'Mae angen biniau hylendid mewn tai bach dynion hefyd'
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion canser y prostad wedi disgrifio'r profiad "erchyll" o fethu ag ymatal rhag pasio dŵr wedi iddyn nhw gael llawdriniaeth.
Dywedodd un ei fod wedi teimlo "aflonyddwch ac embaras" am ei fod fel "tap yn rhedeg".
Mae'r elusen Prostate Cancer UK yn galw am ddeddfwriaeth i sicrhau bod biniau gwastraff hylendid ar gael mewn tai bach ar gyfer dynion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes wedi cyflwyno deddfwriaeth i wella adnoddau toiledau.
Fe gafodd Raymond Starr - gweithiwr gwasanaeth cyhoeddus wedi ymddeol o Abergele, yn Sir Conwy - wybod yn 2017 bod canser y prostad arno wedi i brawf sy'n cael ei gynnig i bobl dros 55 oed gofnodi lefelau abnormal.
Fe benderfynodd i gael prostadectomi radical, ble mae cathetr yn cael ei osod ac yna ei dynnu, sy'n aml yn arwain at fethu â rheoli pasio dŵr.
"Rydach chi'n ymwybodol o hynny, ond dwi'm yn meddwl eich bod yn llwyr ddeall be' sy'n debygol o ddigwydd," meddai.
"Ro'n i yn llythrennol fel tap yn rhedeg. Roedd yn erchyll. Ddois i'n aflonydd yn ei gylch. Ro'n i'n teimlo embaras.
"Bob tro ro'n i'n codi o gadair roedd yna ollyngiad. Os ro'n i'n trio mynd i fyny grisiau i'r tŷ bach, erbyn i mi gyrraedd ro'n i'n wlyb socian."
Dywed Prostate Cancer UK bod dim symptomau yn aml yng nghyfnodau cynnar y salwch, a sgil effeithiau triniaethau sy'n effeithio fwyaf ar ansawdd bywydau pobl.
Mae un o bob wyth dyn yn cael canser y prostad yn ôl yr elusen - sy'n pwysleisio pwysigrwydd gwybod beth yw'r risgiau.
'Ddim yn deimlad neis'
Tebyg oedd profiad Nigel Rowland - capten cwch tynnu o Aberdaugleddau yn Sir Benfro - wedi ei ddiagnosis yntau a phenderfyniad i gael llawdriniaeth fis Medi y llynedd.
Roedd yn gwybod, meddai, bod anymatal yn sgil effaith bosib, yn ogystal â diffyg ymgodol ond roedd eisiau cael gwared ar y canser.
Roedd y broblem rheoli dŵr, meddai, "yn eitha' OK" yn y cartref, ond yn drafferthus pan roedd yn barod i fentro o'r tŷ eto.
"Pryd bynnag oeddan ni'n mynd am dro, neu gyda ffrindiau am ddiod, roedd rhaid mynd â backpack gyda fi.
"Ry'ch chi'n rhoi clwt gwlyb socian mewn bag plastig - dau, efallai, ar y dechre. Roedd rhaid cerdded o gwmpas a ffeindio bin rywle, neu mynd ag e adref gyda chi."
Un tro, medd Mr Rowland, fe fethodd â chyrraedd y tŷ bach mewn pryd yn un o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wrth i'w ferch fynd i nôl ei fag o'r car.
"Erbyn i mi gyrraedd ro'n i mor wlyb roedd yn arllwys i lawr tu mewn i fy siorts," meddai. "Ro'n i mor embarassed ac anghyfforddus.
"I fod yn blaen, ro'n i wedi gwlychu fy hun yn ddrwg, a dyw e ddim yn deimlad neis."
Nod ymgyrch Boys Need Bins elusen Prostate Cancer UK yw sicrhau deddfwriaeth i'w wneud yn statudol i osod biniau gwastraff hylendid yn nhoiledau dynion.
Dywedodd Mr Rowland: "Mae'n seicolegol hefyd. Chi ddim mo'yn cerdded o gwmpas gyda'r hyn sydd newydd ddigwydd yn eich bag."
Ychwanegodd Mr Starr bod "annymunoldeb y cyfan" yn ei atal rhag gadael ei gartref a bod y cadachau y mae'r GIG yn eu darparu yn "eitha' trwchus".
"Lle 'dach chi'n cael gwared arnyn nhw? Mae'n amhosib. Mae'n effeithio ar eich iechyd meddwl ac yn cyfyngu ar eich rhyddid o ran symud o'r tŷ."
Dywed Mr Rowland ei fod wedi dechrau delio â'r sefyllfa trwy wneud jôc ohono gyda'i ffrindiau.
"Wnes i ei gymharu â cheir yn gwneud hyn a hyn o filltiroedd y galwyn... pan o'n i mas gyda ffrindiau roedd e'n hyn a hyn o beintiau y cadach."
'Annheg iawn'
Mae llawdriniaethau'r ddau ddyn wedi llwyddo, a dydyn nhw ddim yn diodde anymatal yn rheolaidd mwyach. Ond mae'r ddau'n gobeithio bod trafod eu profiadau'n agored yn codi ymwybyddiaeth am yr angen am finiau.
Dywed Mr Starr y gallai'r Senedd fod ar flaen y gad, gan ychwanegu: "Gobeithio y gallai Cymru fod y cyntaf i'w cyflwyno."
Yn ôl Nick Ridgman o Prostate Cancer UK, mae cannoedd ar filoedd o ddynion â thrafferth rheoli gwneud dŵr, ac mae'n "annheg iawn" bod llawer yn poeni ynghylch gadael y tŷ.
"Mae'n rhwystredig, mae'n creu pryder ac yn atal y dynion yma a'u teuluoedd rhag byw eu bywydau gydag urddas."
Ym mis Mai, fe gafodd anymatal ymhlith dynion ei drafod yn y Senedd. Cyfaddefodd yr AS Llafur Carolyn Thomas y bu'n "naïf" ynghylch y mater cyn cwrdd "ar hap" â chlaf canser y prostad ar drên a eglurodd bod rhaid rhoi ei gadachau gwlyb yn aml ym mag llaw ei wraig cyn iddyn nhw ddod o hyd i fin.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Yng Nghymru mae gofyn yn gyfreithiol i awdurdodau lleol lunio strategaethau toiledau a thrwy wneud hynny, dylen nhw fachu ar bob cyfle i siarad â'r cyhoedd a grwpiau cynrychiadol am yr heriau maen nhw'n wynebu... gwrando ar eu pryderon a sicrhau atebion posib.
"Rydym wedi rhoi canllawiau i awdurdodau lleol ac mae hyn yn tanlinellu bod tai bach hygyrch yn bwysicach i'r rhai â chyflyrau fel anymatal, mynd i'r toiled ar frys a phroblemau'r prostad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2018