neis cael car i'r briodas'."

Pynciau cysylltiedig