Argyfwng costau byw yn waeth yng Ngwynedd - adroddiad

  • Cyhoeddwyd
BethesdaFfynhonnell y llun, Andrew Aitchison

Cyflogau isel a gwaith annibynadwy yw'r ffactorau mwyaf sy'n gyrru tlodi yn ardal Arfon yng Ngwynedd, yn ôl adroddiad newydd. 

Mae ymchwil Sefydliad Bevan a gyhoeddwyd ddydd Llun yn dangos bod effaith cynnydd mewn costau byw yn waeth yng Ngwynedd na mewn sawl ardal arall drwy Gymru, gyda gweithwyr yn ennill £3,000 yn llai na'r cyfartaledd ar draws y DU bob blwyddyn. 

Mae'r adroddiad newydd yn dangos darlun heriol i filoedd sy'n byw yn yr ardal sy'n cynnwys Bangor a Chaernarfon, gyda'r Aelod Seneddol lleol yn galw am weithredu i ddileu tlodi.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn darparu dros £3,000 yn rhagor i gartrefi ledled y wlad. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd wedi rhoi £3.3bn o gymorth rhwng 2022-2024.

O'r 31,000 o weithwyr yn Arfon mae dros 60% yn gweithio mewn pedwar prif sector; iechyd a lles, addysg, cyfanwerthu a gweinyddol ac amddiffyn.

Mae'n golygu fod yr ardal ddwywaith yn fwy dibynnol ar y sector gyhoeddus na'r cyfartaledd dros Brydain, gyda Chyngor Gwynedd, Prifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd yn parhau fel y prif gyflogwyr.

'Dwi'm yn synnu o gwbl'

Mae'r adroddiad gan Sefydliad Bevan yn gwneud cyfres o ddarganfyddiadau am achosion tlodi, a sawl argymhelliad i lywodraethau ar bob lefel am sut i leddfu'r pwysau i drigolion yr ardal. 

Gyda phrisiau tai yn uwch na'r cyfartaledd, mae bwyd, tanwydd, costau gofal plant a thrafnidiaeth hefyd yn uwch na'r lefel Brydeinig, gan olygu fod sgil effeithiau costau byw yn fwy dwys yn Arfon na sawl man arall.

Dydy'r canfyddiadau ddim yn syndod i Anne Evans, rheolwr prosiect Porthi Dre, menter gymunedol sy'n darparu bwyd a chymorth am ddim yng Nghaernarfon.

"Dwi'm yn synnu o gwbl... na", meddai wrth Newyddion S4C.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sefyllfa'n anodd i lawer o bobl sy'n dod am brydau gan fenter Porthi Dre, meddai Anne Evans

"Ma'i yn anodd, 'sa chi mond yn sbïo ar faint o bobl sydd wedi cerdded mewn heddiw am bryd o fwyd poeth am ddim.

"Da ni'n ei gynnal o ddwywaith yr wythnos i helpu tuag at yr argyfwng costau byw."

Bwyd traddodiadol sy'n cael ei weini gan griw Porthi Dre, cig, llysiau a thatws er mwyn cynnig maeth i'r rheiny sy'n dod.

'Ddim yn anochel'

Mae tlodi yn Arfon yn gymhleth ac yn rhan greiddiol o sawl cymuned, ond mynnu mae Dr Steffan Evans - awdur yr adroddiad - "nad yw tlodi yn anochel".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r "premiwm" ar gostau byw yn yr ardal yn "amlwg iawn", meddai Dr Steffan Evans

"Er bod tal swyddi sydd wedi eu gosod yn Arfon yn gystadleuol, mae cyflogau pobl sy'n byw yn Arfon yn isel iawn."

"Mae'r gwrthgyferbyniad yna... 'dio ddim yn rhywbeth 'da ni ddim yn gweld yn aml iawn.

"A hefyd costau byw - premiwm costau byw yn Arfon mae hwnna yn dod drwodd yn amlwg iawn."

'Rhaid cefnogi busnesau'

Mae swyddi yn y sector gweithgynhyrchu'n cyfri' am 4% o swyddi'r fro, o'i gymharu ag 8% ledled Cymru.

Mae cyfarwyddwr un ffatri gaws yng Ngwynedd yn dweud fod yna le am fwy o gymorth i hybu'r sector breifat.

Mae Hufenfa De Arfon yn cynnig cyfoeth o swyddi amrywiol, ac yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr Alan Wyn Jones mae'r cwmni newydd sicrhau cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau.

Disgrifiad o’r llun,

Rhaid cefnogi cwmnïau preifat, er mwyn helpu cymunedau, meddai Alan Wyn Jones

"Ar ddiwedd y dydd, mae'r sector breifat yn adio gwerth i ardal", meddai Mr Jones. 

"Mae 'na lot o gwmnïau preifat llwyddiannus iawn yn yr ardal yma ac mae'n bwysig iawn eu bod nhw'n cael y gefnogaeth i symud ymlaen yn y dyfodol."

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod angen i lywodraethau ar sawl lefel wneud mwy i gefnogi mentrau cymunedol. 

"Mae cryfderau sylweddol yn Arfon", meddai'r adroddiad. 

"Mae'r mentrau cymunedol yma yn creu swyddi yn lleol mewn ffordd sy'n sicrhau fod y cyfoeth yn aros o fewn yr ardal."

Ffynhonnell y llun, DEA / S. VANNINI
Disgrifiad o’r llun,

Mae Arfon yn cynnwys ardaloedd trefol mawr fel Caernarfon a Bangor, yn ogystal ag ardaloedd gwledig

Un enghraifft o'r llwyddiannau hynny ydy Galeri yng Nghaernarfon.

Ers 1992 mae'r fenter wedi prynu 20 o adeiladau gyda 50 o denantiaid bellach yn gweithio o'r safleoedd. 

Mae Galeri hefyd wedi datblygu canolfan gelfyddydol sy'n darparu cymorth i gymunedau difreintiedig yr ardal ac yn cyfrannu rhyw £2.5m i economi Gwynedd a Môn.

"Da ni wedi bod yn ail-adrodd y bregeth yma ers blynyddoedd, 'da ni yn Galeri ers deng mlynedd ar hugain", meddai Gwyn Jones, Cyfarwyddwr Datblygu Galeri.

"Mae 'na sawl menter gymunedol yng Ngwynedd, rhyw 30-40...

"Dio ddim yn syniad newydd ond mae'n syniad bosib sy'n cael ei dderbyn mwy wrth i bobl deimlo anobaith... sut 'da ni'n cael y grym yma yn nôl i'n cymunedau?"

Dau o'r prif ffactorau sy'n dwysáu sgil effaith y cynnydd mewn costau byw yn Arfon yw tai a thrafnidiaeth.

Sut mae gwella'r farchnad dai yn Arfon?

Yn ôl Sefydliad Bevan fe allai'r polisïau canlynol leddfu heriau'r farchnad dai yn Arfon:

  • Ehangu cynllun y sir o brynu tai yn ôl er mwyn gwella'r stoc o dai fforddiadwy;

  • Ehangu cynllun ail dai Dwyfor i gwmpasu ardal Arfon hefyd;

  • Adeiladu rhagor o dai cymdeithasol ar draws Arfon.

Sut mae gwella'r system drafnidiaeth?

Yn ôl Sefydliad Bevan mae angen i Gyngor Gwynedd:

  • Gefnogi mentrau cymunedol wrth drefnu trafnidiaeth amgen i gymunedau;

  • Ystyried a oes modd i gefnogi mentrau cymunedol i ddarparu mwy o drafnidiaeth ar alw;

  • Ystyried rhagor o lwybrau teithio llesol fel beiciau trydanol.

Disgrifiad o’r llun,

Dylid codi budd-daliadau, meddai Hywel Williams AS

Yr Aelod Seneddol lleol, Hywel Williams gomisiynodd yr adroddiad gan Sefydliad Bevan a bellach yn galw am weithredu i ddileu tlodi.

"Mae 'na atebion fan hyn i bob etholaeth", meddai.

"Mae'n amlwg bod angen gweithredu o ran Llywodraeth Cymru a Phrydain i mi fel AS angen mynd ati i godi budd-daliadau yn amlwg."

2,500 o blant mewn tlodi

Mae tlodi yn Arfon, fel mewn sawl man, yn gymhleth ac yn dod i wyneb cymdeithas mewn ffyrdd gwahanol. 

Ond gyda 2,500 o blant y sir yn byw mewn tlodi, mae'r galw am weithredu yn glir.

Mae'r adroddiad yn nodi fod y pwerau i atal tlodi yn gorwedd yn bennaf gyda llywodraethau'r DU a Chymru - gan alw am gynyddu taliadau Credyd Cynhwysol, diwygio Lwfans Tai Lleol a diddymu'r ddeddf sy'n rhwystro rhieni i fwy na dau o blant rhag derbyn rhagor o fudd-daliadau. 

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn darparu cefnogaeth ariannol gyfwerth â £3,000 i bob cartref - sy'n record. 

"Rydym wedi cynyddu budd-daliadau o 10.1%, mae cynnydd digynsail drwy gyflwyno'r Cyflog Byw Go Iawn a hefyd darparu £50m yn rhagor i bobl Cymru am gostau sylfaenol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd wedi rhoi £3.3bn o gymorth rhwng 2022-2024, mewn cyfnod pan fo'i chyllideb ei hun yn crebachu oherwydd chwyddiant.

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod "sawl rhaglen ar waith sy'n ymateb i leihau effeithiau ac atal tlodi ar ein trigolion", ond mai Llywodraethau San Steffan a Chymru sydd a'r grym gwirioneddol i newid pethau".

Pynciau cysylltiedig