Ymateb aruthrol i gynnig siop o bryd plant am £1

  • Cyhoeddwyd
Byrgyr, sglodion, afal a diodFfynhonnell y llun, Mel's Chippy
Disgrifiad o’r llun,

Dyma un o'r prydau y mae'r siop yn eu cynnig am £1

Mae perchennog siop sglodion sy'n cynnig prydau plant am £1 i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol yn dweud bod yr ymateb wedi bod yn aruthrol.

Mae'r prydau ar gynnig yn siop Mel's Chippy ym Mhen-y-groes, Sir Gâr, ers dechrau gwyliau'r haf.

Dywed y perchnogion, Sarah Lewis a'i gŵr Mel, eu bod wedi darparu dros 250 o'r prydau mewn llai na mis.

Mae cwsmeriaid a busnesau eraill hefyd wedi cyfrannu arian a bwyd er mwyn cynnal y cynllun.

A hithau'n weithiwr cymunedol profiadol oedd eisoes wedi darparu cawl am ddim fis Hydref y llynedd, dywedodd Sarah Lewis bod hi'n bryd gwneud rhywbeth tebyg nawr.

"Mae'n rhyfeddol - wnaethon ni ddim disgwyl i'r ymateb fod mor wallgof," meddai'r fam i chwech o blant.

"Mae hon yn ardal gyda nifer uwch na'r cyfartaledd o deuluoedd â phlant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim.

"Mae'r chwech wythnos [o wyliau haf] yn gallu bod yn wirioneddol anodd i'r mamau a thadau hynny allai fod yn cael amser caled cadw dau ben llinyn ynghyd.

"A gyda llai o gynlluniau cymorth... nag yn ystod Covid, ry'n ni just yn ceisio gwneud pethau bach yn haws i bobl."

Ffynhonnell y llun, Sarah Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Sarah Lewis sy'n rhedeg y siop sglodion gyda'i gŵr Mel

Dywedodd ei bod yn ofalus i osgoi'r stigma a allai codi yn sgil rhai mathau o gymorth darparu bwyd, gan anelu at wneud iddo fod "mor hawdd â phosib gyda dim biwrocratiaeth na ffurflenni i'w llenwi".

"Gall plant alw draw, dweud eu bod mo'yn pryd am £1 a dyna maen nhw'n ei gael."

Mae Ms Lewis yn ceisio amrywio'r hyn sydd ar gynnig yn gyson "oherwydd rwy'n gweld yr un wynebau fwy neu lai bob dydd trwy'r gwyliau.

"Rwy'n ceisio gwneud yn siŵr bod nhw ddim yn cael sglodion trwy'r amser."

'Dylanwadu ar y rheiny sydd mewn grym'

Maen nhw hefyd wedi darparu pasta, cyrri a reis, a phelenni cig gyda thatws stwnsh, ac mae bob pryd yn cynnwys darn o ffrwyth a diod.

"Rwy' just yn gobeithio bod syniadau bach fel hyn, lle mae pawb yn dod at ei gilydd, yn gallu creu ripple effect a dylanwadu ar y rheiny sydd mewn grym i weithredu newid er gwell," ychwanegodd.

Mae cynlluniau tebyg wedi cael eu cynnal mewn rhannau o eraill o'r wlad, gan gynnwys prydau am 50c i deuluoedd mewn angen yr haf diwethaf yng Ngwesty Ivor Hael Hotel yn Llwynypia, Rhondda Cynon Taf.

Mae'r Bloom Inn yn Sgiwen, Abertawe hefyd wedi cynnig prydau poeth am ddim yn ystod gwyliau'r haf "heb ofyn unrhyw gwestiynau" er mwyn helpu teuluoedd ymdopi â'r argyfwng costau byw.