Dyn o flaen llys wedi marwolaeth pencampwraig treiathlon

  • Cyhoeddwyd
Rebecca CominsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rebecca Comins ym adnabyddus ym maes treiathlkon yng Nghymru

Mae dyn wedi ymddangos o flaen llys ar gyhuddiad o achosi marwolaeth pencampwraig treiathlon Cymru.

Bu farw Rebecca Comins, 52, o Gil-y-coed, ar ffordd ger pentref Rhaglan, Sir Fynwy, ar 2 Mehefin 2022.

Roedd hi'n seiclo gyda'r nos, pan fu mewn gwrthdrawiad â fan Vauxhall Movano oedd yn cael ei gyrru gan Vasile Barbu, 48 oed o'r Fenni.

Ymddangosodd Mr Barbu gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, lle plediodd yn ddi-euog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Bydd yn ymddangos yn y llys eto ar 28 Ebrill 2024, ac mae disgwyl i'r achos bara pum diwrnod.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod.