Mynediad Sioe Amaethyddol Môn heb godi er costau cynyddol

  • Cyhoeddwyd
Sioe Mon
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i o leiaf 50,000 o bobl ddod i'r sioe, gyda mwy o gystadleuwyr a stondinau na llynedd

Er bod cost cynnal Sioe Amaethyddol Môn wedi codi eto eleni mae'r trefnwyr wedi penderfynu peidio â chodi'r tâl mynediad na'r tâl aelodaeth er mwyn ceisio denu cynifer o bobl ag sy'n bosib i'r digwyddiad.

Bydd y sioe - neu'r Primin fel mae'n cael ei alw'n lleol - yn cael ei chynnal ddydd Mawrth a dydd Mercher ac mae disgwyl o leiaf 50,000 o ymwelwyr dros y deuddydd.

Yn ôl Cain Angharad Owen, swyddog datblygu'r sioe, mae Cymdeithas Amaethyddol Môn yn ymwybodol fod yr esgid ariannol yn gwasgu ar bawb eleni.

"Dwi'n meddwl ein bod ni wedi gwneud bob dim o fewn ein gallu i helpu mewn unrhyw ffordd", meddai wrth raglen Post Prynhawn BBC Radio Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cain Angharad Owen bod trefnwyr wedi ceisio cadw costau i ymwelwyr yn isel gan ei fod yn "bwysig rhoi cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl"

"'Da ni wedi cadw pris aelodaeth yr un fath a'r llynedd a'r prisiau wrth y giât yr un peth a'r llynedd.

"Sioe Môn ydan ni - ac mae'n bwysig rhoi cyfle i bawb ymuno yn yr hwyl. Drwy gadw'r prisiau yr un fath dwi'n gobeithio gawn ni fwy o gefnogaeth."

'Barod i wrando a datblygu'

Mae nifer y cystadleuwyr a stondinau wedi cynyddu o'i gymharu â 2022.

A bydd llecyn newydd a gafodd ei drefnu y llynedd - lle mae modd mwynhau adloniant o bob math a chymdeithasu - o'r enw Y Cowt, yn parhau.

Un o drefnwyr Y Cowt ydy Gareth Thomas, llysgennad y sioe eleni.

Dywedodd: "Mi fydd 'na sesiwn i blant yn y bore a cherddoriaeth fyw ar ôl hynny - cyfle i bobl gymdeithasu a gweld hen ffrindiau a mwynhau'r cerddorion fydd wedi dod o bob rhan o ogledd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gareth Thomas fydd Y Cowt yn rhoi cyfle i bobl leol fynd ar y llwyfan gan ddweud bod "hynny'n bwysig"

"A hefyd mi fydd pobl leol yn cael cyfle fynd ar y llwyfan - ac mae hynny'n bwysig," meddai Gareth.

Fel llysgennad y sioe mi fydd Gareth yn cael cyfle i hyrwyddo gwaith Cymdeithas Amaethyddol Môn a diolch i bawb am gefnogi'r digwyddiad.

"Dwi'n edrych ymlaen i gael cyfarfod cynifer o bobl ag sy'n bosib a gweld sut maen nhw'n mwynhau'r sioe," meddai.

"Dwi isio gwybod be mae pobl am inni wella hefyd - oherwydd da ni bob amser yn barod i wrando a datblygu."

Yn ôl Cain Angharad Owen roedd gwaith diflino llu o wirfoddolwyr wedi sicrhau llwyddiant sioe 2022, a'r nod rŵan ydy adeiladu ar hynny wedi cyfnod anodd y pandemig.

"Cymryd camau bach ydan ni ac un flwyddyn ar y tro - ac mae hynny'n wir i'r sioeau i gyd ar hyd a lled Cymru," meddai

"Mae 'na heriau sylweddol yn ein hwynebu ni. Mewn ffordd mae'n rhaid inni gynnal sioe er lles y gymdeithas ac mae'n ddigwyddiad eithriadol o bwysig yng nghalendr Ynys Môn."

Pynciau cysylltiedig