Arestio pum protestiwr wrth westy ceiswyr lloches

  • Cyhoeddwyd
Gwesty Parc y Strade

Mae pum protestiwr wedi cael eu harestio ar safle gwesty yn Sir Gâr ble mae'n fwriad i gartrefu ceiswyr lloches.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi apelio am 'lonyddwch a chydweithrediad" wedi "dwysâd" o ran gwrthdystiadau ger Gwesty Parc y Strade, yn Llanelli.

Dywed y llu bod yna bryder ynghylch unigolion "sydd wedi cael eu gweld mewn balaclafas yn yr ardal" ac mae swyddogion wedi cael hawl i fynnu bod pobl yn eu tynnu i ffwrdd.

Fe gafodd dyn ei arestio ddydd Llun ar amheuaeth o ddifrodi car un o gontractwyr y gwesty.

Fe lwyddodd y cwmni sy'n berchen ar y gwesty, Gryphon Leisure Ltd, i gael gorchymyn dros dro yn yr Uchel Lys fis diwethaf yn atal brotestwyr rhag rhwystro mynediad i'r safle.

Fe ddechreuodd protestiadau pan gyhoeddwyd ym mis Mehefin bod yna gynlluniau i gartrefu hyd at 241 o geiswyr lloches yno, gan amharu ar baratoadau i symud unigolion yno erbyn 10 Gorffennaf.

'Hwyluso protestio heddychlon'

Dywedodd yr heddlu nos Fercher bod gorchymyn mewn lle erbyn hyn sy'n golygu bod heddweision yn cael gofyn wrth bobl i dynnu unrhyw beth os oes amheuaeth eu bod yn eu defnyddio i guddio pwy ydyn nhw.

"Byddwn ni wastad yn anelu at hwyluso protestio heddychlon, tra'n cadw cydbwysedd gyda hawliau pobl eraill, cadw'r cyhoedd yn ddiogel ac atal trosedd ac anhrefn," meddai llefarydd.

Mae protestwyr wedi dweud yn y gorffennol mai bod eu prif bryderon yn deillio o ddiffyg gwybodaeth ynghylch y defnydd o'r gwesty i drigolion lleol.

Mae Pwyllgor Gweithredu Ffwrnes wedi gofyn wrth bobl i gefnogi ymgyrch ariannu torfol ar-lein mewn ymateb i'r bygythiad o gamau cyfreithiol, gan obeithio codi o leiaf £10,000.