Pryder am ddiogelwch plant ar-lein dros wyliau'r haf

  • Cyhoeddwyd
Plant yn defnyddio tabletFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Barnardo's Cymru wedi rhybuddio bod plant mewn perygl o gael eu cam-drin ar lein dros yr haf

Mae elusen Barnardo's Cymru wedi rhybuddio bod mwy o blant mewn perygl o gael eu targedu a'u cam-drin ar-lein yn ystod gwyliau'r haf.

Mewn arolwg ar-lein ymhlith dros 700 o blant - arolwg a gafodd ei gynnal gan Barnardo's - dywedodd un plentyn ym mhob 10 eu bod wedi cyfathrebu ar-lein gyda rhywun doedden nhw ddim yn ei adnabod.

Rhagwelir y bydd bron i 8% o'r plant hyn yn gwneud trefniadau i gyfarfod â'r bobl yma dros yr haf.

Mae Llywodraeth y DU wrthi'n cyflwyno mesur i sicrhau diogelwch ar-lein ond mae'r Blaid Lafur wedi beirniadu'r oedi sydd wedi bod ac yn galw am weithredu ac am gryfhau'r mesur yn gynt.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU wrth Newyddion S4C y bydd y mesur "arloesol" yn dod yn gyfraith "mewn ychydig o fisoedd".

Ond mae elusen Barnardo's yn pryderu am ddiogelwch plant dros wyliau'r haf, wrth i bobl ifanc dreulio mwy o amser ar-lein gan nad ydynt yn yr ysgol.

Dywedodd Louise o Barnardo's Cymru: "Ma'r rhyngrwyd yn gallu rhoi cyfleoedd ardderchog i blant, yn gymdeithasol ac yn addysgol ac mae'r rhan fwyaf o blant yn gallu defnyddio'r we yn saff iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Louise o Barnardo's Cymru bod gan blant fwy o amser i ddefnyddio'r we yn ystod yr haf ac felly yn fwy agored i gamdriniaeth

"Ond ni'n gwbod bod camfantais rhywiol yn digwydd ar-lein hefyd.

"Yn y gwyliau haf, ma' plant ddim yn yr ysgol, so ma' mwy o amser efo nhw i ddefnyddio'r we. Felly gall pobol sydd mo'yn cam-drin plant a chamfanteisio plant, dargedu plant ar-lein."

Pryder i rieni

Mae cyfrifiaduron, ffonau symudol a gemau ar-lein yn denu nifer o blant ac mae dirgelwch y byd digidol yn medru bod yn boen meddwl i rieni.

Dywedodd Rachel o Gwmrheidol ger Aberystwyth ei bod yn pryderu am ddiogelwch ei phlant ar-lein.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rachel o ardal Aberystwyth ei bod yn pryderu am ddiogelwch ei phlant ar-lein a'i bod wedi cyflwyno mesurau er mwyn ceisio'u diogelu

"Dwi'n pryderu trwy'r amser fel rhiant, chi mo'yn cadw'ch plant yn saff yn dydych chi," dywedodd.

"Ond dwi'n gobeithio bod ni fel rhieni wedi rhoi digon o bethe yn eu lle, a ni 'di sgwrsio amdano fe fel bod y plant yn aros yn saff. Ma' pob dyfais sydd gyda nhw yn gysylltiedig i e-bost fy ngŵr i.

"Wrth weld y newyddion, a phethe ar y we fy hun, ma' fe'n bwysig bod pethe yn eu lle cyn i unrhyw beth ddigwydd."

Mae'r teulu wedi mynd ati i geisio cadw'r plant yn ddiogel ar-lein drwy sicrhau cyfathrebu clir ac mae'r plant, Dollie a Herbie, yn ymwybodol iawn o beryglon y we.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dollie a Herbie eu bod wedi cael cannoedd o bobl nad ydyn nhw'n eu hadnabod yn ceisio cysylltu gyda nhw ar-lein

Dywedodd Dollie: "Pan ni'n chware gemau ar-lein ni just yn chware gyda'n gilydd a gyda ffrindie ni fel arfer, ac os ni ishe chware gyda ffrind ni'n galw nhw i double checio bod e'n account nhw so ni'n gallu chware gyda nhw.

"A ni dim ond gyda pum ffrind achos - ni dim ond eisiau bod yn ffrindie gyda rhai ysgol a dim pobol ni ddim yn nabod".

Ychwanegodd Herbie: "A dwi di rejectio pobol eraill sydd wedi trio adio fi. Ar y foment dwi heb declino tua 600"

Ategodd Dollie: "Ie, ma' 'da fi fel 200 pobol yn trio adio fi, fi mynd i drio declino nhw gyd"

Mesur diogelwch ar-lein

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi "cryfhau'r mesur" er mwyn "amlinellu'n glir" y cyfrifoldebau a roddir ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol

Mae mesur diogelwch ar-lein Llywodraeth San Steffan ar hyn o bryd yn mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi, ond wedi tipyn o oedi mae Llafur yn galw ar y llywodraeth i weithredu'n gyflymach.

Dywedodd Nia Griffith, AS Llanelli: "Mae'n siomedig iawn ac mae'n beryglus iawn, achos dro ar ôl tro ers 2017, chwe blynedd yn ôl, ma'r Llywodraeth wedi gohirio'r peth.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Nia Griffith AS fod y gohirio sydd wedi bod wrth gyflwyno'r mesur yn "siomedig"

"Ac i fod yn onest mae'n drueni mawr achos mae cymaint o bobl ifanc yn mynd ar-lein ac wrth gwrs 'da ni'n gwbod bod cymaint o beryglon yna."

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU y bydd y mesur "arloesol" yn dod yn gyfraith "mewn ychydig o fisoedd".

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud eu bod wedi "cryfhau'r mesur" yn ystod y broses o'i lunio, er mwyn "amlinellu'n glir" y cyfrifoldebau a roddir ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol.

Pynciau cysylltiedig