Y ffermwr sy'n creu argraff yn rygbi'r gynghrair
- Cyhoeddwyd
Jonathan Davies, John Devereux, Jim Mills ac Adrian Hadley; rhai o enwau mwyaf hanes rygbi'r gynghrair yng Nghymru, ac maent i gyd wedi chwarae dros glwb Widnes.
Heddiw, mae ffermwr o ganolbarth Cymru, Huw Worthington, yn gwisgo crys du enwog y clwb.
Mae Huw newydd arwyddo cytundeb proffesiynol gyda'r Leeds Rhinos, un o glybiau mwyaf Lloegr, ond ar y funud mae'n chwarae ar fenthyg gyda'r Widnes Vikings.
Yn hogyn fferm o Sir Drefaldwyn, mae ei siwrnai wedi cynnwys chwarae dramor a rhagori yn nwy ddisgyblaeth y gamp; rygbi'r undeb a'r gynghrair.
"Ges i fy magu ar fferm ddefaid a gwartheg tu allan i Ben-y-bont-fawr yn y canolbarth", meddai Huw.
"'Nes i ddechrau chwarae rygbi yn yr ysgol uwchradd, ac yna chwarae i glwb COBRA (Caereinion Old Boys Rugby Association) ym Meifod. Pan o'n i tua 15 neu 16 ges i fy mhigo gan RGC (Rygbi Gogledd Cymru), gan chwarae iddyn nhw dan 16 a dan 18. Yna 'nes i'r cam i chwarae dros y tîm cyntaf.
"Es i goleg amaeth Reaseheath yn Nantwich am dair blynedd, a gan fod o'n agos i Gaer o'n i'n gallu teithio i ogledd Cymru i chwarae dros RGC."
Symud i Awstralia
Ar ôl chwarae dros RGC aeth Huw i chwarae dros Bedford a Richmond yn ail adran Lloegr, gan hefyd dreulio pum mis efo'r Worcester Warriors. Ond wedi hynny fe newidiodd ei fyd yn llwyr gan newid i rygbi'r gynghrair a symud dramor.
"O'n i'n meddwl ers blynyddoedd bod y ffordd dwi'n chwarae'r gêm yn siwtio rugby league yn well. Dwi'n enjoio'r ochr gorfforol i rygbi, ac mae league gêm galetach. Ond gan mod i o Gymru, lle di'r gêm gynghrair ddim mor boblogaidd, doedd 'na ddim lot o glybiau o gwmpas i mi drio'r gêm," meddai.
"O'n i 'di meddwl am y peth ambell i waith, ond do'n i ddim yn gwybod i ba gyfeiriad i fynd i 'neud y newid. Jest cyn cyfnod Covid o'n i'n fod i fynd draw i Seland Newydd i chwarae, ond gath hynna ei nocio ar ei ben wrth gwrs. Yn ystod Covid doedd 'na ddim lot o chwaraeon ar y teledu, heblaw NRL (cynghrair rygbi'r gynghrair Awstralia), ac 'nes i jest cwympo mewn cariad efo'r gêm o fanna.
"'Nes i benderfynu'n syth pryd fydde'r ffiniau'n agor ar ôl Covid y byswn i'n rhoi'r gorau i gêm yr undeb a rhoi cynnig ar rygbi'r gynghrair allan yna, achos dyna'r lle gorau yn y byd i ddysgu'r grefft.
"Odd 'na foi o'n i'n 'nabod o'r Cantebury Bulldogs, felly 'nes i sgwennu rhywfath o CV a dweud be o'n i'n gobeithio ei wneud. 'Nathon nhw gynnig treial imi yna a contract i wneud y pre-season, ond 'nes i fethu achos cyfyngiadau Covid. Roedd rhaid imi aros rhyw flwyddyn a hanner cyn mynd allan 'na, ac o'n i yna tua mis Mawrth 2022.
"'Nes i arwyddo gyda chlwb yn Sydney o'r enw Glebe Dirty Reds, sef un o'r clybiau hynaf yn Awstralia. O'n i efo nhw am hanner y tymor, ac yna ges i fy mhigo ar gyfer rhywfath o ail dîm y Sydney Roosters yng Nghwpan New South Wales."
Y Sydney Roosters ydy un o glybiau rygbi'r gynghrair mwya'r byd ac mae'n cael ei ystyried fel dipyn o glwb 'glamour' gan weddill y gynghrair.
"'Nes i ddim chwarae i'r Roosters yn yr NRL ond mi roedd safon y NSW Cup yn uchel ofnadwy, gyda llwyth o chwaraewyr NRL yno. Mae'rNSW Cup tua'r un safon a gwaelod y Superleague (prif adran Ewrop). O'n i yna tan diwedd mis Mai i ddechrau mis Mehefin, ac ddos i adref ar ôl hynny."
Ar ôl i Huw ddod nôl fe dreuliodd fis gyda'r Huddersfield Giants, ond doedd o ddim yn gweld y lle fel man hirdymor iddo chwarae.
"Rŵan dwi 'di arwyddo efo'r Leeds Rhinos tan diwedd y flwyddyn" esbonia Huw, "ond dwi ar fenthyg gyda'r Widnes Vikings am gyfnod er mwyn cael chwarae'n gyson. Dwi'n gwario'r wythnos efo Leeds ac yn gwneud un neu ddau sesiwn gyda Widnes."
Cefnogaeth anferth gogledd Lloegr
Mae rygbi'r gynghrair yn cael ei gymharu i grefydd mewn mannau o ogledd Lloegr, ac mae Huw yn dweud ei fod wedi gweld y gefnogaeth arbennig dros ei hun y tymor yma.
"Dwi 'di bod i weld Leeds dipyn yn ddiweddar ac maen nhw'n cael torf o 20,000. Mae'r gêm yn anferth yng ngogledd Lloegr, a gan bod y trefi reit agos i'w gilydd mae 'na lot o densiwn gyda'r ffans yn mynd i stadiwm ei gilydd."
Ydy Huw'n gobeithio cael cyfle i chwarae rygbi'r gynghrair dros Gymru rhyw ddydd?
"Yn sicr. Dwi'n gwybod bo nhw'n rhywfath o gadw llygaid arna i, ac mi roedden nhw'n gwneud tra oeddwn i'n Awstralia hefyd. Ond bysa fo'n grêt cael chwarae dros fy ngwlad.
"Dwi yn y lle iawn ar hyn o bryd, felly ma' fyny i fi chwarae'n ddigon da. Dwi ddim yn siŵr ond efallai mai fi fysa'r unig chwaraewr sydd yn dod o Gymru ac yn siarad Cymraeg yn y tîm, ond 'sa'n fraint i allu chwarae dros Gymru."
'Anwybyddu bechgyn y gogledd'
O'i brofiadau o chwarae dros COBRA ac yna RGC mae Huw o'r farn bod dim digon yn cael ei wneud i feithrin y talent rygbi sydd yng nghanolbarth a gogledd Cymru.
"Mae 'na chwaraewyr sydd yn sicr wedi llithro drwy'r rhwyd yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Mae RGC yn gwneud be ma nhw'n gallu ei wneud, ond dydyn nhw ddim yn cael hanner digon o'r help mae nhw angen.
"Mae 'na rhyw filiwn o bobl yn byw yn y gogledd a'r canolbarth, felly da ni'n colli traean o'r wlad am bod nhw ddim yn byw ar coridor yr M4. Os ti'n mynd lawr i Seland Newydd, mae ganddyn nhw ranbarth ym mhob rhan o'r wlad - does 'na neb yn cael ei fethu yno, yn wahanol iawn i ogledd Cymru.
"Dyna ddigwyddodd i fi a swp o chwaraewyr eraill, ti'n chwarae regional age grade, yna dan 18, yna'r bencampwriaeth a wedyn uwchgynghrair Cymru... ond dyna fo, does 'na nunlle arall i ti fynd i wella- does dim rhanbarth [fel sy yn y de].
"Do, gath George North ei bigo fyny er ei fod o'r gogledd, ond mae George North yn freak of nature ac mi fysa fo'n cael ei bigo i chwarae ar y lefel uchaf o ble bynnag oedd o'n dod.
"Mae 'na lwyth o fois dwi 'di chwarae efo o'r gogledd fysa wedi gallu bod yn ddigon da i chwarae'n rhanbarthol, a pwy a ŵyr efallai'n rhyngwladol. Tan mae Undeb Rygbi Cymru'n cywiro hynny alla i ddim gweld sut mae Cymru byth am gystadlu am Gwpan y Byd ayyb yn gyson. Allwn ni ddim cario mlaen i anwybyddu talent un rhan o dair o'r wlad."
Dal i ffermio
Er ei fod yn hyfforddi rygbi drwy'r wythnos a chwarae ar benwythnosau, mae Huw yn parhau i helpu ar y fferm pan mae'n gallu.
"Dwi'n ei fwynhau o. Dwi'n byw tu allan i Manchester efo fy mhartner, ac mae ond yn cymryd jest dros awr i fynd nôl i'r fferm adre'. 'Dwi'n trio mynd nôl unwaith neu ddwy yr wythnos.
"Mae Mam a Dad adref, y brawd yn gweithio i Wynnstay ac yn ffermio adref, ac mae fy chwaer yn teithio rownd Awstralia ar hyn o bryd efo'i chariad.
"Mae 'na ddau beth dwi'n teimlo'n angerddol amdano; rygbi a ffermio, a dyna dwi isio gwneud ar ôl gorffen chwarae. Mae Dad reit ifanc ac yn iach diolch byth, felly mae rygbi'n ffordd i fi wneud bywoliaeth 'nes bo fi'n dod adre' i ffermio ar fferm y teulu yn y dyfodol.
"Mae fy rhieni wedi bod yn andros o gefnogol tra dwi 'di bod ffwrdd yn chwarae, ond dwi'n trio dod nôl weithiau i helpu pan alla' i."
Beth bynnag fydd dyfodol Huw yn ei yrfa rygbi mae'n cadw'n driw i'w wreiddiau yng nghanolbarth Cymru, a'r fferm deuluol ym Mhen-y-bont-fawr.
Hefyd o ddiddordeb: