Cymuned yn aros dros ddwy flynedd i ailagor ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yn Wrecsam wedi beirniadu eu cyngor sir wedi i bobl leol aros am dros ddwy flynedd a hanner i drwsio ffordd.
Gwnaeth glaw trwm Storm Christoph achosi tirlithriad a ddifrododd y B5605 ar lannau'r Afon Dyfrdwy a chafodd y ffordd ei chau yn Ionawr 2021.
Roedd y ffordd yn cael ei defnyddio'n aml gan bobl leol gan gynnwys cerbydau sy'n cludo disgyblion i Ysgol Min y Ddôl yng Nghefn Mawr.
Ond er i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid ar gyfer trwsio'r heol bron i ddwy flynedd yn ôl, does dim disgwyl i'r gwaith ddechrau tan fis Chwefror nesaf - mwy na thair blynedd ers ei chau.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam eu bod yn "awyddus i sicrhau bod adroddiadau cynnydd yn cael eu rhannu gyda pherchnogion tir, cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr cymunedol eraill, ac mi fyddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd trwy gyfryngau cymdeithasol cyn bo hir".
Ond mae cynghorwyr wedi mynegi pryderon am yr oedi sydd wedi bod.
"Mae cynghorwyr wedi mynegi eu pryderon ynglŷn â'r diffyg cynnydd gwirioneddol tuag at ailagor yr heol yma a'r effaith niweidiol mae hyn yn ei gael ar drigolion a'n cymunedau ehangach," dywedodd y cynghorwyr Frank Hemmings, Derek Wright, Stella Matthews, Paul Blackwell, Dana Davies a Rondo Roberts mewn datganiad ar y cyd.
"Er sicrwydd blaenorol y byddai'r heol yn ailagor erbyn Rhagfyr eleni, rydym wedi cael gwybod ddydd Mercher na fydd y gwaith trwsio yn dechrau tan Chwefror 2024 ar y cynharaf - mae hyn dros dair blynedd ers Storm Christoph a bron ddwy flynedd ers i Lywodraeth Cymru drosglwyddo'r cyllid llawn i'r cyngor."
Dywedodd y cynghorwyr eu bod am i drigolion lleol wybod eu bod yn gwneud popeth allan nhw i orfodi'r cyngor i fynd i'r afael â'r mater.
"Ymddiheurwn i'r rheiny sydd wedi'u heffeithio'n barhaol yn sgil cau'r heol yma.
"Ers i gyllid Llywodraeth Cymru cael ei gadarnhau rydym wedi lobïo'n barhaus er mwyn sicrhau bod y gwaith yn mynd yn ei flaen.
"Gallwn eich sicrhau bod y wybodaeth a phryderon trigolion lleol yn cael eu cynrychioli'n llawn.
"Rydym yn parhau i weithio gyda'n gilydd ac rydym yn gwthio am gwblhau'r rhaglen atgyweirio cyn gynted â phosibl tra'n sicrhau bod ein cymunedau yn cael gwybod am gynnydd gan gynnwys dyddiadau cerrig milltir allweddol."
Llethr ansefydlog
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam: "Mae'r problemau mynediad heriol i'r llethr ansefydlog wedi cael eu hasesu gan beirianwyr geodechnegol yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda rhagor o waith ymchwilio manwl yn yr ychydig wythnosau nesaf.
"Ar yr adeg yma efallai bydd yn profi'n bosib ailagor y ffordd yn rhannol dros dro tra bod gwaith yn cael ei gwblhau; ond bydd rhaid ystyried hyn yn ofalus a mesur a fydd yn oedi atgyweirio parhaol ymhellach.
"Tra nad oes modd cadarnhau'r rhaglen ar gyfer cam 2 tan fod manylion y cynllun yn gyflawn, y nod yw cwblhau'r cam erbyn Gorffennaf 2024.
"Mae'n bosibl y bydd rhagor o waith cysylltiedig yn parhau ar ôl i'r ffordd gael ei hailagor i draffig, ond ni fyddai'r rhain yn cael effaith ar ddefnydd y ffordd.
"Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'u contractwyr yn awyddus i sicrhau bod adroddiadau cynnydd yn cael eu rhannu gyda pherchnogion tir, cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr cymunedol eraill ac mi fyddwn yn darparu diweddariadau rheolaidd trwy gyfryngau cymdeithasol cyn bo hir."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023