Lle oeddwn i: Dafydd Iwan ac Yma o Hyd
- Cyhoeddwyd

Wrth i 'Yma o Hyd' gyrraedd brig siart iTunes yn dilyn ymgyrch gan y mudiad annibyniaeth YesCymru; bu Cymru Fyw'n holi Dafydd Iwan be' sbardunodd y gân bron i 30 mlynedd yn ôl:

Roedd y refferendwm wedi methu yn '79 ac roedd llawer ohona ni yn ddigalon braidd ac mi chwaraeodd y canu ran i godi ysbryd yn ôl.
Mi es i ar daith drwy Gymru efo Ar Log yn 1982 i gofio marw Llywelyn ap Gruffudd yn 1282, ac mi gyfansoddais i rai caneuon ar gyfer y daith honno, fel Cerddwn Ymlaen ac mi roedd hi'n daith arbennig o lwyddiannus.
Yn amlwg roedd rhaid i ni ddilyn i fyny efo taith y flwyddyn wedyn ac ar gyfer y daith honno roedd rhaid i ni gael rhyw fachyn a'r bachyn amlwg i mi oedd bod Gwynfor Evans wedi dweud rhywbryd mai'r flwyddyn 383, pan adawodd y Rhufeiniaid Cymru am y tro olaf, oedd y cyfle pan oedd Cymru yn gallu penderfynu tynged ei hun - o'r adeg hynny ymlaen...
Roedd hwnnw yn fachyn handi iawn ar gyfer y daith yn 1983 - 1600 o flynyddoedd ers i Macsen Wledig a'r Rhufeiniaid adael Cymru.
Dwi'n cofio eistedd lawr yn y tŷ yn Waunfawr yn meddwl am y syniad yna ein bod wedi para 1600 o flynyddoedd ac wrth gwrs mi ddaeth yr ymadrodd 'yma o hyd' i'r meddwl a'r ymadrodd 'er gwaethaf pawb a phopeth'.
Ac yna dwi'n cofio cyfansoddi'r gytgan yna 'Da ni yma o hyd, er gwaethaf pawb a phopeth da ni yma o hyd...' ac yna sgwennu'r penillion - gan ddechrau efo Macsen.
O be' dwi'n cofio, ar ôl i fi daro ar y syniad 383 a 1983 a'n bod ni wedi goroesi, unwaith daeth y syniad, dwi'n meddwl daeth y gân yn reit sydyn.
Fe wnaeth Ar Log drefniant o'r gân, a'i harafu hi lawr ychydig o be' o ni wedi sgwennu, ac wrth gwrs dyna'r fersiwn a recordiwyd a dyna'r fersiwn sy'n cael ei chwarae bellach ynde.
Roedda' ni'n gorffen pob noson ar y daith efo fi ac Ar Log yn canu'r gân, ac i bob pwrpas dwi'n gorffen pob cyngerdd ers hynny gydag Yma o Hyd.

Dafydd Iwan yn perfformio gydag Ar Log
Mae pob cân yn gorfod cael un syniad canolog, un bachyn, ac roedd y syniad yma o'r cychwyn mae'n debyg yn un oedd yn cydio.
Be' sy'n handi efo'r syniad 'da ni yma o hyd' ydi, nid yn unig ei fod yn berthnasol i Gymru, ond mae llawer o glybiau pêl-droed a rygbi wedi licio'r syniad, yn enwedig os ydi nhw wedi bod yn y gwaelodion neu wedi bod mewn peryg ac wedi dod nôl - mae'r syniad 'er gwaetha pawb a phopeth da ni yma o hyd' yn berthnasol iddyn nhw.
Er enghraifft, wnaeth Wrecsam ddefnyddio'r gân fel ymgyrch i godi arian i brynu'r clwb.
Mae Llanelli yn ei chwarae hi, a hefyd mae wedi cael ei chwarae yn y stadiwm cenedlaethol a Stadiwm Caerdydd.
Yn Stadiwm Caerdydd mae'n debyg y clywodd y Manic Street Preachers y gân ac roedd canwr y Manics yn dweud fasa fo'n licio tasa fo wedi ei sgwennu hi, oherwydd yr angerdd.

Mae'n gyfuniad o'r syniad sy'n bachu a'r angerdd, ac mae wedi para.
Be' mae'r ymgyrch yma i'w gael i frig y siart wedi dangos ydi bod hi wedi taro nodyn efo'r ymgyrch annibyniaeth.
Mae'n amlwg bod yr ysbryd cenedlaethol yn siwtio'r gân, neu'r gân yn siwtio'r ysbryd, achos mi gododd yn y siartiau yn sydyn iawn, iawn.

Hefyd o ddiddordeb: