'Angen diogelu' iaith frodorol y Sipsiwn Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yn ymwybodol am beth o ddiwylliant y gymuned yng Nghymru, ynghyd ag unigolion amlwg fel Abram Wood, ond wyddoch chi fod yna iaith Sipsiaidd Gymreig?
Ers 2008, mae mis Mehefin yn fis i ddathlu Hanes Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae hwn yn cynnig cyfle i herio stereoteipiau a gwahaniaethu hiliol ac i ddathlu hanes a diwylliant cyfoethog y Sipsiwn.
Mae Bob Lovell yn ddisgynnydd i un o deuluoedd Sipsiaidd cyntaf Cymru, ac ef yw siaradwr olaf yr iaith. Yma, mae Allison Hulmes, sydd o dras y Kalé Cymreig - sipsiwn brodorol ein gwlad - yn egluro pa mor bwysig yw hi i ddiogelu iaith gynhenid ei chymuned:
Tua'r Gorllewin
Mae Sipsiwn Romani wedi byw yn y DU ers tua 500 mlynedd ers cyrraedd mewn grwpiau teuluol yn yr 16eg ganrif, ar ôl i'w cyndeidiau adael Gogledd India rhyw 1500 o flynyddoedd yn ôl er mwyn dechrau ar y mudiad hir tua'r Gorllewin.
Cafodd yr enw 'gypsy' ei roi ar y bobl Romani oherwydd y gred anghywir ein bod yn tarddu o'r Aifft (Egypt), ac er fod yr enw 'gypsy' yn cael ei ystyried yn derm hiliol gan Roma Ewropeaidd, mae bellach yn cael ei adhawlio gan nifer o Sipsiwn Cymreig a Saesnig.
Mae'r iaith, neu'r chib, Romani yn iaith Indo-Ariaidd, gydag elfennau sy'n deillio o Sansgrit hynafol sydd dal yn bresennol mewn tafodieithoedd Romani heddiw.
Roedd pobl Romani yn anllythrennog am ganrifoedd lawer, ac mae llythrennedd gwael yn parhau yn rhwystr i gydraddoldeb drwy Ewrop ac o fewn y DU hefyd. Tan yn ddiweddar, iaith lafar ar y cyfan oedd yr iaith Romani - heb iaith ysgrifenedig - wedi ei phasio o riant i blentyn, ac wedi esblygu wrth i'n cyndeidiau fudo draw i'r Gorllewin.
Y Kalé Cymreig
Mae Sipsiwn Cymreig wedi byw yng Nghymru ers dros 300 mlynedd, wedi mudo yma drwy Sbaen, ac yn cael eu hadnabod fel Kalé.
Daeth y teuluoedd Lovell, Lee, Scamp, Coopers, Florence, Price, Burton, Wood a Boswell yn frodorol yng Nghymru, a byddai pob un wedi siarad y chib Romani Cymreig.
Mae'r chib wedi ei cholli yn y canrifoedd diweddar, drwy gyfuniad o bolisïau cymathu, gan gynnwys newidiadau i gyfleoedd cyflogaeth yng nghefn gwlad sydd wedi effeithio ar draddodiadau crwydrol y Sipsiwn Cymreig.
Daw fy Kako (ewythr) Bob Lovell o linach didoriad o 12 cenhedlaeth o Sipsiwn Cymreig - un o'r teuluoedd cyntaf i ffurfio'r llwythau yma - a fe yw siaradwr olaf yr iaith Romani Cymreig, a gafodd ei basio i lawr o'r tad i'r mab. Mae'n angerddol dros ddiogelu'r dafodiaith, a hynny ers yr 1990au, pan fu farw ei dadus (tad) a sylweddolodd fod angen cofnodi'r dafodiaith yn ei ffurf lafar draddodiadol.
Mae'n ysgrifennu caneuon, dolen allanol - yn aml am ein teulu - yn ein tafodiaith.
Mae Juice Vamosi, Roma o Hwngari, yn gweithio fel dehonglydd Romani yng Nghyngor Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd, ymysg eraill. Pan glywodd Bob Lovell yn siarad y chib, dywedodd ei fod yn siarad "geiriau hynafol, gyda gramadeg hynafol, prydferth. Mae nifer o'r geiriau mae Kako Bob yn eu defnyddio wedi eu colli yn y rhan fwyaf o dafodieithoedd, a ddim ond wedi goroesi mewn rhai ohonynt."
Cofnodi iaith ar gof a chadw
Cafodd unrhyw ymgais i gofnodi'r iaith ar bapur ei wneud gan academyddion oedd ddim yn Romani eu hunain, gyda nifer yn perthyn i'r Gypsy Lore Society, gan cynnwys y chwedleuwr John Sampson a luniodd eiriadur y Sipsiwn Cymreig ddiwedd yr 1900au.
Er mor bwysig, yn ddi-os, yw cael enghreifftiau ysgrifenedig o'r iaith, rhaid darllen rhain yn ofalus. Mae camgymeriadau a'r hyn sydd wedi eu hepgor - rhywbeth sydd yn amlwg i siaradwr olaf y chib Romani Cymreig - o bosib yn deillio o feddylfryd gwladychol a safbwynt bersonol yr awdur a roddai fwy o bwysigrwydd ar rai teuluoedd dros eraill, ac a benderfynodd ei hun pa fersiwn o'r iaith Romani oedd y mwyaf dilys (fel petai e'n gwybod!).
Y gwir amdani yw fod y rhan fwyaf o'r Sipsiwn Cymreig bryd hynny yn byw bywyd crwydrol, yn hawking (gwerthu), dukkering (dweud ffortiwn), hogi cyllyll, cyfnewid grai (ceffylau) a chasglu hopys.
Byddan nhw wedi profi canrifoedd o orthrwm ac anffafriaeth gan y wladwriaeth - gyda'r nod o'n cymathu neu ein gwaredu o'r DU. Annhebygol y byddan nhw wedi ymwneud â'r chwedleuwyr oedd yn cloddio ein hieithoedd a'n harferion diwylliannol, heb sôn am rannu eu hiaith â nhw.
Mae hi hefyd yn bwysig cofio fod yr iaith Romani Cymreig yn un lafar, sydd â chysylltiad dwfn â thirwedd Cymru ac â Sansgrit hynafol, ac o ganlyniad roedd angen ei chlywed er mwyn cael yr ynganiad, pwyslais a symudiad cywir; mae iaith yn rywbeth byw, nid llonydd.
Cyhoeddodd y chwedleuwyr fod y chib fwy neu lai yn farw yn yr 1930au, sydd yn amlwg ddim yn wir. Dylem ystyried hyn yn ymgais arall mewn rhes hir o ymgeisiadau i ddileu a distewi diwylliant, treftadaeth a hunaniaeth ethnig Sipsiwn Cymreig.
Mae fy mam yn cofio'r iaith yn cael ei siarad pan oedd hi'n blentyn. Byddai hi wedi ei basio ymlaen i mi a fy mrodyr a chwiorydd, os na fyddai hi wedi cael ei rhoi yng ngofal ei modryb yn syth ar ôl y Rhyfel, rhywbeth cyffredin i nifer o blant Romani. Dyma ddull arall a gafodd ei ddefnyddio i rwygo iaith lafar o'r gymuned.
'Yma o hyd'
Yn 2019 cyhoeddodd Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig fod 2022-2032 yn cael ei adnabod fel Degawd Ryngwladol Ieithoedd Brodorol, dolen allanol, gan gydnabod fod gymaint â 3,000 o ieithoedd mewn peryg o ddiflannu cyn diwedd y ganrif, sydd tua dwy iaith yr wythnos.
Heddiw, dylem roi i'r dafodiaith Romani Cymreig y gofal a'r adnoddau rydyn ni wedi eu rhoi i ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg. Yng Nghymru, rydyn ni'n gwybod mai hawl dynol yw i gael mynediad i'ch iaith eich hun, a bod goroesiad ein hunaniaeth ethnig a threftadaeth ddiwylliannol ynghlwm â iaith/chib.
Fel Sipsiwn Cymreig, mae ein teuluoedd wedi bod yn rhan sylfaenol o dirwedd a hanes Cymru am dros 300 mlynedd. Mae patrins (olion) ein bodolaeth wedi eu cofnodi mewn enwau lleoedd - faint ohonon ni sydd yn byw ger 'Lôn Sipsi' neu 'Croes Sipsi'?
Rydyn ni yma o hyd, a byddwn yn parhau yma, er fod dylanwad gwladychiaeth yn effeithio ar wybodaeth a diwylliant brodorol hyd heddiw - gyda thraddodiad a throsglwyddiad iaith yn rhan o hynny.
Dylem ni ddim ailadrodd niwed y gorffennol, ac mae'n hollbwysig trwsio ac adfer ieithoedd brodorol mewn dulliau sydd yn sensitif i'r diwylliant, gyda brodorion yn arwain ar yr ymgais.
Fel cenedl, mae Cymru wedi ei hymrwymo i amrywiaeth, cydraddoldeb, i gynnig lloches ac atal hiliaeth. Mae gennym ni ymrwymiad egwyddorol i genedlaethau'r dyfodol - nid dim ond Sipsiwn Cymreig, ond pawb yng Nghymru - i ddiogelu iaith unigryw Romani Cymreig, a gafodd ei ffurfio yn ôl traddodiad lafar y cymoedd, mynyddoedd a llwybrau ein gwlad annwyl, a sydd ond yn cael ei siarad yma, cyn i Bob Lovell, y siaradwr olaf, ein gadael... gan fynd â'r chib gyda fe.
Hefyd o ddiddordeb: