'Ysgol Breswyl a fi'
- Cyhoeddwyd
Yn wyth oed fe adawodd Craig ab Iago ei rieni a mynd i aros mewn ysgol breswyl. Fyth ers hynny mae wedi brwydro i wneud synnwyr o brofiadau'r cyfnod, a chymhlethdod ei deimladau tuag at ysgolion o'r fath.
Mewn rhaglen arbennig i BBC Radio Cymru, Ysgol Breswyl a fi, mae Craig yn rhannu ei brofiadau gyda'i ffrind, Beca Brown.
"Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd ysgol bonedd tan i fi fynd yno," meddai Craig. "O'n i'n byw yn Cyprus ar y pryd ble roedd fy nhad yn yr RAF, ac 'nes i a fy mam deithio o fanna i Loegr.
Mae gan Craig atgofion clir o'i ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol breswyl.
"Aethon ni i ryw adeilad mawr, o'n i'n gwisgo gwisg hollol newydd efo tam o' shanter (math o het). Roedd 'na ddyn yn ein tywys ni rownd yr ysgol. Aethon ni i dŷ mawr ble roedd pawb yn cysgu.
"Es i fyny'r grisia ac agor y suitcase, a wedyn 'nath y matron yno ddweud imi fynd lawr grisiau i chwarae snwcer gyda rhai o'r bechgyn arall. Ond ar ôl 10 munud roeddwn eisiau mynd i weld mam. Es i fyny a 'nath y matron ddweud yn oeraidd iawn 'Mae dy fam wedi mynd yn ôl i Cyprus, ti'n aros yma rŵan'. A dyna oedd y tro d'wetha' imi ei gweld hi am bedwar mis."
Roedd gwahanu o'i deulu mor ifanc yn brofiad emosiynol, meddai.
"Pan oedd mam a dad a'n chwiorydd yn mynd â fi i'r maes awyr, os fysa mam 'di rhoi da-da i fi ar y ffordd, mi faswn i wedi bwyta'r da-da. Faswn i'n cadw'r wrapper yn fy mhoced i tan y tro nesa' dwi'n gweld hi - rhyw bedwar mis. Mae yno angen i gadw dy fam yn agos i ti.
"Ti'n crio ar y diwrnod cyntaf, ond yn sylweddoli'n gyflym iawn mai chdi 'di'r unig un sy'n crio. O fewn tri diwrnod ti'n dysgu i stopio dangos emosiynau. Yna'n sydyn iawn ti'n dysgu bod angen stopio teimlo'r emosiynau - ti jest ddim yn teimlo nhw ddim mwy.
"Dyna'r prif broblem gyda ysgolion bonedd yn fy marn i - y busnes 'na bod rhaid cau yr emosiynau lawr, sy'n iawn yn y sefyllfa yna achos mae dangos emosiynau mewn awyrgylch yna'n golygu bod ti'n wan, a ti ddim isio bod yn wan achos os ti'n wan mae 'na bobl predatory yna sy'n mynd i weld hynny. Mae'n survival technique, ac mae gan bob blentyn hynny ynddyn nhw - maen nhw'n dysgu sut i oroesi, a dyna beth 'nes i. Ond yn anffodus pan ti'n gadael ysgol dydi'r sgiliau yna ddim yn helpu chdi ymdopi mewn byd llawn oedolion."
Yn hanesyddol mae gan ysgolion bonedd Prydain berthynas agos â'r fyddin. Roedden nhw'n ffordd o gynnig addysg i blant swyddogion, ac yn lle i feithrin arweinwyr y dyfodol.
"Roedd tadau lot ohonom ni'n cwffio yn Rhyfel y Falklands. Felly os oeddech chi'n cael neges i weld y prifathro roeddech chi'n ofnus iawn achos roedd siawns bod eich tad chi wedi marw - ac roedd hynny fel rhyw norm. 'Nath o ddigwydd i lot o blant yno, ac roedden nhw'n gadael y swyddfa heb hyd yn oed crio, a doedd neb yn trafod y peth.
"Dwi'n sôn am hyn am ei fod yn esbonio i raddau math o emotional disfunction.
"Mae nhw'n deud bod tri math o berson yn dod allan o awyrgylch fel'na. Person sydd methu ymdopi efo bywyd a sydd yn y pen draw mynd yn sâl neu gymryd bywyd eu hunain - nhw oedd y bobl 'gwan' yn yr ysgol.
"Yr ail fath o berson yw'r rhai sydd heb empathi o gwbl, sy'n edrych fel bo' nhw'n llwyddo, a nhw yn y diwedd sydd yn rhedeg pethau pwysig.
"Yna mae'r traean arall, sef y rebel, sy'n ymateb i'r sefyllfa a dweud 'na dwi ddim am gymryd hyn'. Maen nhw'n cwffio yn erbyn y sefydliad, a ddim yn hoffi unrhyw fath o anghyfiawnder, ac mae hynny'n gallu rheoli eu bywyd nhw."
Yn 12 oed aeth Craig i ysgol arall, oedd yn lle caled a digyfaddawd.
"Dwi'n cofio mam yn fy ngollwng i yn yr ysgol newydd, 'nath i ddadbacio'n nillad i, es i lawr grisiau i ddweud ta-ta wrth hi. Pan es i'n ôl fyny oedd y plant oedd y plant di tynnu'n nillad i allan ac yn mynd drwyddo nhw a dewis beth oedden nhw isio - dyna'r math o ysgol oedd hi.
"O'n i'n gyflym yn yr ysgol ac yn gallu cwffio. O'n i'n gorfod cwffio dros Gymru yno achos fi oedd yr unig Gymro.
"Roedd rhaid i chi addasu yn sydyn i oroesi, ac 'nes i lwyddo i wneud hynna. Ar ôl ysgol, gan bo chi 'di creu y mwgwd 'ma a chwarae rhan, dydi hyn ddim yn rhywbeth sy'n helpu ti i greu perthynas efo hogan, neu perthynas efo neb, achos pwy wyt ti? Ti'n fwgwd yn fwy na ti'n berson."
Camdrin rhywiol
Ond yn y ddwy ysgol, roedd erchyllterau gwaeth hyd yn oed na'r ymladd. Mae un athro o'r ysgol gyntaf sy'n aros yn y cof.
"Roedd yn byw mewn tŷ efo hogia ifanc, yn ein gwylio yn y cawodydd. Roedd o wastad yn flin, a dwi'n ei gofio'n syllu arnon a'n gweld fel sexual objects. 'Nathon ni gyd ddysgu sut i newid ein dillad, o pyjamas i wisg ysgol, heb ddangos croen. Dwi dal yn cofio'r patrwm.
"Fe wnaeth pethau newid ar ôl hynny, roedd o'n deall bo' ni'n gwybod ei fod yn ein gweld ni fel 'na."
Wedi gadael yr ysgol yn 17 oed, daeth Craig i gysylltiad gyda'r cyn-athro yma unwaith eto. Roedd Craig angen codi £3,000 o bunnoedd ar gyfer taith i Seland Newydd, a gofynodd i'r ysgol am gymorth. Yn annisgwyl, daeth ateb ac arian gan y cyn athro yma.
"Heb ei gyfraniad fyswn i ddim wedi gallu mynd. Felly 'nes i feddwl 'falle mod i wedi cam-ddeall y boi'..."
Fe wnaeth y ddau gadw mewn cysylltiad am rai blynyddoedd. Pan oedd Craig yn 30 oed fe wnaeth ei gyfarfod i wylio gêm rygbi ryngwladol. Erbyn hyn roedd Craig wedi dechrau cwestiynu elfennau o'i brofiadau yn yr ysgol breswyl, ac roedd un ffrind penodol yn dal i chwarae ar ei feddwl. Roedd y ffrind yma wedi diflannu yn ddi-rybudd, a Craig wedi dod i amau ei fod wedi ei gam drin yn yr ysgol. Penderfynodd Craig holi'r cyn athro am ei ffrind coll.
Roedd esboniad yr athro yn annisgwyl, gan ddweud fod y ffrind yma wedi rhedeg i ffwrdd a mynd i fyw ar y stryd.
"Fo oedd un o'r bobl gorau dwi erioed di cwrdd, yn dda am chwaraeon, yn glyfar ac yn boblogaidd... rhedeg i ffwrdd? Dwi ddim yn meddwl fysa fo byth yn gwneud hynna."
Cafodd Craig help cyn-plismon i drio ffeindio ei ffrind ysgol.
Daeth y cyn-blismon yn ôl i ddweud bod yr athro wedi ei gael yn euog o fod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant. Roedd yr ymchwiliadau hefyd yn awgrymu fod y cyn-athro wedi camarwain Craig, ac nad oedd ei ffrind wedi rhedeg i ffwrdd a diflannu.
"Pam fysa fo'n creu y stori 'na i fi? Bod fy ffrind yn cysgu ar y stryd rhywle."
Doedd yr wybodaeth fod yr athro yn droseddwr rhyw ddim yn gyhoeddus eto, a Craig yn amau ei fod wedi ceisio ei atal rhag cyfarfod yr hen gyfaill a thrafod eu profiadau.
Cymreictod Craig
Mae Cymru a'r Gymraeg wedi bod yn allweddol wrth i Craig geisio gwneud synnwyr o'i brofiadau.
"Yn Saesneg mae hiraeth yn golygu 'longing', ond dwi'n meddwl mai 'belonging' ydyn ni - mae 'na linc rhwng chdi a Cymru - ti bia Cymru, ond falle bod o'n fwy fel Cymru bia ti.
"Dwi'n gwybod pwy ydw i rŵan. Mae 'di cymryd 40-50 mlynedd i fi ffeindio fy ffordd yn ôl i pwy o'n i cyn mynd i'r ysgol."
Effeithiau hir-dymor addysg breswyl
"Dwi 'di cael cannoedd o swyddi a channoedd o gariadon, achos y busnes mwgwd. Os ti mewn perthynas iach efo rhywun, ma 'na vulnerabilty yna a ma nhw'n gweld tu ôl i'r mwgwd. Mae pawb yn gwisgo un ac o'n i ddim yn siŵr beth oedd tu ôl un fi.
"Ti'n gorfod gadael rhywun weld tu ôl y mwgwd, ond o'n i ddim o gwbl - unwaith o'n i'n mynd yn agos at rywun o'n i ddim yn gallu ymdopi efo intimacy o gwbl."
Mae Craig bellach yn dad i dri o blant. Roedd pen-blwydd ei fab yn wyth oed - yr un oed ag oedd Craig yn mynd i ysgol breswyl - yn garreg filltir arwyddocaol.
"Pan o'n i'n wyth oed, o'n i'n cael trên, bws, awyren, aros mewn gwestai ar ben fy hun. Ond wrth weld fy mab yn wyth oed roeddwn i'n meddwl... mae o dal yn stryglo i gau ei greia. Fe wnaeth hyn i mi ailfeddwl beth ddigwyddodd i fi yn wyth oed, a meddwl doedd hynny ddim yn iawn.
"Doeddwn i ddim yn stryglo achos bo' fi'n wan neu ddim digon annibynnol, ond achos o'n i'n wyth oed!"
Mae Craig yn rhan o rwydwaith o bobl eraill wnaeth fynd i ysgolion preswyl. Mae siarad a rhannu profiadau gydag eraill wedi bod o gymorth iddo.
"Mae'n helpu i wybod mai nid just ti'n sy'n stryglo efo hyn. Yr elfen dwi'n ffeindio'n heriol ydy beth mae bobl eraill 'di meddwl o beth ddigwyddodd - "ti'n lwcus yn mynd yno". Ond ti ddim yn teimlo fel'na, ti'n teimlo'n anlwcus, a'n teimlo damage o gael dy adael ar ben dy hun."
Hefyd o ddiddordeb: